Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Y gofeb i Feirdd y Mynydd Bach Cofeb y Beirdd
Tachwedd 2005
Ar ben Mynydd Bach gwelir un o'r cofebau prydferthaf ar gyfer pedwar o feirdd yr ardal a chafodd ei dadorchuddio yn ystod Eisteddfod Aberystwyth, 1992.

Mae un o'r cofebau prydferthaf a welais i ar ben Mynydd Bach ac yng, ngolwg Llyn Eiddwen. Cofeb yw hi i gofio pedwar o feirdd yr ardal a chafodd ei dadorchuddio ar noson braf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1992.

Roedd dau ohonynt yn brif-feirdd (wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol) sef Prosser Rhys a J.M.Edwards ac yr oedd y ddau arall, B.T.Hopkins a T. Hughes Jones - yn feirdd a llenorion o fri hefyd.

Roedd J.M.Edwards, Prosser Rhys a B.T.Hopkins yn gyfeillion mawr pan oeddent yn laslanciau ifanc ac arferent gwrdd yn aml yng nghartef Prosser Rhys i drafod eu barddoniaeth a llenyddiaeth yn gyffredinol.

Dyma fel y mae J.M. Edwards yn sôn am y dyddiau hynny yn ei ragymadrodd i "Cerddi Prosser Rhys" :

"Gorwedd y darn hwn o dir ryw hanner ffordd rhwng Llanrhystyd a Thregaron. Ardal o gorsydd brwynog gweddol wastad ydyw, ac odditani gwelir y wlad yn ymestyn tua'r dwyrain at wastadedd Cors Caron. Ar ganol cors ddiffaith y Mynydd Bach safai'r Morfa Du, cartef Prosser a thuag yno y cyrchwn i o ben isaf y fro a B.T.Hopkins o'i phen uchaf, i gynnal ein seiadau llenyddol yn gyson dros nifer o flynyddoedd".

Rwyn hoff iawn o'r cwpled sydd ar y gofeb hon:

"I gofio'r gŵyr fu'n nyddu llên
Uwch llonyddwch Llyn Eiddwen ".

Mae'r llinell olaf yn ein hatgoffa o englyn hyfryd Prosser Rhys i Lyn Eiddwen:

"Lliwiau'r hwyr, hanner lloer wen - awel lesg
Hwyl ŵyn, si gwenynen,
A myfi heb gwmni Gwen
Uwch llonyddwch Llyn Eiddwen
".

  • Mwy am Prosser Rhys

  • Bywgraffiad Prosser Rhys gan Meic Stephens


  • Cyfrannwch

    Ian Marks o Gaerfyrddin
    Wrth ymyl Llyn Eiddwen o dan olau'r heulwen,Bu'n cyndadau'n anadlu yr run awyr iach.Llonyddwch a harddwch, rhyw distawrwydd nefol,Tirlun ysbrydol - Ein Mynydd Bach.
    Mon Jul 28 01:18:20 2008

    Enid Heneghan
    Aethom yno ddoe, ar ddiwrnod braf, heulog ond gwyntog iawn. Medrwch weld y gofeb o bellter, ac roedd yr olygfa o'r fan yn fendigedig - Enlli, Llyn, Arfon, Meirionydd a Bae Ceredigion. Braf ar ddiwrnod heulog, ond cythrel o le ym mherfeddion y gaeaf.
    Mon Jul 30 12:37:23 2007

    Gareth Ioan o Bentre'r Bryn
    Newydd fod yn cerdded ar y Mynydd Bach a lan at y gofeb. Lle i enaid cael llonydd, yn wir, gyda golygfeydd gwych o arfordir Ceredigion. Ewch am dro yno, da chi, i fwynhau un o lefydd bach hudolus Cymru.
    Tue Jun 12 08:57:59 2007


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý