Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
'Nadolig Llawen . . .
. . . dyma iti dy afr a dy bwmp dŵr yn anrheg!'
Mae mudiad Cymorth Cristnogol yn annog pobl i roi "anrhegion sy'n cyfrif" y Nadolig hwn.

Yn hytrach na rhoi yr anrhegion arferol i gyfeillion a pherthnasau mae'r mudiad yn awgrymu gwario'r arian ar roddion fel gyrr o eifr, pwmp dŵr i bobl sydd heb ddŵr glân neu gyflog blwyddyn gweithiwr iechyd.

Mae catalog arbennig wedi ei gyhoeddi sy'n egluro pa anrhegion ellir eu rhoi ac y mae darpariaeth i roi anrheg un ai fel unigolyn neu fel eglwysi.
Enw'r cynllun yw Present Aid

I rai heb fawr ddim
"Yr hyn mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yw rhoi'r cyfle i chi a'ch eglwys gyflwyno rhodd i bobl sydd heb fawr ddim," meddai Robin Samuel, Trefnydd Rhanbarth De Cymru Cymorth Cristnogol.

Gan gyfeirio at Mair 'ddigartref' yn rhoi genedigaeth mewn preseb dywed mai nod Cymorth Cristnogol yw cynorthwyo pobl sy'n wynebu yr un math o amgylchiadau ag y bu'n rhaid iddi hi eu hwynebu y Nadolig cyntaf hwnnw.

"Y ffoadur sy'n gorfod dianc rhag perygl neu argyfwng; y rhai sy'n gweithio i gynnal eu teuluoedd mewn amgylchiadau enbyd o anodd; pobl yn rhoi genedigaeth heb fod gofal meddygol sylfaenol ar gael iddynt," meddai.

Anrheg sy'n cyfrif
Mae'r cynllun yn un syml i'w weithredu gyda'r sawl y byddech wedi gwario'r arian arno yn arferol yn cael cerdyn yn dweud i ble'r aeth yr arian y Nadolig hwn.

Mae posteri ar gyfer eglwysi a chapeli sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

"Fe allwch chi roi rhodd sy'n cyfrif y Nadolig hwn trwy ddefnyddio catalog Present Aid Cymorth Cristnogol sy'n llawn o eitemau sy'n cael eu defnyddio gan bartneriaid Cymorth Cristnogol er mwyn newid bywydau rhai o gymunedau tlotaf y byd," meddai Robin Samuel.

Dywed fod y 'rhoddion' yn cynnwys pethau fel;
  • citiau bydwragedd,
  • geifr,
  • offer amaethyddol a
  • hyfforddiant.

    Fel eglwys neu unigolyn
    "Eleni, mae dwy ffordd o ddefnyddio'r catalog.
    Fe allwch ddewis rhoddion i ffrindiau a theulu a derbyn cerdyn i'w roi iddynt neu fe all yr eglwys brynu rhodd neu roddion a derbyn poster i'w osod yn yr eglwys.

    "Mae'r llyfryn Nadolig gan Cymorth Cristnogol: Rhodd sy'n cyfrif - Canllawiau i'r Arweinydd yn egluro'n llawnach," ychwanegodd.

    O bwmpiau dŵr i weithwyr iechyd!
    Dywedodd fod cost y rhoddion yn amrywio o £10 hyd at £4,100.

    "Gall £20 brynu pecyn i adleoli teuluoedd sy'n mynd adref wedi'r rhyfel cartref yn Angola tra bo £45 yn ddigon i dalu am bwmp dŵr, pibellau a thap cymunedol fel bod pentref cyfan yn Nicaragua yn cael dŵr glân a chyfleus.

    "Cost gyrr o eifr ydi £60 a byddai yn £4,100 yn gyflog blwyddyn i weithiwr iechyd yn Nhiroedd y Meddiant.

    "Mae'r rhain yn rhoddion sy'n gwirioneddol gyfrif, ac yn gwneud gwahaniaeth," meddai gan ychwanegu fod hwn yn gynllun gwych ar gyfer y rhai hynny sydd mewn penbleth beth i'w brynu'r Nadolig i gyfeillion neu bertnasau.

    "Neu os ydych chi wedi cael llond bol ar y Nadolig masnachol, beth am brynu rhodd sy'n cyfrif ac anrheg a all newid bywyd?" meddai.

  • I archebu'r catalog Present Aid neu'r llyfryn Rhodd sy'n cyfrif - Canllawiau i'r arweinydd cysylltwch â Chymorth Cristnogol ar 029 20 844646 neu gellir e-bostio caerdydd@cymorth-cristnogol.org


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý