Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Grŵp Celsain Gŵyl Menter Bro Dinefwr 2005
Mai 2005
Gŵyl Menter Bro Dinefwr 2005 (26 Mehefin - 2 Gorffennaf)
Pwy sydd yn dweud nad oes dim yn digwydd yn Nyffryn Tywi?
Gyda'r haf ar droed a'r nosweithiau'n ymestyn fe fydd rhywbeth at ddant pawb yn ystod wythnos gyfan o weithgareddau yng Ngŵyl Menter Bro Dinefwr.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynllun peilot y llynedd, mae'r Fenter wedi penderfynu datblygu'r Å´yl eleni a bydd wythnos gyfan yn Ilawn bwrlwm i drigolion y fro. (Gwelir uchafbwyntiau'r llynedd yn y lluniau.)

  • Agorir yr wythnos gyda Chymanfa Ganu ar nos Sul, 26 Mehefin yng Nghapel Newydd, Llandeilo pan fydd nifer o gorau lleol yn dod at ei gilydd mewn dathliad o leisiau'r ardal.

  • Bydd Eleri Sion (sylwebydd chwaraeon Ö÷²¥´óÐã Cymru) yn arwain Cwis Chwaraeon ar nos Lun, 27 Mehefin yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri.

  • Os mai barddoniaeth hwyliog sy'n mynd â'ch bryd, dewch i Neuadd Pumsaint ar nos Fawrth, 28 Mehefin i Stomp y Beirdd gyda Tudur Dylan Jones wrth y llyw.

  • Fel rhan o'r Å´yl mae yna gyfle unigryw i weld a chlywed Dafydd Iwan yn sgwrsio a chanu yn Nhafarn Penybont, Llanfynydd ar nos Fercher, 29 Mehefin.

  • Bydd Llew Davies gydag aelodau clybiau ffermwyr ifanc lleol ac artistiaid eraill yn ein diddanu mewn Noson Lawen yn Neuadd Llangadog ar nos Iau, 30 Mehefin.

  • Bryn Fôn a'r band yng ngŵyl Dinefwr 2004Uchafbwynt yr Å´yl fydd y penwythnos clo a fydd yn llawn o gerddoriaeth fyw ar fferm Glangwenlais, Cil-y-cwm. Ar nos Wener, 1 Gorffennaf bydd Bryn Fon a'r Band, Mattoidz, Quidest a Celsain yn perfformio a pheidiwch poeni am drefnu tacsi adref achos bydd cyfle i wersyllaar dir y fferm mewn lleoliad bendigedig, felly cofiwch ddod â'ch pabell neu garafan.

  • Bydd y plant wrth eu bod ar brynhawn Sadwrn 2 Gorffennaf rhwng 3 a 5 o'r gloch gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer yn cynnwys chwaraeon, castell bownsio a llawer o hwyl yng nghwmni Gwenda Owen a Superted!

  • I gloi'r Å´yl ar y nos Sadwrn bydd noson i'w chofio yng nghwmni Mynediad am Ddim, Bob Delyn a'r Ebillion, Elin Fflur a'r Band a Gilespi i rhoi clo ar wledd o gerddoriaeth fyw.

    Bydd pob un o'r digwyddiadau nos yn dechrau am 7.30pm gyda'r ddwy noson olaf yn cychwyn am 8.00pm. Mae tipyn o ddiddordeb eisoes yn y gweithgareddau felly cofiwch brynu eich tocynnau ymlaen llaw i osgoi siom.

    Am fanylion pellach am y nosweithiau, prisau mynediad neu i archebu tocynnau cysylltwch â ni yn y swyddfa. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ystod yr wvthnos.

    Manylion Cysylltu:

    Menter bro Dinefwr
    Swyddfeydd y Cyngor,
    Heol Cilgant,
    Llandeilo.
    SA19 6HW

    01558 825336

    menter@sirgar.gov.uk

    www.mentrau-iaith.com/dinefwr


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý