Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Marathon Cofio'r Marathon
Mehefin 2003
Eleni oedd y tro cyntaf i fi gymryd rhan ym marathon Llundain ac mae'n brofiad na fydda i fyth yn ei anghofio, meddai Mari Dalis.
Dechreuodd y cyfan ym mis Medi 2002 pan drefnodd Siân Davies (Parc, Ciliau) i ni'n dwy gael lle i redeg drwy'r elusen Tenovus yng Nghaerdydd. Drwy gael ein lle fel yma, roedd yn rhaid i ni addo codi o leiaf £1,200 i Tenovus am y fraint o gael rhedeg. Felly pa atgofion sydd gen i am yr wyth mis diwetha ac am y marathon ei hunan?

Ymarfer - oer a diflas!
Yn ystod y cyfnod hwn des i adnabod sawl hewl newydd yng Ngheredigion. Mae hanner marathon Cors Caron ym mis Chwefror yn aros yn y cof a bod mewn ardal cwbl newydd i fi - byddaf yn cofio am sawl rhiw gas yn ardal Swyddffynnon ac Ystradmeurig. Yr ymarfer anoddaf oedd rhedeg ar bnawn dydd Sul oer a diflas, tua chwech wythnos cyn y marathon, o faes parcio y Co-op i Dregaron ac yn ôl. Roedd yr hewl rhwng Llanfair Clydogau a Thregaron yn diriogaeth newydd a dw i'n cofio teimlo Tregaron yn bell iawn o Landdewi Brefi. Daeth arwydd Tregaron o'r diwedd a'r gamp wedyn oedd rhedeg nôl bob cam mewn gwynt a glaw.

Yn seicolegol, roedd y cyfan yn brofiad da - o leia ro'n i n gwybod mod i'n gallu rhedeg bron i un filltir ar hugain yn ara' bach a bod mewn un pishyn ar y diwedd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd des i adnabod y llwybr cerdded/beics o'r Cwmins yn Aberaeron lan i Giliau Aeron yn dda iawn. Rydyn ni'n lwcus iawn yn yr ardal hon i gael y fath lwybr a braf gweld bod nifer o lwybrau cerdded wedi cael eu datblygu o gwmpas Llanerchaeron.

Roedd yr ymarfer ar adegau yn gallu bod yn ddigon poenus a diflas ond alla i ddim dweud yr un peth am godi arian. Roedd y gefnogaeth ges i yn anhygoel a bydd haelioni a charedigrwydd pobl yn aros yn y cof am amser hir. Bu'r gymuned i gyd yn Ysgol Gyfun Llanbed ynghlwm â'r codi arian, yn ogystal â pherthnasau a ffrindiau tu allan i'r ysgol. Rhaid diolch hefyd i sawl busnes lleol am eu cefnogaeth. Yr uchafbwynt felly oedd cyflwyno siec o £2,300 i Tenovus mewn gwasanaeth yn yr ysgol ar Fai laf.

Y diwrnod mawr
Ond beth am y diwrnod mawr ei hunan? Bydd sawl peth yn aros yn y cof am amser hir iawn. Roedd awyrgylch carnifal ym mhob man - cannoedd o bobl ar hyd y cwrs i gyd a cherddoriaeth byw yn dod o sawl cyfeiriad. Wrth fynd yn ara' bach o gwmpas y chwe milltir ar hugain r'on i'n teimlo fel pencampwraig ac anogaeth y dorf yn sicr yn fy nghadw i fynd. Braf oedd gweld ffrindiau wedi dod i gefnogi - un teulu wedi cadw ei hymweliad â Llundain yn gyfrinach. Ces gyfle yn Llundain hefyd i fod mewn ardaloedd cwbl ddiethr - ardal Greenwich ac ardal fusnes newydd Canary Warf yn y Docklands.

Yn rhyfedd iawn aeth y pum awr yn syndod o gyflym a rhaid cyfaddef i mi fwynhau'r cyfan. Roedd croesi'r llinell ar y diwedd yn dipyn o brofiad - penllanw wyth mis o ymarfer a'r cyfan wedi talu'r ffordd. A fydden i yn ailadrodd y profiad? Cawn weld. Y paratoi oedd waetha ac yn cymryd amser ond roedd y diwrnod ei hun yn brofiad a hanner ac yn sicr yn werth ei wneud.

Mari Dalis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý