Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
John Gwilym Jones Croesffordd crefydd
Gweinidog ar drothwy ymddeol yn son am gyflwr crefydd a'r her sy'n wynebu Cymru
Gyda Christnogaeth ar groesffordd galwodd cyn Archdderwydd ar yr eglwysi i droi cefn ar ddogma a "mynd yn ôl at y sylfaen".


Yr oedd y Parchedig John Gwilym Jones yn siarad ar Raglen Dei Tomos, nos Sul 23 Medi 2007, ar achlysur ei ymddeoliad wedi bron i ddeugain mlynedd yn gweinidogaethu ym Mangor.

Gydag ef ar y rhaglen yr oedd ei wraig, Avril.


Yn gyn Archdderwydd, yn fardd cadeiriol ac ar hyn o bryd yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd dywedodd fod y byd ar hyn o bryd "yn wynebu cyfnod cwbl newydd" yn hanes Cristnogaeth.



"Y gwir amdani yw yr ydym ni bellach, ar gychwyn mileniwm newydd, yn wynebu cyfnod cwbl newydd yn hanes Cristnogaeth; yng Nghymru, yn Lloegr, yn Ewrop yn America - fu fuaswn i'n dweud drwy'r byd i gyd," meddai.


Edrych ar y sylfeini
"Er bod yna rai pobl; yn sôn am yr adfywiad yn Asia ac yn ne America dyw'r peth mewn gwirionedd ddim yn adfywiad oherwydd ail ferwi yr hen brosesau Cristnogol y maen nhw.


"Mae yna groesffordd i ni ar ddechrau'r mileniwm yma a bydd yn rhaid inni fel Cristnogion edrych o ddifrif ar sylfeini ein Cristnogaeth.


"Mae yna gymaint o bwyslais wedi bod ar ddogma ac athrawiaeth mae'n rhaid inni fynd yn ôl at y sylfaen sef Iesu ei hunan," meddai.


Problem i grefyddau eraill hefyd
Ac ychwanegodd fod yr un peth "lawn cymaint o broblem" i grefyddau eraill.


"Oherwydd mewn Moslemiaeth y mae'n broblem ddifrifol oherwydd mae'r ffordd maen nhw'n edrych ar y 'Koran' yn golygu eu bod nhw yn ymdeimlo â rhyw orfodaeth i fod yn ymosodol yn eu crefydd.


"Ond mewn gwirionedd doedd Mohammed ddim wedi edrych arni hi felna.


"Ond mae yna ddehongli wedi bod ar Foslemiaeth fel mae yna ddehongli wedi bod ar Gristnogaeth a'r dehongli hwnnw ar Gristnogaeth wedi penderfynu; 'Mae'n rhaid inni genhadu a chenhadu yn ymosodol er mwyn troi hyd yn oed y Moslemiaid a'r Hindwiaid i gyd yn Gristnogion'. Wel, fe fyddwn i'n dweud nad ydi hynny wedi bod ar agenda Iesu erioed," meddai.


Peryglon cenhadu
Dywedodd ei fod hefyd yn anhapus gyda'r duedd i 'genhadu'


"Oherwydd mae'r cenhadu erioed wedi bod yn genhadu imperialaidd," eglurodd.


" Mae cenhadu yn y ffordd imperialaidd yn golygu, 'Rwy'n mynnu eich bod chi yn mynd i droi i wneud popeth yn y ffordd yr ydw i eisiau ichi wneud' ond yr hyn a ddywedodd Iesu oedd; fod amser yn dod y mae'r deml yn Jerwsalem yn mynd i gau - [ac] yr ydym ni'n gofidio am gau capeli [ond] meddyliwch am yr Iesu wedi dweud, fel un o eitemau cyntaf ei agenda ef, 'Caewch y Deml yna yn Jerwsalem, mae'r amser yn dod,' meddai, 'na fyddwn yn addoli yn y Deml yn Jerwsalem. Nac yn y mynydd hwn,' meddai wrth y Wraig o Samaria [ond] fe fyddai yna addoli Duw mewn ysbryd a gwirionedd."


Capeli'n cau
Ei eteb i'r cwestiwn, Beth fyddai'n digwydd pe byddai drws pob capel yn cau? Oedd:


"Eto mae'r ateb gan Iesu. Nid yr adeilad sy'n bwysig ond y gymdeithas a'r ffordd y mae rhywun yn edrych ar ei gyfrifoldeb tuag at gymdeithas," meddai.


Ac mewn dyddiau pan fo cymdeithas yn dadfeilio dywedodd mai un peth a fu wrth fodd ei galon ef yn ystod ei gyfnod ym Mangor oedd arwyddion o weithredoedd da gan bobl.


"Pan fyddem ni yn mynd gyda'n gilydd a bwyd i'r hen bobl yr oeddwn yn rhyfeddu at y modd yr oedd pobl yn aberthu o'u hamser a'u hegni i ddwyn caredigrwydd heb ddim tâl - a'r un modd gyda chasgliadau at Gymorth Cristnogol mae pobl yn ymroi mewn ffordd hollol wirfoddol a chydwybodol," meddai.


"Felly dwi ddim yn gofidio am yr adeiladau a dwi ddim yn gofidio am y gymdeithas ychwaith - mae'n wir fod yna newidiadau mawr yn digwydd yn y gymdeithas ond dydi'r pethau hynny ond yn gyfnewidiadau y mae'r oesoedd wedi eu gweld nhw erioed.


"Yr Hen Roegiaid yn gwaredu at y bobl ifainc oedd ar strydoedd Athen. 'Beth sy'n dod,' medden nhw, 'o'r genhedlaeth ifanc? Mae'n ddifrifol; dydyn nhw'n gwrando dim ar eu rhieni.'


"A dyna'n union beth sy'n digwydd nawr. Felly dydw i yn gofidio fawr am y gymdeithas oherwydd fe ddaw yna bobl i arwain at y daioni.


Cwbl gyfeiliornus
"Y drwg yw fod y ffordd yr ym ni wedi bod yn dehongli ein crefydd wedi bod yn gwbl gyfeiliornus ," meddai gan ddweud bod gormod o bobl yn ystyried eu henwad a chadw capeli yn bethau rhy bwysig.


"Mae'n iawn ichi gadw hanes a thraddodiad mewn diwylliant ond os ydych yn mynd i seilio eich perthynas â Duw ar rhyw greiriau - [dydi hynny'n] da i ddim! Mae eich perthynas â Duw yn rhywbeth sy fod yn llawer mwy byw yn y galon," meddai.



Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý