Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Alwyn Rice Jones Cofio Alwyn Rice Jones
Arwain yr Eglwys drwy gyfnod pwysig
Dywedwyd bod cyn Archesgob Cymru, Alwyn Rice Jones wedi arwain yr Eglwys yng Nghymru trwy un o gyfnodau mawr ei hanes.

Wrth dalu teyrnged iddo ar Bwrw Golwg yn dilyn ei farwolaeth ddechrau Awst 2007 cyfeiriodd y Parchedig meirion Lloyd Davies, Pwllheli, i natur gyfeillgar, annwyl, cynnes a hoffus heb na rhodres na ffug yn perthyn iddo.


Cyfnod mawr
Ac am ei gyfnod yn Archesgob Cymru dywedodd;


"Yr oedd ei gyfnod wrth y llyw yn un o gyfnodau mawr yr Eglwys yng Nghymru."


Yn sicr yr oedd yn gyfnod allweddol oherwyddyr Archesgob Alwyn a lywiodd y mesur i ganiatau ordeinio merched drwy gorff llywodraethol yr Eglwys gan lwyddo ar yr ail gynnig.


Yn gynharach eleni ymunodd â dathliadau deng mlynedd y penderfyniad hwnnw mewn gwasanaeth arbennig yn Eglwys gadeiriol Llanelwy.


Yn eciwmenydd mawr dywedai'r Archesgob mai canolbwynt ei ffydd oedd ei gred fod "Crist yn Dduw yn ein plith" a'i fod wedi ceisio adlewyrchu hynny ym mhopeth a wnaeth ac a ddywedodd.


Pwyllgog
Ac wrth ymuno yn y drafodaeth ar Bwrw Golwg disgrifiodd Meirion Lloyd Davies ef hefyd fel person pwyllog a gofalus a fyddai'n amharod i ruthro'n fyrbwyll i benderfyniad.


"Ond wedi ystyried yn ofalus doedd o ddim yn cymryd cam gwag o gwbl," ychwanegodd.


"Hefyd yr oedd yn gallu cadw perthynas efo pobl oedd yn anghytuno ag ef," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý