Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Mari'r Golau
Dirgelwch goleuni rhyfedd a ddilynai un o ferched y diwygiad
Mary Elizabeth Jones a Diwygiad 1904
Ganwyd Mary Elizabeth Powell yn Nhyddyn Du, Bont Ddu ar Fawrth 30 1868 yr ieuengaf o saith o blant i Morus ac Anne (Owen) Powell.

Yn ôl y cyfrifiad 1871 yr oedd yn byw yn Sarfaen, Talybont, yn dair oed, a bu yno nes priodi Richard Jones ar Dachwedd 16, 1887 yn 19 oed.

Ymgartrefodd y ddau yn Islawrffordd ac wedyn symud i'r Hafod.

Tra'n byw yn Islawrffordd ganwyd dau o blant, Robert, a anwyd Medi 1889 ac Annie a anwyd Ebrill 26 1893.

Fu farw Robert yn ifanc a bu farw ei gŵr yn 1909 yn 50 oed.

Priododd ei merch Annie yn 1916 ag Evan Davies o Drawsfynydd a ymsefydlon yn Tyddyn Simne Talybont.

Ganwyd iddynt fab Richard Ieuan ond bu yntau farw yn 10 mis oed - felly doedd gan Mary Jones ddim disgynyddion uniongyrchol.

Cerdyn post a gyngyrchwyd adeg y goleuni Fe ddaeth Mary yn enwog iawn yn 1904 wedi iddi weld golau mawr llachar o gwmpas Capel Egryn a hynny a arweiniodd iddi deithio Cymru yn sôn am y profiad gan bregethu i gapeli llawn Gymru.

Pan ddaeth ei emosiwn dan reolaeth fe ddaeth gartref a chyda'r arian a gasglwyd adeiladodd Gapel Beulah.

Bu farw yn 1936, 28 mlynedd wedi marwolaeth a gŵr.

Cafodd angladd anferth gyda phobol o bob cwr o Gymru ac o dros y ffin ym mynwent Capel Horeb.

Cyfansoddwyd penillion am Mary gan ei nai, Evan Morris Powell, Milwaukee, U D A.

Yn fab i Hywel a Jane Powell roedd Evan a'i deulu wedi mudo o Feddgelert i'r America yn 1908.

Jane oedd chwaer hynaf Mary ac wedi priodi Hywel, ei chefnder cyntaf - y ddau dad yn ddau frawd sef Evan a Morus, meibion i Hywel ap Gruffydd 1771 - 1856.

Mari'r Golau Hywel oedd y mwyaf adnabyddus o bedwar brawd o'r Carneddi, Nanmor, a oedd yn feirdd sef Morus, Robert, Richard a Hywel.

Casglodd Carneddog, ŵyr i Robert, lawer o farddoniaeth y teulu a'i gyhoeddi yn ei gyfrol, >Cerddi Eryri.

Å´yr i Hywel oedd William Powell, Gwilym Eryri o Milwaukee, a oedd yn enwog o gwmpas Gogledd America fel arweinydd Eisteddfodau ac ymsefydlu, ymfudwyr o Gymru yn y Dakota's yn yr 18 80. Mae'n amlwg i Evan, yntau, gael yr blas ar farddoni fel ei gyndadau. Dyma ei benillion i Mari'r Golau:

Mary Jones
A Mary! Fy modryb anwylaf oedd hon
Fil miloedd o weithiau ym gwnaeth yn llon
Pan glywais ei chludo i fynwent y plwy
Trywanwyd fy nghalon nes hollti yn ddwy

Y fenyw osgeiddig, a'r wyneb mor hardd
Yng nghwmni ei phriod a rodia'r drwy'r ardd
Roedd meysydd a dolydd fel nef iddi hi
A'i geiriau mwyn grasol oedd felys i ni.

Mae'r atgof amdanot fy Mary fwyn lon
Yn llosgi fel gwreichion eiriasboeth o'r tân
Nis gallaf ddarlunio fy ngofid a'm loes
Mor anodd dygymod â thrymder y groes.

Cysegraist dy fywyd i rodio drwy'r wlad
Yng ngwres y diwygiad i ddweud am y Tad
A gardd mor helaeth nes rhoddi mor fawr
Ei unig Anedig i deulu y llawr.

O! Mary fe'th daniwyd a phur Ysbryd Duw
Dy lusern oedd lachar tra buost ti byw
Meddianaist yn helaeth o Ysbryd y Groes
A mawr dy amynedd yn nyfnder pob loes.

Hen fyd y treialon fu'r byd hwn i ti,
Cest brofedigaethau a thristwch yn lli;
Fe gollais dy fachgen, a chollaist dy ŵr
Ond cefaist yn gysgod 'Gardenid y tŵr'.

Dy ffydd oedd yn gadarn, Dy gariad oedd fawr
A chryf oedd dy obaith am wlad uwch y llawr
Dy gân oedd bereiddiol hyfrydol ei sain
I Fugail y Defaid goronwyd â drain,

Yng ngwlad y Gorllewin ym mhell dros y lli
Atgofion amdanat sy'n felys i mi.
'Rwy'n dy weld Yr Hen Feri yn cerdded dros ddol
Yng nghanol y blodau, ac oen yn dy gol.

Y llygaid byw siriol a'r wên ar ei phryd
Wrth ganmol ei Cheidwad tra rhodiai drwy'r byd,
Gorfoledd fel afon risialaidd a llon
Fyrlymai byth beunydd o ddyfnder ei bron.

Siaradai ei bywyd o'r crud hyd y bedd
Fod gras yn ei chalon yn nerth ac yn hedd.
Aeth adref dan ganu i fynwes ei Duw
Er marw ein Mary; mae eto yn fyw.

Yn y llythyr diweddar a ges gan fy ffrind,
Hysbysai mai i'r nefoedd yr oedd hi yn mynd.
Nid oedd unlle arall yn gymwys i Mair
Cans rhodiodd yn union wrth reol y Gair.
Evan Morris Powell, Milwaukee.
  • Trwy law, Jean Powell Jones, Sarnfaen,
    a Heulwen Jones, Hen Golwyn.

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý