Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Mrs Menna MacLaughlin yn annerch y gynulleidfa yng nghyfarfod y prynhawn Capel Bethlehem 1909-2009
Awst 2009
Hanes dathlu canmlwyddiant ail-adeiladu Capel Bethlehem Dihewyd.

Roedd dydd Sul, Gorffennaf 12fed yn ddiwrnod arbennig yn Nihewyd pan fu dathlu canmlwyddiant ail-adeiladu Capel Bethlehem.

Sefydlwyd achos annibynnol yn Nihewyd yn y flwyddyn 1843, yn gangen o Gapel Neuaddlwyd ond ym 1909 penderfynwyd fod angen adnewyddu'r adeilad gan iddo gael ei daro gan fellten, felly aeth y gweinidog ar y pryd, y Parchg. J.T. Parry ati i godi'r arian.

Gwnaed hynny drwy benderfyniad yr aelodau a thrwy garedigrwydd eglwysi eraill ym mhell ac agos, a thrwy lafur cariad trigolion yr ardal llwyddwyd i godi adeilad hardd ac ar ddydd Sul, Gorffennaf l8fed 1909 cynhaliwyd yr oedfa gyntaf yn y capel newydd a oedd yn glir o ddyled.

I gyd-fynd a'r dathliadau cyhoeddwyd llyfr swmpus a hynod ddiddorol yn cynnwys hanes cynnar y capel, copi o restr y tanysgrifiadau a'r cyfraniadau a wnaed ym 1908-09 tuag at godi'r capel newydd.

Ceir ynddo hanes rhai o'r ymddiriedolwyr cynnar hynny, atgofion a lluniau cyn-aelodau a'u teuluoedd, atgofion a lluniau rhai o'r aelodau presennol a chyfarchion oddi wrth gyn¬-aelodau a chyfeillion yr Achos.

Ar ddechrau'r mileniwm newydd sylweddolwyd fod angen adnewyddu'r adeiladau a'u dwyn i fyny i'r safonau presennol, felly aeth yr aelodau ati i sicrhau grantiau i'w cynorthwyo i gyfarfod a'r costau hynny.

Erbyn blwyddyn y dathlu roedd y gwaith wedi ei gwblhau, y coed wedi eu trin, ffenestri newydd yn y capel a'r festri, a'r toiledau wedi eu hadnewyddu - llawer o'r gwaith wedi ei wneud yn wirfoddol. Mae'r fynwent hefyd wedi cael sylw, a choed wedi eu plannu o'i chwmpas, a hyfryd yw ei gweld yn cael ei chadw a'r dyledus barch.

Mae'r Ysgol Sul hefyd yn parhau mewn bodolaeth, ac mae diolch i'r athrawon sy'n rhoi o'u hamser i roi sylfaen i blant yr ardal gan gofio mai hwy fydd a'r cyfrifoldeb yn y dyfodol i sicrhau y bydd dathlu eto yn Nihewyd ymhen can mlynedd!

Mae aelodau'r pwyllgor yn dymuno cydnabod y cyfraniad a gafwyd oddi wrth Gyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad tuag at y gost o gynhyrchu'r llyfr.

Ar ddiwrnod y dathlu cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn y capel o dan lywyddiaeth Eluned Davies gydag Ann Owen wrth yr organ. Roedd y rhannau arweiniol yng ngofal plant yr Ysgol Sul, Stephanie Harrand, Lleucu Ifans, Carys Evans, Jessica Lloyd¬ Edge, Brennig Ifans, Cara Rowcliffe, Gwenan Owen, Gwawr Harries, a Cerys Jones.

Cafwyd anerchiadau i gyfarch y capel gan Y Parchg. T Howell Mudd, Rhydaman (cyn-weinidog); Mrs. Mena MacLaughlan, Brynamman (gweddw'r Parchg. John MacLaughlan - cvn-weinidog); Mr. Gwyndaf Morgan (ar ran Capel Seion, Cilcennin - chwaer Eglwys) a'r Parchg. Eileen Davies, (ficer y plwyf). Cyflwynodd y Parchg. T.H. Mudd gopiau o'r Caneuon Ffydd i blant yr Ysgol Sul i nodi'r achlysur. Wedi'r gwasanaeth roedd te wedi ei ddarparu yn y festri i bawb. Torrwyd cacen y ddathlu gan Glesni Ifans yn absenoldeb ei mam, Mrs. Elizabeth Jones, Penfoel un o aelodau hÅ·n y capel, oedd wedi methu bod yn bresennol oherwydd damwain.

Danfonwn ein cofion ati yn yr ysbyty gan ddymuno llwyr wellhad iddi. I gloi'r dathliadau, cynhaliwyd Cymanfa Ganu am 7 o'r gloch o dan lywyddiaeth Ann Evans gyda Hilary McConnell wrth yr organ. Llywydd y nos oedd Mrs. Beti Jones, (gynt Treberfedd) a chafwyd ganddi anerchiad oedd yn dwyn i gof ei dyddiau hithau pan oedd hi'n blentyn yn yr Ysgol Sul, yn aelod ac organyddes y capel. Cyflwynwyd yr emynau gan ieuenctid y capel ac roedd y canu o dan arweiniad Beti Davies.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý