Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Ieuenctid Ysgol Sul yng Nghymru Gwerth yr Ysgol Sul
Ffyddloniaid yn canu clodydd 'yr ysgol rad Sabothol'
Canmolwyd yr Ysgol Sul fel sefydliad sy'n gwneud i'r Beibl "edrych yn llawer mwy byw".

Dywedodd dau o'i ffyddloniad sydd newydd eu gwobrwyo am eu ffyddlondeb fod rhinweddau pendant iddi.

Yr oedd Owen ac Ann Pritchard o Gapel Bosra, Pensarn, Amlwch, Ynys Môn, yn siarad gyda Karen Owen ar Bwrw Golwg, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, fore Sul Mehefin 14 2009 yn dilyn derbyn Medal Gee yr un am eu teyrngarwch a'u cyfraniad a'u cyfraniad dros y blynyddoedd.


Dywedodd Ann Pritchard iddi hi fynychu Ysgol Sul Bosra ers yn bedair oed.

Meddai Owen, ei gŵr:

"Dwi'n meddwl fod yr Ysgol Sul yn bwysig. Mae hi yn rhyw ffordd yn rhoi sylfaen Cristionogaeth i blant heb i rywun feddwl."

Wrth gwrs, gwelodd y ddau newid mawr yn natur yr Ysgol Sul dros y blynyddoedd:

"Mae'n debyg bod yr ysgol Sul wedi newid efo'r blynyddoedd ac rŵan rydw i'n ei gweld hi'n dda iawn . . . [ac] ers ychydig o flynyddoedd rwan yn fwy perthnasol i fywyd.

"Wedi dod a hi i'r unfed ganrif ar hugain ac mae hynny'n bwysig iawn fel bod plant a phawb arall yn gweld pwysigrwydd Cristionogaeth i'r ganrif yma," meddai.

Tynnodd gymhariaeth hefyd rhwng yr hyn mae'r Ysgol Sul ac Oedfa yn ei gynnig:

"Pan yda chi'n mynd i oedfa y cwbwl yda chi'n wneud ydi gwrando ar y pregethwr ond mae gennych chi esbondiad yn yr Ysgol Sul.

"Mae'r pregethwr yn cymryd testun . . . Mae'r Ysgol Sul yn cymryd pennod, neu fwy, ac mae hwnnw yn rhoi llawer iawn mwy o ddysgeidiaeth i rywun. Mae'r Beibl yn edrych yn llawer mwy byw drwy hynny," meddai.

Gwelai hefyd debygrwydd rhwng Ysgol Sul a'r seiat:

"Mae'r Ysgol Sul a'r seiat yn ddigon tebyg ar un ystyr. Rhyw bwnc ac esboniad arno fo ac wedyn mae'r aelodau yn cael rhoi eu barn," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý