Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Llyn Eiddwen Planhigion anghyffredin
Tachwedd 2007
Rydym wedi sôn am rai planhigion cyffredin a welir yn Llyn Eiddwen ac mewn llynnoedd mawnog mynydd-dir Cymru ond y tro yma cawn sôn am ddau blanhigyn llawer prinnach a welir yn Llyn Eiddwen ar ddiwedd haf.

Planhigion Alpaidd ydyn' nhw wedi goroesi ers Oes yr Iâ. Mae'r ddau ohonynt i'w gweld yn aml yn lochs yr Alban ond maen nhw'n llawer prinnach yng Nghymru. Gwelir nhw yn Llyn Idwal yn Eryri yn ogystal ag yn Llyn Eiddwen.

Bidoglys y dŵr (Water Lobelia) yw enw'r un cyntaf. Gwelir llawer ohonynt yn tyfu yn y dŵr bas yn Llyn Eiddwen yn niwedd Gorffennaf ac ym mis Awst. Mae clwstwr o ddail (rosette) yn tyfu ar y cerrig ar waelod y llyn ac o'u canol nhw tŷf coesyn y blodau hyd tua 6 modfedd uwchben y dwr. Mae blodau eiddil ar ben y coesau yma a byddant yn nodio eu pennau yn yr awel leiaf. Ar yr olwg gyntaf blodau gwynion ydyn' nhw ond wedi sylwi'n fanwl mae arlliw o liw lelog (lilac) arnynt a lliw'r lafant (lavender) yng nghanol pob blodyn. Mae petalau'r blodyn fel dwy wefus - mae'r wefus uchaf wedi rhannu'n ddwy ran a'r wefus isaf wedi rhannu'n dair rhan. Gair diddorol yw'r hen air bidog. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae'n golygu cleddyf cwta (dagger, poniard, bayonet).

Mynawydlys dyfrdrig (Awlwort) yw enw'r ail blanhigyn. Mae hwn yn blanhigyn prinnach eto a dim ond unwaith y medrais dynnu llun ohono ar Lyn Eiddwen. Mae e'n anodd i'w weld am ei fod yn tyfu o dan y dŵr ac erbyn hyn nid yw fy llygaid i mor graff ag y buon nhw. Mae clwstwr o ddail hirion yn tyfu o'r bonyn ar waelod y llyn. Mae blaen y dail yn finiog iawn a phlygant tuag i lawr. Mae blodau bychain iawn gyda 4 petal wen yn tyfu o ganol y dail.

Hen air diddorol yw Mynawyd hefyd. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru golyga offeryn pigfain i dyllu pren neu ledr, defnyddid ef yn arbennig gan gryddion. Yn Saesneg - awl, bradawl, bodkin.

Enwir rhai o flodau'r genws Geranium yn Mynawyd y Bugail gan arddwyr a naturiaethwyr. `Rwyf bron yn siŵr iddynt gael yr enw hwn am fod eu ffrwythau yn debyg i siâp mynawyd (bradawl).


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý