Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Richard Williams (rhes flaen - ail ar y dde) Llythyr milwr
Rhagfyr 2008
Diolch i Mrs Una Fromel, Morawelon, Gorad, am gysylltu a mi ar Sul y Cofio.

Roeddwn newydd wrando ar lythyrau a anfonwyd at anwyliaid gan filwyr y Rhyfel Mawr yn cael eu darllen ar y radio.

Addas iawn oedd clywed ar y pryd fod llythyr a anfonwyd gan fachgen ifanc o Rydwyn, brawd nain Mrs Fromel, wedi ei drysori gan y teulu am dros bedwar ugain a deg o flynyddoedd, ynghyd a'r lluniau.

Roeddynt ar gael imi eu hanfon i'r Rhwyd. Mawr ddiolch, gan nad oes dim fel llythyr gonest milwr o'r ffosydd i'n hatgoffa am erchyllter rhyfel mewn unrhyw oes.

A dyma'r llythyr

Annwyl fam a thad,

Wel dyma fi'n anfon gair bach i chwi gan fawr obeithio eich bod yn iach fel ag yr wyf finna ar hyn o bryd. Pte. Richard Williams, 59744 B Comp, 6 Platton, 17th Btl, Royla Welsh Fusiliers, RE.F. France.

Derbyniais y parsal ar llythyr yn saff bora Sul ac mi oedd y grempog yn bur dda. Papur ysgrifennu, sigarets, baco, crempog a phapur newydd oedd ynddo fo. Eistedd yn y trench oeddwn i pan gefais i o yn gwrando ar y bwledi a'r shels yn mynd fel glaw dros fy mhen i.

20 llath sydd rhwng y Jermans a ni, dim ond rhyw afon ydi hi.

Lle ofnadwy sydd yma, gwlad o dân. Fedar neb ddim dweud digon o wir amdani, does dim eisiau dweud celwydd. Yr hogia'n syrthio o'u hunion sefyll eisio cysgu ac eisio bwyd. Methu deall sut ydan ni'n dal, ac mae hi wedi altro y dywydd yma wan i fwrw glaw, ac mi ellwch feddwl bod hi'n ddrwg.

Dim lle i wardio dim i newid, a dim ond chwarter fara yn y bora, dim wedyn tan bora wedyn. Mi rydan ni'n fwyta fo i frecwast ac mi fydd raid i mi fy heb ddim trwy'r dydd a'r nos. Mi gawn ddiod ganddyn nhw. Faswn ddim yn hidio dim gymaint tasu i'n cael llond fy mol o fwyd.

Wel mae'n bur ddrwg gennym i glywed fod yr hen Wil Berlin wedi marw. Cofiwch fi at i fam o.

Wel mae rhaid terfynu gan gofio atoch i gyd fel teulu yn y modd gora. Diolch yn fawr i chwi am y parsal, cofiwch at bawb. Llythyr buan eto.

Daeth o ddim adre i Rydwyn. Collodd ei fywyd ar 16 Mehefin 1917. Mae'n gorwedd ym Mynwent 'Bard Cottage', Gwlad Belg.

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý