Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Bugail mewn drama geni Gwefr y geni
Bardd yn canmol bendith a rhyfeddod y Nadolig
Bu'r bardd a'r llenor Gwyn Thomas yn sôn sut y mae rhyfeddod y Nadolig yn cael ei weld mewn cynyrchiadau o ddramâu'r geni ac yn niniweidrwydd y plant sy'n cymryd rhan.

Ar raglen foreol Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru bu Gwyn Thomas yn siarad am gerdd o'i eiddo yn darlunio drama Nadolig a dywedodd wrth y cyflwynydd, Sian Parri Huws, bod llawenydd yr Wyl yn cael ei adlewyrchu hyd yn oed y dyddiau argyfyngus hyn.


Hynny er bod ochr arw i'r dathlu hefyd:

"Mae yna lawenydd ac mae yna ryfeddod, mae yna gân angylion mae yna ogoniant - ond wedyn y mae Herod yn dod ac y mae o yn lladd y babanod - y cigydd hwnnw.

"Ac mae Herod yn enw sy'n sefyll dros rywbeth sydd yn ein byd ni o hyd," meddai.

Golygfa'r geni Ond yn niniweidrwydd plant gwel y bardd o hyd "rywbeth o ryfeddod a llawenydd y Nadolig cyntaf hwnnw - y gwir Nadolig".

"Mae'r Nadolig yna - ei ryfeddod, ei lawenydd a neges o gariad yn dal i fodoli, " ychwanegodd.

Oherwydd hyn, meddai, y mae stori'r geni yn parhau i'w wefreiddio.

"[Ym] mhlant pob oes mae yna ryw ddiniweidrwydd apelgar iawn . . . ac maen nhw yn gallu creu rhyw ryfeddod a llawenydd drwy eu diniweidrwydd," meddai.

"Mae rhyw wirioneddau yn cael eu datgelu a'u dangos ichwi yn y cyflwr hwnnw [o fod yn blant] ac mae'n dal i fod yn wir ac yn dal i fod yn rhywbeth sydd yn fy rhyfeddu i dro ar ôl tro ar ôl tro ac y mae yna yn y Nadolig a'r Pasg rywbeth rhyfeddol i mi drwy'r amser ac rwyf wedi trio canu am y ddau beth achos mae o'n cyffwrdd ynof i," meddai.

  • Cysur mewn dyddiau anodd - neges Nadolig

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý