Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Y Parchedig D Carl Williams Maddau iddynt . . .
. . .oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud
  • Oedfa'r Bore, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Sul, Mawrth 4, 2007
  • Y Parchedig D. Carl Williams.
  • Maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.




    Gweddiwn:
    Deisyfwn, o Dduw ein Tad nefol, bresenoldeb dy Ysbryd i droi yr oedfa newydd hon yn addoliad pur a thrwy'r Ysbryd arwain ni ar hyd llwybr dy fendith gyfoethog.
    Diolchwn am y fraint o gael cyd wrando, cyd weddïo.
    Cyd ganu a chyd fyfyrio.

    Trwyddynt boed i Ti borthi ein meddyliau a'th wirionedd, sancteiddio ein myfyrdod, dyfnhau a chadarnhau ein ffydd.

    Boed i Ti agor ein calonnau i'th gariad anfeidrol, fel y cawn weld 'dy rasol wedd' a chlywed dy hyfryd lais ac ymgolli yn llwyr ynot er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd a'n Gwaredwr.
    Amen



    Cyflwyniad:
    Yng nghyfres rhaglenni Oedfa'r Bore yn ystod cyfnod y Grawys eleni fe'n gwahoddir i ganoli'r myfyrdod ar eiriau yr Arglwydd Iesu ar y Groes, y weddi, "Maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud." (Luc 23:34)

    Priodol cychwyn gyda'r Iesu yn dysgu Ei ddilynwyr yn y Bregeth ar y Mynydd ac yn y weddi a rydd yn batrwm iddynt mae'r geiriau. "Maddau i ni ein pechodau," yn ôl Luc. Drwy faddeuant dygir ei ddisgyblion ar hyd yr oesau i berthynas â'r Tad cariadlawn a thrugarog.

    Pregeth 'Siars Ordeinio Disgyblion' oedd hon yn wreiddiol i'w gwisgo a nerth ac awdurdod cyn eu danfon allan yn Ei enw. Mae'n bregeth herfeiddiol a chwyldroadol ac nid siars i'r llwfr a'r di-asgwrn-cefn mohoni.

    Darllen: Luc 6: 27 -28; 32 - 38

    Yn ôl y gyfraith Iddewig 'roedd dial cam yn orfodaeth drwy ddeddf, 'Llygad am lygad a dant am ddant oedd hi. Byddai Iddew yn magu casineb at elyn am ei oes a pharhâi'r casineb o fewn ei deulu tuag at ddisgynyddion y gelyn am genedlaethau. Ond dyma'r lesu yn cyflwyno delfryd newydd i'w ddisgyblion oedd yn gofyn am ysbryd newydd i'w gwireddu.

    Dyma orchymyn newydd cwbl chwyldroadol. le, "'Carwch eich gelynion," meddai'r Iesu.

    Cariad yn agwedd meddwl ac ysbryd
    Mae hyn yn gofyn am gariad aruthrol.
    Arferwn gredu mai mynegiant o'n teimladau yw cariad, nid teimlad yn unig mohono fodd bynnag ond agwedd meddwl ac ysbryd yn ogysta1.

    Mae'n goncwest - nid buddugoliaeth ar y gelyn yn unig, ond buddugoliaeth ar ein teimladau a'n tueddiadau cynhenid hefyd.

    Digon hawdd caru pobl o gyffelyb anian a ni a charu cyfaill.
    Y gamp yw caru'r rhai sy'n annhebyg i ni a'r sawl sy'n elyniaethus tuag atom.

    Ys dywed Martin Luther King,
    "Cariad yw'r unig rym all droi gelyn yn gyfaill'. Dyma lle y profwn nad cyffur yw credu yn yr Arglwydd Iesu Grist a'i gariad aberthol ond her.
    "Nid cysur yw credu yn Nuw a'i allu anfeidrol- ond cryfder, oherwydd drwy ras Duw yn unig y down i ymestyn ein cariad i gofleidio ein gwrthwynebwyr drwy eu gweld fel y mae'r Tad yn eu gweld a sylweddoli bod yr Iesu'n Frawd iddynt hwythau fel i ninnau.

    Cynnyrch yr ysbryd yw cariad a all garu gelyn.
    "Yr wyf yn ymbil arnoch frodyr trwy ein Harglwydd lesu Grist a thrwy'r cariad sy'n ffrwyth yr ysbryd."
    (Rhuf. 15 : 30).

    Dyn yw'r Cristion y mae Crist yn byw ynddo, un wedi'i feddiannu gan ysbryd Crist. Bod 'yng Nghrist', meddai'r Apostol Paul, a Christ 'i fyw ynof a thrwof'. i'r graddau y byddwn 'Yng Nghrist', ac wedi ein cymell gan Ei gariad, y llwyddwn i gyflawni'r ethig Gristnogol.

    A yw maddeuant yn bosibl?
    Mae yn y byd ddeddfau, sef bod effaith yn rhwym o ddilyn pob achos.
    "Yr hyn a heuo dyn hynny hefyd a fed efe. Gan i ddyn ymddwyn yn annheilwng, rhaid iddo ddioddef y canlyniadau - neu fel y dwedwn, "Gan iddo wneud y- cawl rhaid iddo ei yfed."

    Honnai Aldous Huxley, "Nid oes y fath beth a maddeuant."
    Barn Bernard Shaw oedd, "Noddfa cardotyn yw maddeuant rhaid iddo dalu ei ddyledion."

    Cawn Iesu yn gwrthbrofi'r fath ffiloreg. Fe'i cawn yn sôn yn ddieithriad am faddeuant yng nghyd-destun perthynas, y berthynas rhwng dyn a Duw a rhwng dyn a'i gyd-ddyn. Onid adfer perthynas yw maddeuant yn ei hanfod?

    Yn ein cartrefi. drwy gyfrwng y teledu. gwelsom esiamplau gloyw o rai yn byw yr efengyl ac yn codi uwchlaw camweddau erchyll yn erbyn eu hanwyliaid ac yn eu herbyn hwy eu hunain.

    Enghreifftiau o faddau
    Un o'r rhai cynharaf a gafodd gyhoeddusrwydd ar y cyfryngau am feddu'r ddawn ryfeddol hon i faddau oedd Gordon Wilson.

    Ar Sul y cofio ugain mlynedd i eleni a'r bobl wedi crynhoi wrth y gofgolofn yn Enniskellen, ffrwydrwyd bom. Niweidiwyd llawer a Gordon Wilson yn eu plith ond lladdwyd 11 a' i ferch hyfryd Marie, nyrs ifanc ugain oed. Ond er syndod mawr i bawb dywedodd y Cristion o dad nad oedd yn dal dig a'i fod yn gweddïo dros y troseddwyr bob nos.

    Ym 1994 lledodd hanes unigryw Comisiwn Gwirionedd a Chymod yn Ne Affrica dros y byd ac yn ei lyfr cyfareddol No future without forgiveness, cawn y gwron dewr ac unplyg, yr Archcsgob Desmond Tutu, yn adrodd ei brofiad yn Gadeirydd y Comisiwn.

    Gan gyfeirio'n benodol at y golygfeydd anhygoel o edifeirwch ar ran y gormeswyr creulon ac o faddeuant ar ran y dioddefwyr, meddai, "Yn y weithred o faddeuant datganwn ein ffydd yn nyfodol cydberthynas ac yng ngallu'r drwgweithredwr i wneud dechrau newydd ar lwybr a fydd yn wahanol i'r un a achosodd y camwedd a ddioddefwyd gennym."

    Cofleidient y cyfle am ddechreuad newydd - gweithred o ffydd y gallai'r troseddwr newid. Nid anghofiai'r Archesgob i'r lesu ddweud y dylem bob un ohonom faddau, "Nid hyd seithwaith ond hyd saith deg seithwaith" - cyhyd a bod y troseddwr yn ceisio maddeuant gan y saw1 y troseddodd yn ei erbyn.

    "Golyga maddeuant," meddai'r Esgob, "fforffedu eich hawl i dalu'r pwyth yn ôl i'r drwgweithredwr ond mae'n golled sy'n rhyddhau y dioddefwr."

    Dyna Gee Walker o Lerpwl yn datgan ei bod yn maddau i'r ddau a ddedfrydwyd am gyfnod hir o garchar am lofruddio ei mab Anthony mewn ymosodiad hiliol eithriadol o greulon, "Pam byw dedfryd oes?" meddai.
    "Atgasedd a laddodd fy mab, felly pam y dylwn innau fod yn ysglyfaeth hefyd ?"

    Tristwch enbyd sy'n dal yn ein col ni yw llofruddio pump o ferched bach o gymuned Amish yn ddiweddar mewn ysgoldy yn Quarrville, Pensylvania, a phobl yr Amish yn cofleidio teulu'r llofrudd.

    Y noson honno. daeth un ohonynt i dÅ·'r llofrudd i offrymu maddeuant i'r teulu a thrannoeth yr erc;hylltra gwelwyd tad-cu dwy chwaer fach yn ateb gohebydd gan ddweud, "Ydw, rwy wedi maddau yn fy nghalon - drwy gymorth Duw."

    Oes, mae angen cymorth dwyfol i faddau - dawn ddwyfol yw'r ddawn i faddau a rhaid erfyn amdani.

    Gweddïwn gyda'r Brawd Job:
    Arglwydd maddau i mi fy meddyliau annheilwng; fy ngeiriau angharedig. Mor fynych y byddaf yn digalonni ac yn gwylltio yn erbyn pethau, yn erbyn pobl, yn erbyn y byd.

    Bob dydd Y mae arnaf angen maddeuant. Bob dydd mae disgwyl i mi faddau i bethau, i bobl, i'r byd!

    Ti Arglwydd sy'n gofyn i mi faddau ond yn fynych rwy'n hwyrfrydig i wneud. Pam y dylwn i blygu, a phlygu lŵeth? Fe allwn i fynd yn ddi-asgwrn-cefn!

    Ac edrychaf arnat yn hongian ar y groes - o ble y cest ti'r galon a'r cariad i ddweud, "O Dad, maddau iddynt oherwydd ni wyddant pa beth y maent yn ei wneud?"

    Rho i minnau'r gras i faddau bob pryd.

    Wrth edrych arnat, gwelaf yn glir nad bod yn feddal nac yn wan yw gallu maddau o hyd ond, yn hytrach bod yn gryf ac yn llawn o gariad.

    Rho i mi rym dy gariad. Ti, sy'n dal i faddau i mi o hyd.
    Amen.
    [Cyfieithiad o'r Llydaweg gan Rita William gyda chaniatâd yr awdur Job an lrien. O Cyfres o Ddydd i Ddydd - Pobl Dduw. Hydref - Rhagfyr 1992. Carl a Rita Williams.]

    Y Groes yn anghenraid
    Beth yw gwerth ac arwyddocâd aberth Calfaria?
    Gwelwn fod y groes yn anghenraid er mwyn gwneud maddeuant Duw yn real i ni. Yno yn wyneb anrhaith pechod a'i greulonder, gweddïai Crist am faddeuant i'w ddienyddwyr.

    Ei unig ymateb i'r casineb i gyd oedd gweddi na chlywyd ei thebyg:

    "O Dad, maddau iddynt canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur."

    Yma cawn Grist yn cyfieithu ei ddysgeidiaeth yn un act aruthrol o gariad rhyfeddol. Seliodd y maddeuant, nid yn unig drwy ei gyhoeddi ond drwy ddioddef "gwaradwydd a phoen" a chymryd y cam cyntaf i adfer y berthynas rhyngddo â'r rhai a'i rhoesant ar y groes.

    Camp anodd yw maddau. Rhyw geisio maddau a wnawn.

    "All y gwan byth faddau," meddai Mahatma Gandhi,. "Priodoledd y cryf yw maddau."

    Ar Galfaria gwelwyd erchylltra pechod ar ei waethaf - dyn mor gythreulig a 'rhoi "Awdur bywyd i farwolaeth".

    Ond yno hefyd y gwelwyd grym "y cariad mwyaf rhyfedd fu erioed" yn cofleidio'r byd yn ei gywilydd.

    Drwy ingoedd Crist ar Galfaria gwelir Duw ar waith yn ein hadfer i berthynas ag ef ac i bob perthynas arall a niweidiwyd gan bechod.

    Wrth oedi yn ymyl y Groes ni allwn beidio ymdeimlo a'n gwarth o weld fod a wnelo ei ddioddefiadau â ni, yn yr ystyr mai pechod fel ein pechod ni. a'i croeshoeliodd.

    Onid yw pawb ohonom yn euog o'r pechod a'i rhoes Ef ar y groes? Felly dylai pob un ohonom gydnabod mai pechadur yw mewn gwir angen gras a maddeuant.

    Dywedodd Herbert Butterlield yn History and Human Relations fod yn rhaid i'n hagwedd tuag at y Croeshoeliad olygu ein huniaethu ein hunain a'r rhelyw o'r natur ddynol a bod yn rhaid i ni ddweud;
    "Nyni a'i gwnaeth, a'n hanallu i gymryd agwedd debyg tuag at ddigwyddiadau cyfoes sydd wedi achosi ein methiant affwysol i ymgodymu â phroblemau drygioni ein cyfnod."

    Tuedd dyn yw ceisio ei gyfiawnhau ei hun - fel y canodd Abiah Roderick o Gwmtawe:
    Doedd neb o' ni yno
    Pan gas. E ei groeshoelio
    Gall neb bwyntio bys atom ni.

    At rai hunangyfiawn fel ni y daw Duw yn Iesu yn ei faddeuant iachusol ac nid gweithred negyddol mohoni; yn hytrach. gweithred greadigol sydd yn rhoi bywyd a iechyd.

    Darllen: 2 Corinthiaid 5 14-21

    Pwrpas mawr Duw, yn ôl yr Apostol Paul yw "cymodi'r byd ag ef ei hun".
    Trwy Grist y mae'n gwneud hynny, ac felly cenadwri o gymod yw'r Efengyl.
    Beth yw cymodi?
    Cystal diffiniad a'r un yw "Troi 'gelyn yn gyfaill".
    'Roedd Waldo. yr enaid mawr o Sir Benfro, wedi'i gweld hi:
    "Beth yw maddau? Cael ffordd trwy'r drain, at ochr hen elyn."

    Llwyr newid perthynas Duw a dyn
    Digwyddodd rhywbeth ar Galfaria a lwyr newidiodd y berthynas rhwng Duw a dyn.

    Y mae'n creu cymod. yn creu perthynas newydd. Trwy'r aberth drud ar groes Calfaria gorchfygir pob rhwyg drwy i bob "canolfur o elyniaeth" sy'n gwahanu pobl, gael ei chwalu. O ganlyniad daw pobl i berthyn i'w gilydd, nid trwy waed ond trwy "werthfawr waed Crist".

    Diolch am y rhai hynny o ruddin cymeriad a safodd yn ddigyfaddawd am fod gwreiddyn y mater ganddynt.Pobl gadarn, dangnefeddus, - cyfuniad cyfoethog.

    Dyma'r rhai a gaiff eu cydnabod yn gymodwyr.
    I ddyfynnu Luiz Perez Aguinie, un o heddychwyr mawr y byd, "Yr hyn a olygaf wrth gymod yw torri cylch drygioni, sy'n cynnwys dial a thalu drwg am ddrwg... yn syml, yr hyn ydyw yw'r gallu i fod yn feidrol ac i faddau i'r gelyn.

    "Y mae cymod yn fwy na chyfiawnder cydradd yn rhoi cyfartaledd i ddwy ochr; y gallu i oresgyn gwewyr a dangos medr bodau dynol i wrthsefyll drygioni ydyw."

    Fe gofia rhai ohonoch y stori Clawdd Terfyn yn y gyfrol o'r un teitl lle y disgrifia R Dewi Williams y "tanbeidrwydd anghymdogol a oedd yn nheimladau" y ddau ffarmwr, Tomos Bifan a Phiter Huws, at ei gilydd.

    Bu anghydfod di-baid rhyngddynt am ddeng mlynedd ar hugain dros y clawdd terfyn a wahanai eu tiroedd. Wedi blynyddoedd o ddigofaint, a hithau'n dymor bwrw wyn ac iechyd y ddau wedi dirywio. aeth oen o'r naill fferm a'r llall i gyd chwarae ar y clawdd ac fe'u daliwyd yn y rhwyd hela.

    Yn y rhwyd, buont yn ymladd am eu rhyddid nes i'w nerth ballu ac i'r ddau drengi yn y rhwyd.

    Stori am ddau oen yn dod a dau elyn i gymod cyn i angau eu cymryd hwythau o fewn diwrnodau i'w gilydd.

    Adrodda'r storïwr i berthnasau'r ddau fynd ati i goffau'r ddau gymydog a choffau'r cymod a wnaethpwyd rhyngddynt ar derfyn eu hoes.
    Penderfynwyd cael un beddfaen dros y ddau fedd ac arno'r geiriau:
    Er cof am
    Piter Huws y Frwynos, yr hwn a fu farw Mai 2, 1856.
    yn 63 mlwydd oed
    Hefyd
    Tomos Bifan, Bodruch,
    fu farw Mai 24, 1856
    yn 65 mJwydd oed.
    Duu gymydog gymodwyd - yn y glyn
    Ar glawdd terfyn bywyd,
    Trwy ddau oen prydferth aberthwyd
    Er mwyn yr hedd yn rhwymyn rhwyd.

    Ein braint ni yw cydnabod Oen Duw, "yr Oen di-fai fu farw dros y byd".

    Trwy'r Groes y cymodir dynion â Duw ac â'i gilydd a rhaid plygu wrth y groes honno.

    Mae un peth yn gyffredin i bawb ohonom - ein hangen am faddeuant a chymod.

    "O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud."

    Ie, "Ni wyddant beth y maent yn ei wneud."
    Siwd y gallai y rhai a'i croeshoeliodd wybod taw dwylo a thraed Mab Duw oedd y rhai a hoeliwyd ar y groes?
    Roeddent yn unllygeidiog ac ychydig a feddylient y byddai'r Un a groeshoeliwyd ar y groes ganol, yn rhoi gwedd newydd ar bob aberth a dioddefaint, a hynny am dragwyddoldeb.

    Ni wyddai "llywodraethwyr yr oes bresennol" oherwydd "pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant."(1 Corinthiaid. 2:8)

    Gyda thristwch y cofnodir mai anwybodaeth fu'n rhannol gyfrifo} am gyflawni'r weithred ysgeler.

    Mae anwybodaeth yn ddallineb ac yn dywyllwch.
    Cyflwr truenus yw eiddo'r rhai sy'n tybio eu bod yn gweld, a hwythau'n ddall (loan 9 39-41).

    Y mae pechod yn dywyllwch. o'i gyferbynnu â'r goleuni. Dyma un o gyferbyniadau mawr yr Efengyl, sef tywyllwch a goleuni.

    Cyfeiriodd yr Iesu ato'i Hun fel "'Goleun'r Byd". Gellid dweud am lawer i ddyn da iddo gyfrannu at oleuni'r byd ond dyma Un sy'n hawlio mai Ef ei Hun, yn ei fywyd, a'i ddysgeidiaeth a'i Berson a'i aberth ddrud yw Goleuni'r Byd.

    Y mae grym ymhob goleuni a cheir mynegiant o'r grym yn llewyrch cariad aberthol Crist ar y groes.
    Ys dywed Catrin o Siena, "Fuasai hoelion ddim yn ddigon i glymu Mab Duw wrth y Groes oni bai fad Cariad yn ei ddal yno."

    Mae'n wir fod goleuni yn dangos diffygion ac felly mae'n condemnio.
    Ond y mae hefyd yn gwasgaru, yn ymlid, yn trechu ac yn gwaredu dynion o dywyllwch i oleuni cariad a maddeuant Crist.

    Pan fentra dynion dderbyn ysbryd ac egwyddorion lesu Grist yn y byd caiff Duw gyfle i weithredu'r cariad diderfyn hwn. Mae'r grym hwnnw ar gerdded heddiw ble bynnag y gwelir cariad yn cael yr oruchafiaeth ar ddialedd a chasineb.

    Meddyliwn yn nhymor y Grawys eleni am y mannau hynny lle mae effeithiau rhyfeloedd a thrychinebau erchyll a chreulon yn gadael eu hôl a lle mae atgasedd a dialedd ar ei waethaf.

    A beth am ein tueddiadau a'n hanianau gwaethaf ni?
    "Yng ngoleuni dyn gall pechod fyw, ond a welaist ti bechod yng ngoleuni Duw?" meddai Cynan.

    Darllen: loan 3 16-21

    Yn ei lyfr, God was in Christ, mae D. M. Baillie yn sôn am Dduw yn galw ei blant i ffurfio cy1ch mawr.
    Yn y cylch hwnnw dylai pawb ohonom sefyll, law yn llaw, yn wynebu'r golau, sef Crist, sy'n y canol,..

    Gweld ein gilydd yng ngolau'r cariad hwnnw ac uno ein gilydd yn nawns gêm fawr Duw.

    Ond troesom bawb ein cefnau ar Grist fel na welwn ni mo'r golau yn y canol na wynebau 'n gilydd. Ac yn hytrach na chwarae gêm Duw, chwaraewn ein gêm hunanol ni ein hunain.

    Deil goleuni Crist i lewyrchu ar ein cefnau a thaflu'n cysgod ar y llawr o'n blaenau a chyda phob symudiad a wnawn ffurfia'r cysgod batrymau brawychus ac anghyfeillgar ac yn ein calon gwyddom nad yw popeth yn iawn.

    Meddai William Temple:
    "Codwyd tair croes y diwrnod hwnnw ac y mae'n rhaid i ni ddewis un i ni ein hunain. Croes y Gwaredwr dibechod yw un ac nid yw'n bosibl i honno fod yn eiddo i ni.
    "Croesau edifeirwch a di-edifeiriwch yw'r lleill; rhyngddynt hwy gallwn - yn wir, rhaid i ni wneud ein dewis."

    Golyga edifeirwch ddiwygio ein holl fywyd. Drwy gymorth Duw, boed "i ni wneud y gwirionedd" drwy hybu heddwch a chymod yn y byd a dod yn edifeiriol at y goleuni, fel yr amlygir, "mai yn Nuw y mae ein gweithredoedd wedi eu cyflawni".

    Gwrandawn ar eiriau Roger lones, y bardd bregethwr a gyflawnodd ddiwrnod da o waith yn y gornel hon o winllan yr Arglwydd:
    Gwelaist waetha'r byd daearol
    g gwawd a gwg
    dynion drwg
    ar dy hynt achubol

    Ond cyflawnaist ti dy fwriad
    drwy dy loes
    gan droi'r groes
    fyth yn goncwest cariad.

    Rhaid gweld y goncwest yng ngoleuni'r Atgyfodiad.
    Pan ddrylliodd yr Iesu byrth y bedd ar fore'r trydydd dydd daeth Grym a Gwawr newydd i bawb a gred yn y Crist buddugoliaethus.

    Gosododd yr atgyfodiad y groes mewn golau newydd.
    Rhodd Duw yw atgyfodiad Iesu Grist i selio'i gariad a'i faddeuant a dywalltwyd yn gawodydd ar bechaduriaid ddydd Gwener y Grog.

    Gweddi:
    Gad i ni edrych, lesu, ar dy Groes, fel bo grym adnewyddol dy gariad yn ein meddiannu'n llwyr.

    Buost farw drosom ni oll, drosom ni y llefarwyd y geiriau o'r Groes - yr eiriolaeth faddeugar, "O Dad, maddau iddynt".

    Maddau i ni, O Dad os buom yn ddall i gymhellion mawr dy gariad anfeidrol.
    Maddau inni am fethu ymateb i'th gariad. Maddau ein hanufudd-dod i'th ddeddfau a'n bywyd hunanol a phob peth sy'n rhwystr i ni fod mewn perthynas glos a bendithiol a Thi.

    Agor ein llygaid trwy daith y Grawys hwn i weld y Groes yn fuddugoliaeth ar bechodau'r byd.
    Dwg ni allan o dywyllwch ein camweddau i oleuni bywyd ...newydd yng Nghrist er mwyn i ni rannu dy haelioni ag eraill.

  • Cliciwch YMA i gael gwybod am oedfaon eraill y Grawys, 2007


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý