Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Ifan Gruffydd Gŵyl Gynta'r Cyfarwydd
Mehefin 2005
Bu digwyddiad hanesyddol yn Nyffryn Aeron eleni pan sefydlwyd gŵyl newydd - Gŵyl y Cyfarwydd.
Bu mis Ebrill yn fis hanesyddol yn Nyffryn Aeron eleni. Sefydlwyd gŵyl newydd - Gŵyl y Cyfarwydd. Cyn yr ŵyl mae'n bosib nad oeddech chi - fel y rhan fwyaf o bobol, fwy na thebyg, yn gyfarwydd â'r gair "cyfarwydd". Felly, dyna fan cychwyn yr ŵyl: darlith gan yr Athro Sioned Davies, Prifysgol Caerdydd, ar ystyr a chefndir 'Y Cyfarwydd'.

Yn ei dull rhwydd a bywiog esboniodd i ni mai gwaith y Cyfarwydd slawer dydd oedd diddori a diddannu - a hynny, yn anad dim arall, drwy adrodd stori. Wrth feddwl am straeon mawr yr hen amser ry' ni'n dueddol o feddwl am y Mabinogion - y casgliad aruthrol yna o anturiaethau llawn hud a lledrith a oedd yn sôn am bobol fel Pwyll, Rhiannon, Bendigedfran, Branwen, Blodeuwedd, Culhwch, Olwen ac Arthur a'i farchogion.

Rhan o ddamcaniaeth Sioned oedd nad straeon i'w hadrodd ar un eisteddiad oedd y rhain ond mai dyma operau sebon eu dydd. Heno mi fydden ni'n clywed y rhan hon o'r stori. Nos fory, bydde rhaid dychwelyd i glywed y 'bennod' nesa! Efallai mai dyma siwt y bu i'r straeon ymestyn siwt gymaint (yn yr un ffordd ac y mae straeon heddi yn ymestyn wrth gael eu hail-adrodd o dÅ· i dÅ·, neu o dÅ· tafarn i dÅ· tafarn!).

Ac o dŷ i dŷ, ac o gae i gae y buom yn storia'r ail noswaith pan fu criw o storïwyr lleol - Aeron Davies, Felin-fach, Amanda Williams, Talsarn, Stifyn Morgan a Gareth Davies, Trefilan a John Emrys Jones, Cilie Aeron - yn ein tywys a'n diddori â straeon am hanes lleol (Plâs y Braenog a Llan Llŷr yn arbennig); rhai cymeriadau (Doctor Greengrove a Jac Ty-tiler); stori am bobol Talsarn yn gweld toili (ysbryd angladd) ger Gwarallt, Tychrug a hanes doniol gwraig fach yng Nghilcennin a gymerodd gyngor sbengllyd ar iddi fynd i'r diawl' yn llythrennol; roedd hi hanner ffordd i Gilie pan gafwyd gafael arni!

Ar ben Mynydd Tychrug cafwyd egwyl oddi wrth storïa wrth i'r bws (trwy drefniant â'r Comisiwn Coedwigaeth) fentro'r cwarter milltir o lôn-waith tua brig y mynydd. Roedd yr haul yn diflannu dros y gorwel wrth i griw anturus ddringo i gopa yr uchaf o'r tri chrug a roddodd i'r mynydd ei enw. Yn y fan hon cafwyd wybod mai hen gladdfeydd o Oes yr Efydd yw'r crugiau, yn dyddio'n agos i 2,500 0 flynyddoedd Cyn Crist. Wedi cyfle i lond y bws i rannu straeon dros beint bach yng Ngwesty Tyglyn cafwyd tipyn o hanes iascer Plâs y Gelli yn ystod cylch ola'r daith yn ôl i faes parco'r theatr.

Os yw eleni'n fesur dibynadwy bydd angen trefnu bws dou-lawr ar gyfer taith storïa'r flwyddyn nesa!

Nos Fercher, nos Iau a nos Wener symudodd yr ŵyl i rannau eraill o Geredigion (Neuadd Cwrtnewydd ar gyfer Straeon Plwyf Llanwenog, Festri Bronant - Straeon y Mynydd Bach, a Neuadd Caerwedros - Straeon Bro Sion Cwilt). Roedd y neuaddau dan eu sang (a nifer o gyfeillion o Ddyffryn Aeron wedi trafaelu o'r naill le i'r llall) a'r storïau yn byrlymu fel nentydd a ffynhonau y bencydd a'r caeau.

Bore Sadwrn cynhaliwyd Ysgol y Cyfarwydd yn Nhafarn y Vale. Dyma un o ddigwyddiadau lleiaf yr ŵyl, ond eto dyma un o'r digwyddiadau pwysicaf. Oherwydd, er mai ond hanner dwsin oedd yn bresennol, roedd bob un o'r bobol ifainc hyn yn mynd o'r dosbarth dwy-awr yn awyddus i ddod yn eu hôl i ddysgu rhagor am y grefft o storïa. Roedd hyn yn bodloni'r trefnwyr yn fawr gan mai gosod seiliau ar gyfer sicrhau dyfodol traddodiad 'Y Cyfarwydd' o fewn i'n cymunedau gwledig yw nôd pwysicaf yr ŵyl. Dyna pam roedd y storïwr proffesiynol Michael Harvey yn gweithio yn ysgolion y sir gydol yr wythnos - yn hau hadau'r dyfodol.

Nos Sadwrn, Ebrill 23, daeth yr ŵyl i ben. Ac fel gweddill yr wythnos, tipyn o arbrawf oedd y noswaith hon hefyd. Noson Lawen gyntefig - anhrefnus, hyd-yn-oed. Roedd gan Ifan Tregaron restr o storïwyr, cantorion, offerynwyr a dawnswyr oedd yn bresennol, ond dim byd a oedd yn mynnu trefn. Y nod oedd dilyn hwyl ac ysbryd y noswaith. Ac felly y bu.

Cafwyd straeon am gymeriadau gan Mair Garnon James, Llandudoch ac Alun James (dim perthynas), Cilgerran. Cafwyd hanes teimladwy Desin, Cwmsychbant gan Goronwy Evans, Llambed a chlasur o stori iasoer gan Stanley Lewis, Aberaeron. Cyfranwyd caneuon gwerin gan Beti Davies, Sychpant a Gerallt Owen, Perth-neuadd a dwy faled gan Robyn Tomos, Talgarreg. Daeth Tomi Jones, Penuwch, â swyn arbennig y llif i'n cyfareddu a bu plant Talgarreg a Chaerwedros yn clatsio'r llwyfan yn bert a'u clocs au rhythmau dawnsio gwerin ifanc ac afiaethus.

Ar un adeg roedd y trefnwyr yn amau ai gŵyl i'w chynnal bob yn ail flwyddyn fyddai hi. Bellach, yn sgîl llwyddiant a brwdfrydedd y flwyddyn gyntaf mae'n bur debyg mai gŵyl flynyddol fydd Gŵyl y Cyfarwydd. Ond beth fydd cynnwys gŵyl 2006? Stori arall yw honno!


Cyfrannwch

gwefan Dyffryn Aeron
Mae lluniau o digwyddiadau Gwyl y Cyfarwydd ar http://www.bro251.com/llyfrlluniau/ a http://www.plwyfllanwenog.com/lluniau/


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý