Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Rhan o'r llun Datrys dirgelwch coeden Wyld
Rhaglen radio yn datrys dirgelwch llun 'Coeden Deulu'r Eglwys'
Wythnos wedi darlledu galwad am wybodaeth am lun The Tree of Life ar y rhaglen radio Bwrw Golwg cyhoeddwyd y gellid ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau a godwyd wythnos ynghynt.

Dyma oedd gan gynhyrchydd y rhaglen, Karen Owen, i'w ddweud ar rifyn Ionawr 11, 2009, o Bwrw Golwg am y darlun sydd erbyn hyn yng nghartref Tecwyn a Glenda Hughes ym Methel ger Caernarfon:


Y Parchedig Wyld
"Dewch i ni ddechrau efo'r Parchedig Joseph William Wyld [y mae ei enw ar y llun].

"Mi fedrwn ni gadarnhau mai Sais oedd o, wedi ei eni ym Middlesex yn y flwyddyn 1816. Roedd o'n offeiriad ac wedi hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr ac wedi ei alw i'r bar yn y flwyddyn 1841.

"Daethom o hyd iddo fo ar Gyfrifiad 1851 ar un o'i ymweliadau cyson â dinas Southampton erbyn hynny ac yn y fan honno mae o'n ei ddisgrifio ei hun fel "independent minister, gŵr priod, a non practising barrister".

Yn 1857, symudodd i fyw ym Manceinion lle daeth yn Ddeon Eglwys Santes Ann yn y ddinas.

"Gallwn hefyd ddweud mai yno y bu tan ei farwolaeth. Cyhoeddwyd erthygl ym mhapur newydd y Manchester Times Chwefror 27, 1869, yn sôn em benodi olynydd iddo yn Eglwys Santes Fair Crumpsell, Manceinion, yn dilyn ei farwolaeth ym mis Ionawr 1869.

Cyhoeddi cyfrol
Wedyn, efo cymorth Aled Betts o Adran Gwasanaethau Casgliadau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ddaethon o hyd i ychydig mwy am gyfrol a gyhoeddwyd gan Wyld yn 1850, Brief Sketches, from the Earliest Days to the Present, of the Chief Religious Communities, Sects etc Llun y goeden yn ei ffram sef cyfieithiad o'r geiriau Cymraeg ar y Beibl yng nghornel y darlun sy'n awr ym Methel.

Er inni geisio cael gafael ar gopi o'r gyfrol, oyn ôl cofrestr llyfrgelloedd gwledydd Prydain, yr unig gopi sydd ar gael yw un yn Llyfrgell Shields, Califfornia.

Ond fe ddaethom o hyd i un ar werth ar y We hefyd - gan lyfrwerthwr o America am £14.88 ond yn ôl y disgrifiad mae cyflwr y copi hwnnw yn wael iawn.

Dan y morthwyl
Ond beth gopïau eraill o'r darlun tair troedfedd wrth ddwy?

Y tro diwethaf i un o'r rhain fynd dan y morthwyl yn un o'r prif arwerthiannau celf, oedd yn 2005 yn y Long Street Salerooms yn Sherborne, Dorset gydag amcan bris o rhwng £40 a £60.

A dyna ni beth o hanes The Tree of Life darlun James Robertson Collie a gafodd ei gynnwys yng nghyfrol y Parchedig Joseph William Wyld.

  • Cychwyn yr hanes ar Bwrw Golwg

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý