Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
George Noakes Cofio George Noakes
Patrick Thomas yn cofio cyfaill cywir a bugail da
Bu farw'r Gwir Barchedig George Noakes, cyn-Archesgob Cymru, yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Gorffennaf 14.

Roedd yn 83 oed ac yn Archesgob Cymru rhwng 1987 a 1991.


  • Patrick Thomas yn cofio George Noakes


  • Bu'r Tra Pharchedig John Wyn Evans, Deon Tyddewi, a'r Dr Meredydd Evans yn sôn am George Noakes ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg fore Sul, Gorffennaf 20 gyda John Roberts yn eu holi.

    Cadw at ei wreiddiau


    Disgrifiodd Wyn Evans ef fel dyn diymhongar a chraff a oedd yn deall y Gymru wledig ac a gadwodd yn driw i'w wreiddiau.

    "Wnaeth e erioed anghofio ei wreiddiau," meddai gan ychwanegu ei fod yn ŵr pwyllog a phob amser yn dda ei gyngor.

    Yn batrwm o fywyd Cristnogol


    Disgrifiodd Meredydd Evans ef fel cyfaill agos iawn a fu o gymorth mawr iddo yn ystod cyfnod personol anodd yn ei fywyd yn ceisio cefnu ar yfed.

    "Yr oeddwn yn gwybod ei fod efo fi yn yr argyfwng," meddai wrth gyfeirio'n ôl at gyfnod George Noakes yng Nghaerdydd pryd yr oedd o hefyd yn aelod o ddosbarth Athroniaeth Meredydd Evans.

    Fe'i disgrifiodd hefyd fel offeiriad a bugail "rhagorol" a oedd yn bregethwr effeithiol a gafaelgar.

    "Yr oedd mynd i'r gwasanaethau yn bleser ac yn fendith bob amser," meddai.

    Yr oedd hefyd, meddai yn ymroddedig i fywyd Cymraeg Caerdydd yn ystod ei gyfnod yn gofalu am Egflwys Dewi Sant yn y Brifddinas.

    "Yr oedd yn ddyn hawdd iawn, iawn, ymwneud ag o . . . ac yn batrwm o fywyd Cristnogol," meddai.


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý