Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Jeff Williams yn annerch yn yr Eisteddfod Genedlaethol Her codi arian mewn dirwasgiad
Amddiffyn hel arian dros ffôn
Mae pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru wedi amddiffyn dull newydd y mudiad o gasglu arian dros y ffôn.

Yr oedd Jeff Williams, Ysgrifennydd Cyffredinol y mudiad yng Nghymru yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol fis Mai 2009.

"Rwy'n credu . . . fod pobl ifancach, yn fwy parod i dderbyn y ffyrdd newydd o godi arian ac mae codi arian drwy'r ffôn yn effeithiol yn yr ystyr ei fod yn codi arian mewn ffordd cymharol rad i fudiad," meddai.

Creu gwell yfory


Dywedodd Mr Williams - sydd wedi bod ynglÅ·n ag Wythnos Cymorth Cristnogol ers 22 mlynedd bellach a chyn hynny hefyd pan yn weinidog - mai'r thema eleni yw; "Rhowch yr hyn a fedrwch er mwyn creu gwell y fory i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi".

Ychwanegodd bod canolbwynt yr ymgyrch ar anghenion yr anghenus yn y Congo.

Er bod yr argyfwng econmaidd yn ei gwneud yn fwy o her fyth i'r mudiad eleni dywedodd bod gweithgareddau ar hyd a lled Cymru o Gasgwent i Gaergybi a 13 miliwn o amlenni casglu coch yn cael eu dosbarthu.

"Ond mae'n mynd yn fwy anodd mewn rhai ardaloedd ac felly mae rhai pobl yn defnyddio eu dychymyg a throi codi arian yn fwy o hwyl," meddai.

Nosweithiau cwis
Un peth newydd sydd gennym ni ers blwyddyn neu ddwy yw nosweithiau cwis gyda dwsinau o'r rheini mewn capeli ac mewn tafarndai mewn llawer i fan ar draws Cymru," ychwanegodd.

Eglurodd mai "cyfrinach" yr wythnos yw y syniad o "gymuned yn helpu cymuned ar draws y byd".

Cwynion
Ynglyn â chwynion fod rghai pobl yn cael eu blino gan ddull newydd gan y mudiad o gasglu arian dros y ffôn dywedodd ei fod yn ymddiheuro os yw hyn yn wir ond bod yn rhaid ystyried cyfleon newydd i godi arian.

"Mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith . . . fod yna gystadleuaeth fawr ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu codi gymaint a fedrwn ni [ond] dwi ddim yn hapus pam fo'r ffordd mae Cymorth Cristnogol neu unrhyw fudiad arall yn codi arian yn tramgwyddo pobl," meddai.

"Mae gyda ni gydymdeimlad gyda'r teuluoedd a'r cymunedau yr ydym yn troi atyn nhw ond unwaith eto rhywbeth sydd wedi gwreiddio mewn cymuned yw Cymorth Cristbogol. Mae wedi codi o'r cymunedau - a'r eglwysi wrth gwrs - ond rwy'n credu hefyd fod pobl ifancach, yn fwy parod i dderbyn y ffyrdd newydd o godi arian ac mae codi arian drwy'r Amddiffyn hel arian dros ffôn yn effeithiol yn yr ystyr ei fod yn codi arian mewn ffordd cymharol rad i fudiad."

Cystal os nad gwell
Tri chwarter miliwn o bunnau a godwyd yng Nghymru y llynedd allan o'r £15m a godwyd drwy Brydain a dywedodd Mr Williams y gwneir pob ymdrech i godi yr un faint, os nad mwy, eleni.

"Achos os yw'r dirwasgiad yn gwasgu yma mae'n gwasgu gymaint mwy yn y gwledydd tlotaf lle maen nhw wedi gweld prisiau bwyd yn codi'n anferthol ac incwm yn gostwng ac yr ydym yn apelio at haelioni a pharodrwydd pobl i roi ac i gydymdeimlo," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý