Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Keith Hanson yn ennill cwpan am y gorau yn adran yr oedolion yng ngharnifal Cribyn.  Gydag ef mae Gillian Elisa, y beirniad. Carnifal Cribyn
Awst 2005
Coronwyd tridiau o weithgareddau a gynhaliwyd gan Bwyllgor Henoed ardal Cribyn, gyda charnifal.

Cynhaliwyd llu o weithgareddau dros dridiau gan Bwyllgor Henoed yr ardal. I ddechrau ar y nos Iau, cynhaliwyd Helfa Drysor. Daeth llu o ymgeiswyr a chafwyd llawer o hwyl wrth ddadansoddi'r cliwiau. Aeth un car ar goll, tybed os yw e' wedi cyrraedd 'nôl erbyn hyn!

Yr enillwyr oedd Steve a Margaret, Bronygaer a Cynthia, Banc Villa. Yn ail, Eurwen Blaenwern, Bethan Pensarnfach, Eluned Bryniau a Betty Gerallt ac yn drydydd, Emyr, Olive a Rhydian Delfan. Da iawn chi, 'roedd gwledd yn disgwyl pawb yn ôl yn y pentre'.

'Roedd wyth o dîmau yn cystadlu yn y gystadleuaeth pêl-droed ar y nos Wener. Y ddau dîm a ddaeth i'r brig oedd Cei Newydd a Llambed, gyda thîm Cei Newydd yn ennill ar y nos Sadwrn. Cyflwynwyd tlysau i'r chwaraewyr a chwpan i'r tîm buddugol.

Cafwyd cystadlu gwych eto yn y Carnifal ddydd Sadwrn. Y beirniad oedd yr enwog Gillian Elisa (Sabrina ar Pobol y Cwm). Diolch iddi am gloriannu'r cystadleuthau ac am ei chyfraniad ariannol i'r achos. Y cyhoeddwr oedd Alan Henson.

Enillwyd Cwpan Sialens Owerx, Maesyronnen i'r plentyn â'r marciau uchaf yn y carnifal ac sy'n byw yn nhalgylch Ysgol Cribyn, gan Ianto, Frongelyn, a'r cwpan am y wisg orau o blith yr oedolion gan Keith Henson.

Yn dilyn, cafwyd y mabolgampau a llawer o fwynhâd wrth wylio'r cystadlu. Enillwyd Cwpan Sialens Evan Lloyd Davies am Gwrs Menter; Beics gan Jonathan, Dyffryn (dalgylch Ysgol Cribyn yn unig) a ras traws-gwlad gan John Suart, Dwynant. Llywydd y dydd oedd Eilir Jones, Brynderi (gynt o Llechwedd-dderi Uchaf), bachgen a fagwyd yn yr ardal ac sydd wedi aros yn ei filltir sgwâr. Diolch iddo am araith ddymunol a rhodd anrhydeddus.

Diolch hefyd i swyddogion ac aelodau Pwyllgor yr Henoed am eu gwaith cydwybodol dros yr achos, ac i bawb a fu'n cynorthwyo a chystadlu dros y tridiau i sicrhau llwyddiant y fenter. I bawb hefyd a gefnogodd yn ariannol a chyda'u presenoldeb. Bu'n gyfle gwych i gymdeithasu.


Cyfrannwch

cribynwr
Maw lluniau o Garnifal Cribyn 2005 ar gael ar y wefan hon: http://www.dyffrynaeron.com/llyfrlluniau/


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý