Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Llannon O Lesotho i Lannon
Mehefin 2008
Hanes ymweliad Mé Pamola Mosothoane, athrawes o Ysgol Qaha's Nek, Lesotho â Llannon

Daeth y plant, staff, rhieni a ffrindiau'r ysgol ynghyd ar brynhawn dydd Llun, Ebrill 14eg, i groesawu Me Pamola Mosothoane i'r ysgol. Roedd Mé Mosothoane ar ymweliad ag Ysgol Llannon fel rhan o gynllun cyfnewid athrawon Cymru a Lesotho a drefnir gan Ddolen Cymru Lesotho. Yn ystod ei harosiad, bu ar wibdeithiau i Aberystwyth, Llyn y Fan, Cronlyn Wysg a Chastell y Bere, ac yn fwy lleol bu i Aberaeron a Chei Newydd. Gan nad oes arfordir i wlad Lesotho, roedd gweld y mor yn brofiad pleserus iawn.

Ar y dydd Llun, bu holl blant yr ysgol dan arweiniad tim brwdfrydig o rieni yn coginio danteithion ar gyfer tê prynhawn yn yr ysgol. A dweud y gwir, ychydig o gyfle gafodd y rhieni i arwain gan fod y plant yn gysurus iawn yn eu rôlau fel cogyddion a chogyddesau. Cyn blasu'r bwydydd amrwyiol perfformiodd y plant gyngerdd byr ac yna mwynheuodd pawb y cyfle i sgwrsio dros baned a chavennau.

Teithiodd grŵp o blant I'r Ardd Fotaneg I wneud cyflwyniad I'r athrawon oedd yn ymweld ag ysgolion yng Ngheredigion, sir Gâr a sir Benfro. Mwynheuodd y plant fod yn rhan o brynhawn pan gyflwynodd plant o ysgolion partner yn y dair sir gyflwyniadau canmoladwy i'r athrawon ar ymweliad â Chymru.

Fel rhan o'r cyflwyniadau bu plant Ysgol Llannon yn darllen cerddi am yr hyn maent wedi ei ddysgu wrth fod yn rhan o'r cysylltiad â Lesotho. Yna buont yn cyfarch yr athrawon yn eu hiaith eu hun sef Sesotho. Cawsant ymateb da iawn gan yr ymwelwyr am eu cyflwyniadau.

Bu Mé Mosothoane i fferm Di-goed gyda rhai o'r rhieni a'r plant ar ddiwedd un prynhawn a chael cyfle i gynorthwyo gyda bwydo'r wyn swci.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý