Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Aelodau'r Pwyllgor yn cyflwyno'r siec i Deian Creunant o Urdd Gobaith Cymru Cyrraedd y Nôd
Mehefin 2010
Hanes ymdrechion pwyllgor ward Llansantffraed i godi £10,000 at Eisteddfod yr Urdd 2010.

Pan gyhoeddwyd y byddai angen i Bwyllgor Ward Llansantffraed godi £10,000 at Eisteddfod yr Urdd 2010, roedd llawer o'r farn mai talcen caled fyddai cyrraedd y fath nod.

O ystyried y dirwasgiad a'r ffaith bod y sir hefyd yn codi arian at y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, teimlwyd y gallai'r targed fod braidd yn uchelgeisiol a thu hwnt i gyrraedd trigolion yr ardal.

Yn y pen draw, doedd dim angen poeni.

Mewn cwta 15 mis llwyddwyd i gasglu dros ddeg mil o bunnau gan roi Llanerchaeron a Cheredigion ar y map.

Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd amrywiaeth eang o weithgareddau er mwyn codi arian.

Ymhlith y prif ddigwyddiadau oedd diwrnod hwyl a rasys yn Aberaeron, cystadleuaeth golff yng Nghlwb y Cilgwyn a chyngerdd arbennig yng Nghapel M.C. Llan-non.

Uchafbwynt yr ymgyrch oedd rhyddhau cryno-ddisg Lleisiau Llansantffraed a oedd yn cynnwys caneuon a chyfraniadau gan dalentau lleol.

Rhoddwyd sylw i'r CD yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol ac yn sgil hynny tynnwyd sylw at yr Eisteddfod yn Nyffryn Aeron.

Yn ogystal â hyn, cafwyd cyfraniadau hael gan nifer o unigolion a sefydliadau lleol. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch a phob dymuniad da i bawb a fydd yn cystadlu yn Llanerchaeron.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý