Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Superman Superman fel Crist
A yw'r byd yn crefu am waredwr?
O ystyried faint o drafod fu yna ar y Da Vinci Code a Jerry Springer the Opera ymhlith Cristnogion yn ddiweddar mae'n syndod iddynt fod mor dawedog hyd yn hyn ynglŷn â'r ffilm Superman Returns sydd newydd gyrraedd y sinemâu.

Syndod, oherwydd bod gwedd Gristnogol bendant iawn i'r ffilm hon gyda'r stori am yr arwr cydnerth o blaned arall wedi troi erbyn hyn yn alegori glir ar fywyd Crist ar y ddaear.

Ac mae'n deg gofyn a yw troi y Dyn o Ddur yn Feseia modern yn rhywbeth sy'n ymylu ar fod yn gabledd ynteu y ddamhegu cwbl derbyniol a phriodol ei neges i'n dyddiau ni.

Yn sicr mae hon yn elfen sy'n gwbl newydd yn hanes y 'Dyn o Ddur' - bydded yn y sinema, ar radio neu ar y teledu.

Y stori wreiddiol
Yr hanesyn traddodiadol yw i faban Jor-El, arweinydd planed Krypton, gael ei anfon drwy'r gofod i'r ddaear pan oedd y blaned honno ar fin cael ei dinistrio'n llwyr a'i chwalu i ebargofiant.

Gan fod disgyrchiant a haul y ddaear mor wahanol i rai Krypton gallai'r baban bach gyflawni'r tasgau mwyaf anhygoel - rhedeg yn gynt na threnau ar ei brifiant ac yn gynt na bwled o wn pan yn ei lawn oed ac hyd yn oed hedfan.

Buan iawn y daethpwyd i'w adnabod fel Superman ac yntau yn defnyddio'i alluoedd i hyrwyddo, yn ei eiriau ei hun, y gwirionedd, cyfiawnder a'r ffordd Americanaidd o fyw.

Ond erbyn y ffilm ddiweddaraf hon daeth pwyslais newydd hynod arwyddocaol.

Ei anfon gan y tad
Yn ôl y dehongliad newydd nid ar hap a damwain y'i hanfonwyd i'r ddaear. Fe'i hanfonwyd o bwrpas gan ei dad ym mhellafoedd y gofod - yn y nefoedd os leciwch chi - i fod yn waredwr dynoliaeth.

Mae'r eirfa mewn rhannau o'r ffilm yn hynod ddiwinyddol, Gristnogol, ei theithi. Defnyddir y gair 'salvation' fwy nag unwaith ac y mae'r sôn am dad a mab yn arwyddocaol hefyd wrth gwrs gyda'r tad hwnnw, Jor-El, yn cael ei ddyfynnu yn dweud:
"Yr ydw i bob amser gyda thi" ac "Mae y tad yn y mab ac y mae'r mab yn y tad" gan ychwanegu mai Superman yw y goleuni a fydd yn arwain dynoliaeth at ddaioni.

"Yr wyf," meddai Jor-El, sy'n dal i gyfathrebu ar ffurf hologram,"wedi anfon atynt fy unig fab."

Mae'n werth dyfynnu y Saesneg gwreiddiol y gael yr union flas. "The father is in the son and the son is in the father," meddai.

"For this reason above all - their [sef pobl y ddaear] capacity for good - I have sent them you, my only son."

Yn ystod absenoldeb Superman o'r ddaear enillodd ei 'gariad', y newyddiadurwraig Lois Lane, wobr Pulitzer am erthygl bapur newydd dan y teitl, "Why the world doesn't need Superman" yn adlais o farn rhai nad yw'r byd angen Duw.

Yn y ffilm, dywed Lois wrth Superman ei hun:, "Dyw'r byd ddim angen gwaredwr a dydw innau ddim ychwaith."

Ond ateb Superman yw: "Ond bob dydd yr wyf yn clywed pobl yn crefu am un."

Yn gefndir i hyn oll y mae cyfuniad o'r gerddoriaeth ymffrostgar arferol a cherddoriaeth fwy nefolaidd ei seiniau.

Yr aberth eithaf
Wrth i'r ffilm fynd rhagddi mae'r ddameg yn dwysau wrth i Superman gyflawni'r aberth eithaf er mwyn achub dynoliaeth - dim ond i 'atgyfodi' fel petai o wely ei angau mewn ysbyty.

Ac nid osgôdd sylw rhai beirniaid fod yr arwr mawr yn syrthio i'r ddaear o'r entrychion wedi ei frwydr fawr â'r dieflig Lex Luthor a'i freichiau ar led a'i goesau ymhlyg fel pe byddai ar groes.

Sut mae ymateb?
Yn rhyfedd iawn ychydig o sylw gafodd y dwyfoli hwn ar yr arwr comics sydd bellach - a ydym i gredu? - yn Superman y Crist ac yn brawf fod y byd angen gwaredwr.

Beth mae'r Cristion i'w wneud â'r ddameg?
Ei chroesawu a breichiau agored?
Ynteu teimlo yng anghyfforddus gyda'r defnydd hwn o Waredwr y byd?
Beth dybiwch chi?


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý