Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Charles Wesley
Syrthio mewn cariad dan annwyd!
Yn gorwedd yn ei wely yn ddifrifol wael ar ôl marchogaeth mewn glaw di-baid ar draws Cymru; dyna pryd y syrthiodd un o arweinwyr crefyddol amlycaf Prydain mewn cariad a'r Gymraes a ddaeth yn wraig iddo.

Cafwyd hanes carwriaeth Charles Wesley gan y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts ar raglen Dei Tomos ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, nos Sul 21 Hydref 2007.


Yng Nghymru yr oedd Wesley yn cael ei adnabod fel "Mab yng Nghyfraith y Garth" wedi iddo briodi merch Plas y Garth, plasty rhwng Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd o eiddo Marmaduke Glynne.

Yn ŵr bonheddig dylanwadol yr oedd Glynne yn cefnogi Methodistiaeth ers cael tröedigaeth ar ôl clywed Hywel Harris yn pregethu - er mai ei fwriad wrth fynd i wrando arno oedd ei erlyn.

Yn wlyb domen
Disgrifiodd Elfed ap Nefydd Roberts sut y cyrhaeddodd Charles Wesley Gaergybi yn 1748 yn dilyn taith bregethu yn Iwerddon a marchogaeth am dridiau yn y tywydd mwyaf ofnadwy tuag Blas y Garth lle rhoddwyd ef yn un syth yn ei wely.

Am wythnos bu Sali, merch brydweddol y Garth, yn gweini arno nes ei fod wedi dod ato'i hun.

A than yr amgylchiadau hyn y syrthiodd y ddau mewn cariad a phriodi.

Ac yr oedd, meddai Mr Roberts, yn briodas hapus a llwyddiannus iawn.

Llwyddo oherwydd ei wraig
"Ac yr ydw i yn argyhoeddedig fod Charles wedi llwyddo yn ei waith fel emynydd a phregethwr oherwydd cefnogaeth Sali," meddai.

"Does dim dwywaith i'r berthynas effeithio yn drwm arno fel emynydd oherwydd mae o'n cyfansoddi llawer mwy o emynau ar ôl priodi," ychwanegodd.

Rhwng popeth cyhoeddodd hyd at saith mil o emynau i gyd!

Dywedodd fod ei emynau gorau ymhlith goreuon yr iaith Saesneg gyda nifer wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan gynnwys un o'n hemynau enwocaf, Iesu tirion gwêl yn awr.

Gwraig biwis i'r brawd arall
Gweinyddwyd ym mhriodas y ddau gan John Wesley, brawd John, ond yn ôl Elfed ap Nefydd Roberts doedd o ddim yn rhy hapus i wneud hynny gan ei fod yn genfigennus braidd i'w frawd iau gael gwraig o'i flaen ef.

Ac ychwanegodd Mr Roberts mai un anlwcus gyda merched fu John Wesley o gymharu â Charles a gafodd briodas hynod o ddedwydd.

Ni fu ei frawd, John mor llwyddiannus ac wedi tair carwriaeth aflwyddiannus priododd a dynes "biwis, faldodus, hunanol oedd wedi arfer a bywyd braf, moethus, yn y Brifddinas" [Llundain].

"Mi gafodd John druan amser ofnadwy efo'r ddynes dymherus yma," meddai.

Nid yn unig byddai pryd o dafod yn ei ddisgwyl o bob taith bregethu ond doedd hi ychwaith ddim yn fyr o'i guro.

Yr oedd bywyd priodasol Charles y gwrthwyneb yn llwyr a'r ddau'n casáu bod ar wahân yn ystod ei deithiau niferus.

"Yr oedd yn ysu am gael dod adref [bob tro yr oedd ar daith," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý