Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Angharad Mair Oedfa Sul Marathon Llundain 2008
Tri rhedwr mewn oedfa arbennig
I gyd-fynd â Marathon Llundain ddydd Sul 13 Ebrill 2008 darlledwyd ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru oedfa arbennig ar thema rhedeg marathon.

Cymerwyd rhan gan Ian Roberts, plismon o Fangor a redodd yn Llundain, Angharad Mair y ddarlledwraig sy'n rhedwraig a gynrychiolodd Cymru a Tudur Dylan sydd wedi rhedeg Marathon Llundain deirgwaith.

Angharad Mair oedd yn cyflwyno ac arwain yr oedfa:



Angharad: Bore da a chroeso i'r Oedfa ar Radio Cymru, ar y Sul pan mae dros 40,000 o bobol o bob cwr o'r byd yn rhoi cynnig ar redeg Marathon Llundain.

Nid mater bach yw rhedeg marathon. Fe ddylwn i wybod hynny. Mae'n gofyn am gryfder corff a meddwl; ffitrwydd ac ymroddiad; penderfyniad a dyfalbarhad.

Er hynny, ers 1981, mae dros 670,000 o bobol wedi cwblhau'r cwrs 26 milltir 385 llath yn Llundain, ac mae cyfanswm o tua 800 o rasys marathon yn cael eu rhedeg yn y byd bob blwyddyn. Ffigwr anhygoel.

Ond yr hyn sy'n drawiadol yw hyn: dyw'r rhan fwya' o bobol sy'n rhedeg marathons - yn Llundain ac mewn mannau eraill - ddim yn rhedeg i ennill. I nifer fawr, mae'r ras wedi dod yn ffordd hwyliog o godi arian at achosion da. Yn ffordd o dynnu sylw at elusennau.

Yn weithgarwch cymdeithasol.
Yn ffordd o gael pobol at ei gilydd i gydweithio. Yn rhywbeth i anelu ato. Ac all hynny ddim yn beth drwg o safbwynt crefydd chwaith.

Mae unrhyw dasg neu ddigwyddiad sy'n ein helpu ni i ganolbwyntio'r meddwl ac ymarfer hunanddisgyblaeth, yn rhywbeth sy'n codi dro ar ôl tro yn y Beibl.

Tudur Dylan - Darlleniad:
1 Corinthiaid 9: 24-27


Angharad: Dowch i gymryd arnon ni ein bod ni am redeg marathon. Yn fan hon. Nawr.

Be' fyddai'r pethau fyddai'n mynd trwy ein meddyliau wrth aros am daniad y gwn ar y llinell gychwyn?

Fel rhedwyr amatur, y prif beth ar ein meddyliau fyddai'r awydd i orffen y ras. Cyrraedd y llinell derfyn. Cwblhau'r dasg. Mwynhau'r llwyddiant a'r clod.
Osgoi methiant.

Fe fyddai rhai ohonom ni wedi bod yn ymarfer yn galed er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y nod ac yn mynd am amser da. Fe fyddai rhai eraill wedi gweithio allan ei bod hi'n well hanner rhedeg, hanner cerdded y cwrs, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'n nerth.

Ond, mi fydd carfan arall wedi penderfynu ymhell yn ôl, mai cerdded yr holl ffordd fyddan nhw.

Mae hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn sylweddoli - ac yn cadw at - y sbîd mwyaf addas ar ein cyfer ni. 'pêsio' ein hunain. Ond dyw hynny ddim yn golygu gwneud llai nag y gallwn ni.

Wrth baratoi ar gyfer y ras heddiw, mi fyddwn ni, bob un, wedi penderfynu pryd y byddwn ni'n cael diod o ddŵr ar y ffordd. Mae angen tynnu i mewn i ambell i gilfan ar y cwrs, er mwyn ein cadw ni i fynd.

Mi fydd y rhedwyr gorau yn anelu at amser arbennig ac mi fyddan nhw'n siomedig os na fyddan nhw'n gwireddu hynny. Wrth gwrs, mae amgylchiadau'r ras go iawn yn gallu amrywio tipyn o'r rhedeg y byddan nhw wedi ei wneud tra'n ymarfer.

Mi fydd arwyneb y ffordd yn wahanol; mi fydd rhedeg mewn torf yn rhoi ambell un off, a gwae'r rheiny sydd wedi prynu trainers newydd ar gyfer y diwrnod mawr, heb eu gwisgo nhw i mewn!

Mi allwn ni baratoi hynny liciwn ni, ond mae'n rhaid bod yn barod am yr annisgwyl hefyd.

Wrth redeg yn ôl y wats, mae'n rhaid cofio mai'r peth pwysicaf yw rhedeg yn ôl ein wats ein hunain. Nid rhedeg i'n plesio ein hunain yw hynny.

Tudur Dylan JonesTudur Dylan - Darlleniad: Hebreaid 12: 1-3

Angharad:
Reit, nôl â ni at ein marathon ni y bore yma!

Fe fyddwn ni wedi bod yn ymarfer - rhai'n fwy na'i gilydd - ar gyfer heddiw. Dwedwch ein bod wedi bod wrthi ers chwe mis, yn cynyddu'n ara' deg y nifer o filltiroedd y byddwn ni'n eu rhedeg bob wythnos.
Mae hynny'n cymryd ymroddiad.

Rhedeg yn y glaw a'r niwl yn y gaeaf.
Rhedeg yn yr eira.
Rhedeg ar ddydd Nadolig.
Rhedeg ben bore neu ar ddiwedd dydd, cyn ac ar ôl gwneud diwrnod o waith go iawn.
Rhedeg pan fydd pobol ac amgylchiadau eraill, sydd ddim yn cydymdeimlo â'ch ymroddiad chi, yn dweud, "Paid â mynd heddiw - pa wahaniaeth wnaiff methu un diwrnod o ymarfer?"
Neu'n cynnig bwydydd a gwinoedd i chi sydd ddim yn ffitio i ddeiet disgybledig rhedwr.

R'yn ni wrthi'n rhedeg ein marathon ac mae'r cyngor hwnnw i ffeindio rhythm cyson yn dod i'r cof. Mae'n annoeth ei gorwneud hi ar y dechrau, oherwydd mae'n rhaid cadw nerth wrth gefn er mwyn nes ymlaen.

A dyna ni'n taro'r wal - fel arfer o gwmpas y 18 milltir yma.
Blinder mawr, sy'n dod oherwydd bod lefelau glycogen yn y corff wedi cwympo a phan fo'r corff yn gorfod dechrau treulio ei fraster ei hun er mwyn cynhyrchu egni. Ry'n ni wedi blino, wedi taro'r wal ... beth allwn ni wneud?

Mae yna nifer o gynhyrchion ar gael er mwyn cynyddu'r lefelau glycogen yn y corff, ond mae angen hefyd cryfder meddwl er mwyn goresgyn y lefelau poen. Mae'n rhaid chwilio'n ddwfn oddi mewn i ni'n hunain er mwyn dod o hyd i'r nerth a'r gred y gallwn ni gyrraedd y diwedd. Mae ateb pob rhedwr i'r broblem hon, yn wahanol.

A dyna ni wedi cyrraedd y llinell derfyn. Mae'r dorf ar ymyl y stryd yn cymeradwyo, ac mae yna deimlad ewfforig ynglyn â chwblhau'r ras.

Ymhen ychydig funudau, fe fydd yr iwfforia'n pylu, ac fe fydd y boen yn ein hatgoffa ein bod wedi rhedeg 26 milltir, 385 llath. Er hynny, ar y cyfan, mae'r boen yn gymysg â balchder a synnwyr o gyflawni rhywbeth gwerth chweil. Fe allwn fod yn falch iawn ohonom ni'n hunain.

Rhedeg Marathon - Profiad Ian Roberts.


Angharad - Gweddi:
Lle bynnag ydyn ni yn y ras, gadewch i ni ddal ati, rhoi o'n gorau ac anelu am y llinell derfyn. Fe fyddwn ni i gyd yn rhedeg cwrs gwahanol, i amserau gwahanol.

Ond, wrth redeg, cofiwn bod yna redwyr eraill o'n cwmpas, a bod angen i ni, weithiau, ildio mewn cariad ein buddugoliaeth ein hunain er mwyn rhannu dwr a'u helpu nhw i ddryllio'r wal.
Amen.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý