Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Talsarn Dwyn mae nghof
Mai 2003
Cafwyd noson ddifyr iawn yn Neuadd Gymunedol Talsarn ar yr ail o fis Ebrill. Cafwyd drama radio, a'r sgript wedi'i pharatoi gan Jennifer Thomas am y trychineb a ddigwyddodd yn Nhalsarn ym mis Gorffennaf 1846, pryd y collodd Doctor John Rogers, Abermeurig a'i was Dafydd Jones eu bywydau.

Roeddent wedi mynd ar eu ceffylau i ymweld ag Evan Morgans, Perth-y-Gwenyn, Llanrhystyd a oedd yn ddifrifol wael. Yr oedd yn fore braf ond buan daeth yn storom fawr - y mellt a'r taranau a'r glaw trwm ac yn union yr oedd y nentydd a'r afonydd wedi gadael eu gwelyau, ac yn achosi difrod i'r pontydd, i'r adeiladau ac i fynwent Llannon.Roedd yr afon Fallen wedi gorlifo ei glannau ac arllwys y llif i bentre Talsarn. Fe ddaeth y Doctor a'i was, er wedi oedi am ysbaid ym Mhlas Y Gelli, ond methwyd a'u perswadio i aros hyd nes y peidiai'r storom. Fe gollodd y ceffylau eu traed a thaflwyd y doctor a'i was i'r dwr.

'Roeddent yn gweiddi am help ond nid oedd gobaith gan y pentrefwyr estyn help llaw i'w hachub. Cafwyd eu cyrff mewn dyddiau yn y dyfroedd oerion.

Actorion lleol
'Roedd y bobl leol yn chwarae rhan y prif gymeriadau a'r sylwebwyr hefyd yn cyfrannu o'u profiadau am ddigwyddiadau cyffelyb. Cafwyd sylwebaeth gan y Doctor Herbert, Aberaeron, y Parchg. Stephen Morgan, Tom Jenkins a Gret Jenkins, Trewilym, Ben Jones a Beryl Jones, Gwastod. Soniodd y ddau yma am eu profiadau erchyll yn ystod storm Awst 1957 pan fu bonyn coeden yn atal y dwr rhag llifo drwy bont Athen. Aeth y llif yn syth i dy ac adeiladau allan y fferm gan beryglu bywyd dyn ac anifail.

'Roedd Nigel Rogers-Lewis, or-or-or-or-or-wyr i Doctor John Rogers wedi dod â lluniau o'r teulu i'w arddangos. Mae'r Doctor wedi ei gladdu ym mynwent Nantcwnlle a barrau yn amgylchynu ei fedd.

Ond ble mae Dafydd Jones wedi ei gladdu a phle'r oedd yn byw?Mae Tegwyn Jones wedi ysgrifennu baled am yr amgylchiad trist hwn. Dyma ychydig o'r cynnwys:

"A'r Doctor Rogers, Abermeurig,
A'i was gadd lewyg marwol loes,
Gerllaw Talsarn ar eu ceffylau
Fe ddaeth y ddau i ddiwedd oes.
Y llifeiriant gwyllt a'u daliodd
Ar y ffordd heb le i ffoi.
'Doedd neb i safio'r rhain rhag boddi -
Trwm fu'r cledi ddarfu eu cloi.

Yr oedd hi'n galed yn ddi-gelu,
I weld y ddau mewn cenlli o ddwr,
Heb neb i'w codi o'r llif-ddwr cadarn
Ym mhentre Talysarn yn siwr.
Yn afon Aeron caed eu celain,
Chwerw ddamwain ddaeth i'r ddau!
Am Doctor Rogers trwy'r gymdogaeth
Y bydd mawr hiraeth i barhau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý