Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol Llai a llai o Bresbyteriaid
Aelodau'n prinhau - ond dim arwyddion uno
Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae aelodaeth yr Eglwys Bresbyteraidd wedi lleihau yng Nghymru.


Dengys ffigurau a gyflwynwyd i'r Gymanfa Gyffredinol fis Gorffennaf 2007 fod y lleihad mwyaf yn ardal y dwyrain, 5.51% i lawr.

Maen nhw i lawr 4.45% yn y de a 3.8% yn y gogledd a hynny'n gyfystyr a cholli rhyw dair mil o aelodau yng Nghymru mewn blwyddyn.

Llai o gapeli
Yn wyneb y dirywiad hwn bydd yr eglwys yn lleihau nifer ei chapeli o 700 i 500 erbyn y flwyddyn 2010 yn ôl adroddiad o Gymanfa Gyffredinol yr enwad ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Gorffennaf 22, 2007.

Arwyddlun yr Eglwys Bresbyteraidd Mae 39% o eglwysi'r enwad heb weinidog a dim ond un allan o bob deg sy'n medru manteisio ar wasanaeth gweinidog rhan amser.

Yn y de, ac yn arbennig yn ardal Caerfyrddin, y mae'r sefyllfa waethaf gyda 40% o eglwysi heb weinidog!

Dim uno
Ond er gwaethaf argyfwng o'r fath dywedodd Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad, nad yw ef yn gweld llawer o obaith i'r enwadau uno er mwyn cryfhau.

"Fe geisiwyd, ychydig flynyddoedd yn ôl, greu un eglwys rydd unedig yng Nghymru ond, at ei gilydd, doedd yna ddim cytundeb," meddai.

"Mi fuaswn i'n dweud fod yr Eglwys Bresbyteraidd wedi bod o blaid hynny ond rhaid inni barchu dymuniadau pobl eraill ac mae'r Annibynwyr eisiau bod yn Annibynwyr oherwydd dyna eu argyhoeddiad ac mae'r Bedyddwyr eisiau bod yn Fedyddwyr oherwydd dyna eu argyhoeddiad," meddai gan ychwanegu, er bod closio wedi bod, na chredai "fod yna stumog" i greu rhyw strwythur mawr ar gyfer eglwys unedig yng Nghymru.

Cydweithio
"Dwi'n credu mai y ffordd ydi cydweithio efo'n gilydd ac mae'n rhaglen genhadol a rhaglen AGAPE yr Annibynwyr yn dangos sut y gallwn ni gydweithio oherwydd mae gennym brosiect yn Trefor efo'n gilydd ac mae gennym ni brosiect ym Mrynaman efo'n gilydd ac mae gennym ni brosiect yn Nhreorci efo'n gilydd - yr Annibynwyr a ni; ac mae'r Bedyddwyr yn rhan o gynllun hyfforddi sy'n cael ei weinyddu o'r Coleg Gwyn ym Mangor" meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý