Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Croes Mae arnaf syched
Geiriau Crist ar y Groes
  • Oedfa'r Bore, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Sul, Mawrth 25, 2007
  • Yr Esgob Regan, Wrecsam.
  • Y mae arnaf syched.


  • Darllen: Caneuon Ffydd 518

  • - Y Gŵr fu gynt o dan hoelion.

    Mae'r geiriau cyffrous a hardd emyn Huw Derfel yn ein hannerch yn huawdl heddiw am y syched am gyfiawnder a rhyddid Teyrnas Nefoedd a yrrodd Iesu i Groes Calfaria.

    Ar ôl hyn yr oedd Iesu'n gwybod bod pob peth pellach wedi ei orffen ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni, dywedodd, "Y mae syched arnaf."

    O Sul i Sul yn ystod y Grawys hwn mi gawson ni'r fraint yn Oedfa'r Bore o fyfyrio ar eiriau Iesu oddi ar y Groes. Mae pob gair a lefarwyd ganddo, pob manylyn, yn cyfleu cariad tanbaid Duw tuag atom.

    Heddiw, drwy eiriau Efengyl Ioan, cawn ein herio gan waedd enbyd lesu:
    "Y mae syched arnaf."

    Mae'r waedd hon o syched yn waedd fawr o oruchafiaeth yn ogystal ac un o ddioddefaint - mae'n rhagweld buddugoliaeth ogoneddus: gan mai dim ond pan fydd ei syched wedi ei ddiwallu y gall Iesu ddweud, "Gorffennwyd".

    Fel y dywedodd Sant Paul"
    "Gwelodd Duw yn dda i'w holl gyfiawnder breswylio yn Iesu, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ei hun ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd." Colosiaid 1:20.

    Emyn

    Sychedu am beth?
    Ar ol hyn yr oedd Iesu'n gwybod fod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni, dywedodd, "Y mae syched arnaf."

    Am beth oedd Iesu'n sychedu wrth yngan y geiriau hyn?

    Yn amlwg, roedd ei gorff yn llefain am ddŵr, wedi'r fflangellu gwaedlyd, barbaraidd, a'r daith erchyll i fryn Calfaria.

    Mae Ioan yn dweud i Iesu yfed y gwin a gynigiwyd iddo gan y milwr fel ffordd o leddfu ei syched ond mae yna ystyr dyfnach yma.

    Nid dim ond syched am ddŵr oedd ar Iesu - y syched mawr oedd arno oedd un a ddeilliai o'i ewyllys rhydd ei hun, syched am fedru cyflawni ewyllys ei Dad.

    Ei awr wedi dod
    Ar drothwy gwyl y Pasg yr oedd Iesu'n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael â'r byd hwn a mynd at y Tad. (loan 13:1). Roedd medru "mynd at y Tad" yn mynnu popeth gan Iesu.

    Roedd Iesu yn gwybod y byddai'n rhaid iddo ddioddef Bedydd Angau er mwyn trosglwyddo o'r byd hwn i Deyrnas ei Dad, fel blaenffrwyth y cread oll.

    Gwyddai mai dyna'r unig ffordd i chwalu grym pechod a marwolaeth.

    Dywedodd, "Minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun." (Ioan 12:32)

    Nid trwy drais
    Dydy Pedr dim wedi deall hyn.
    Yng ngardd Gethsemane dangosodd Pedr y pysgotwr nad oedd o fawr o werth gyda chleddyf pan gollodd Malchus ei glust dde!

    Dywedodd Iesu wrth Pedr, "Rho dy gleddyf yn ôl yn y wain. Onid wyf am yfed y cwpan y mae'r Tad wedi ei roi imi?"

    Roedd yn barod i dalu'r pris.
    Unwaith eto, camddeallodd Pedr genhadaeth ei Feistr. Roedd am arbed Iesu trwy drais ond trwy dderbyn Cwpan Dioddefaint oddi wrth ei Dad, roedd Iesu am chwalu'r trobwll o drais ac felly ryddhau Ysbryd Maddeuant i galonnau pobl.

    Yr isop
    Symbol o'r cwpan oedd yn cael ei estyn gan y Tad yw'r sbwng yn llawn gwin ar ddarn o isop a gynigwyd i Iesu i'w yfed gan y milwr Rhufeinig.

    Prin fod y milwr hwnnw'n sylweddoli mai symbol o gwpan y Tad oedd e'n i gynnig ac wrth ei yfed mi wnaeth Iesu arddangos cariad y Tad at y byd.

    Mae awgrym o hyn i'w gael yn natur yr isop, sy'n llwyn bychan gyda blas fel mintys chwerw.

    Mae isop yn ein hatgoffa ni heddiw o weithred fawr Duw yn achub ein bobl oddi wrth gaethwasiaeth yn yr Aifft.

    Ar noswyl y Pasg tyngedfennol, dywedodd Moses wrth ei bobl i ddefnyddio isop wrth daenu gwaed oen y Pasg ar dai'r Israeliaid.

    Ar Galfaria, Oen Duw sy'n trechu grymoedd angau a drygioni - yn y chwerwder mae llawenydd.

    Yn yr ychydig frawddegau cryno hyn mae Ioan yn dweud wrthym ni am y ddrama sy'n digwydd ar fryn Calfaria - drama sy'n datgelu cariad Duw, yr hwn sydd wrth galon hanes y ddynoliaeth.

    Emyn.

    Cynnig diod
    Yn Efengyl Mathew, rydyn ni'n darllen hyn: "Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, 'Lle Penglog', ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu a bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed." (Mathew 27:34).

    Mae croeshoelio yn un o'r ffurfiau mwyaf barbaraidd o gosbi a grewyd erioed gan ddynion gyda'r condemniedig yn marw yn araf ac yn boenus.

    Mae pob ymdrech i anadlu yn golygu codi'r corff er mwyn rhyddhau'r ysgyfaint ond mae hynny'n achosi poen erchyll yn y dwylo a'r traed.

    Ac eto, roedd hi'n arfer i gynnig gwin gyda chyffur ynddo i'r troseddwr i liniaru'r boen - dyna oedd y ddiod o win wedi'i gymysgu a bustl a gynigiwyd i'r Iesu.

    Ar un llaw roedd y Rhufeinaid yn achosi poen mawr, ond ar y llaw arall roedden nhw ceisio lleihau'r boen!

    Pobl yn greaduriaid od
    Yn wir, mae pobl yn greaduriaid od.
    A go brin ein bod yn wahanol heddiw.
    Ar Ddirwnod Trwynau Coch eleni, cyflawnodd pobl bethau gwallgof er mwyn codi arian i helpu Comic Relief.

    Heb os nac oni bai, mae'n beth da ein bod ni yn sylweddoli fwy a mwy bod yna filiynau o bobl yn y byd yn byw mewn cyflwr sy'n sarhad ar urddas y ddynoliaeth. Ond mae'r sefyllfa yna yn bodoli oherwydd bod y Gorllewin yn mwynhau safon byw sy'n dibynnu ar arferion masnach sy'n bodoli dim ond er mwyn gwneud elw ac sy'n cadw'r gwledydd yr ydym yn honni ein bod am eu helpu yn dlawd.

    Mae ein Llywodraeth yn gwneud yr un peth wrth siarad yn huawdl am y sialens fawr o newid hinsawdd a thwymo byd-eang ond er hynny yn hybu teithio awyr.

    Nid y Llywodraeth yn unig sy'n dweud un peth a gwneud rhywbeth arall. I ryw raddau, rydym ni i gyd yn euog o hynny - mae cymaint o'n cyfrifiaduron, ein hesgidiau trainers, neu ddillad gan wneuthurwyr enwog yn cael eu gwneud gan bobl sy'n derbyn cyflogau chwerthinllyd o isel.

    Byw gydag anghysonderau
    Efallai fod yn rhaid inni, i ryw raddau, fyw gyda'r anghysonderau hyn gan ein bod mewn byd hurt - ond o leiaf mi fedrwn edifarhau; gofyn am faddeuant ac hefyd geisio byw yn fwy syml er mwyn troi ein gweddiau yn weithredoedd.

    Pam gwrthod y gwin?
    Ond, pam y gwrthododd yr Iesu y gwin wedi'i gymysgu ^a bustl, y lladdwr poen a gynigiwyd iddo?

    Efallai ei fod yn cofio geiriau Llyfr y Diarhebion, "Nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn, rhag iddynt yfed ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.

    "Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod a gwin i'r chwerw ei ysbryd; cant hwy yfed ac anghofio'u tlodi, a pheidio a chofio'u gofid byth mwy."(Diarhebion 31:4-7)

    Dibynnu ar gyffur
    Yn ei lyfr, Communions of Jesus, mae John Henson yn trafod hyn ymhellach ac yn sôn sut mae diod a chyffuriau yn aml yn gymorth i rai sy'n gwrthod, neu'n methu â wynebu realaeth eu bywydau ac am ymwrthod a'u cyfrifoldebau o ganlyniad.

    Mae Henson yn trafod hyn o brofiad.
    Fe fu'n dibynnu ar Valium am bedair blynedd ar ddeg ac yn cofio'n dda sut beth oedd gweithredu ar un silindr yn unig.

    Mae'n sôn sut y gall bywyd weithiau ymddangos yn annioddefol a'r dewis sy'n wynebu rhwyun yn un brawychus, naill ai i liniaru'r boen trwy ba ddull bynnag sydd ar gael, neu roi'r gorau i bopeth.

    Yn aml, mae yna drydydd dewis hefyd ond mae'r dewis yna'n golygu proses fwy dyrys ac yn cymryd mwy o amser.

    I'r graddau fod cyffuriau, sydd ar gael yn gyfreithlon o law'r meddyg, yn gallu cadw person rhag chwalu'n llwyr a rhoi cyfle i rai o ddioddefwyr mawr bywydyd gael eu gwynt atynt, mae hynny'n rhodd gan Dduw, yn ôl Henson.

    Dywed ei bod yn ddealladwy fod y rhai oedd yn cael eu croeshoelio am dderbyn y ddiod llawn bustl yn awchus er mwyn lleddfu mymryn ar eu dioddefaint ond roedd Iesu am gadw'n effro ac yn llwyr ymwybodol.

    Roedd am rannu ein dioddefiannau yn llwyr ac, felly, doedd e ddim am osgoi'r boen.

    Roedd y byd yn dibynnu ar Iesu am ei iechyd a'i gyflawnder ac ni wnaeth ymwrthod â'r cyfrifoldeb.

    Sut gallai gyflwyno'r geiriau gobeithiol i'r troseddwyr bob ochr iddo os oedd yn feddw?
    Sut gallai fod wedi maddau i'w arteithwyr?

    Weithiau mae pobl yn troi at ddiod a chyffuriau mewn rhwystredigaeth neu ddiflastod ond doedd Iesu ddim yn rhwystredig.
    Cyflawni pwrpas ei fywyd oedd e.

    Gweddi:
    Arglwydd ein Duw, o gariad anhraethol at y byd y traddododd dy fab ei hunan i farwolaeth; bydded i'r un a'r unrhyw gariad ein hysgogi ninnau i rodio'n ewyllysgar yn ôl ei draed.
    Trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

    Emyn.

    Llais:
    O Dduw, ti yw fy Nuw, mi'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr.

    Mae geiriau Alan Llwyd yn disgrifio ein syched am Dduw:
    O Grist, irha grastir ein dyddiau, disycheda'r creigleoedd a gwlith, dadmer lwydrew ein dideimladrwydd, dyfrha rigol y tir caregog; tyrd eilwaith i aileni'n calonnau, a datgloi ein ffynhonnau o'u heth, par i gariad flaguro o'r newydd trwy aeafau'r brigau barugog."
    Alan Llwyd, 1982. Yn Nydd yr Anghenfil, Barddas. Dyfynnwyd yn Cydymaith y Pererin tudalen 129.

    "Y mae syched arnaf fi"
    A ydy hi'n rhy fentrus i awgrymu fod Iesu hefyd yn sychedu amdanon ni?

    Dydy'r Pab Bened XVI ddim yn meddwl hynny.
    Yn ei neges ar gyfer y Grawys mae'n datgan:
    "Ar y Groes, Duw ei hun sy'n crefu am gariad ei greaduriaid: Mae'n sychedu am gariad pob un ohonom."

    A sut fedrwn ni ddiwallu syched Duw amdanom ni?
    Trwy gyfrannu o syched Duw am werthoedd Teyrnas Nefoedd.

    Yng ngeiriau St Paul, 'Ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.' (Galatiaid 5:22)

    Yng ngeiriau'r Pab Bened eto:
    "Mae syched Duw yn ein hysgogi i ymladd yn erbyn pob dirmyg tuag at fywyd a phob camddefnydd o bobl, ac i liniaru unigrwydd ac esgeulustod trasig gymaint o bobl."

    Ai dim ond am bethau sy'n diwallu ein dymuniadau hunanol yr ydyn ni yn sychedu?
    Ai syched cadarnhaol ynteu un hunanol sy'n ein gyrru ni?

    Diwedd caethwasiaeth
    Gwarth y Gorllewin ydy mai dim ond dwy ganrif yn ôl y dilewyd y fasnach mewn caethion: pasiwyd y ddeddf ar y diwrnod hwn: Mawrth y Pumed ar hugain, Mil Wyth Dim Saith.

    Cafodd yr Arglwydd Grenville, William Wilberforce ac eraill drafferth mawr perswadio'r Eglwys a'r Senedd fod y fasnach, yng ngeiriau Grenville, yn "wrthun i egwyddorion cyfiawnder, dynoliaeth a pholisau da."

    Parhaodd erchyllterau caethwasiaeth am flynyddoedd lawer - dim ond ym 1833 y cafwyd gwared â chaethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

    Ac erbyn heddiw?
    Y gwir gwarthus yw fod miliynau o bobl yn dal yn gaethweision mewn rhannau o'r byd a does dim angen inni deithio ymhell i gael hyd i'r caethweision modern.

    Caethweision heddiw
    Yn yr Independent on Sunday ar Sul cyntaf y Grawys eleni roedd y prif bennawd yn datgan fod pum mil o blant yn gaethweision yn y Deyrnas Gyfunol, rhai mor ifanc a phump.

    Mae adroddiad gan Brifysgol Hull ar ran Ymddiriedolaeth Rowntree ar y cyd â Slavery International a Sefydliad Wilberforce yn trafod Caethwasiaeth a'r Rhyddhau.

    Mae'r adroddiad yn cyflwyno darlun brawychus o rwydwaith rhyngwladol o wylliaid sy'n rhedeg gangiau sy'n camddefnyddio plant, yn ogystal â merched sy'n ddiamddiffyn.

    Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu bygwth, yna'n cael eu gwerthu i gaethwasiaeth neu eu gorfodi i fod yn weision domestig di-dâl.

    Hanes Danielle
    Un enghraifft ydy Danielle, o Lithwania.
    Pan oedd hi'n bymtheg oed cafodd addewid o swydd dros yr haf ym Mhrydain ond pan gyrhaeddodd, dygwyd ei phasport oddi arni a sylweddolodd fod ei swydd dros yr haf mewn puteindy yn Birmingham.

    Roedd hi erbyn hynny wedi cael ei gwerthu am £3,500 .

    Bu'n ddigon ffodus i fedru dianc yn ôl i Lithwania, ond mae hi'n dal mewn arswyd.

    Chwarae teg, mae rhai aelodau seneddol yn pwyso ar hyn o bryd ar y Llywodraeth a'r Heddlu i wneud mwy o ymdrech i ddal y rhai sy'n trefnu a chynnal y fasnach mewn pobl.
    Rhaid i ninnau eu cefnogi.

    Chwalu cadwynau
    Wrth inni gefnogi mudiadau fel Fair Trade ac Amnest, gallwn hefyd helpu i chwalu eraill o gadwynau caethwasiaeth.

    Ond, efallai, wrth wneud hynny, y dylem hefyd ystyried y pethau sy'n ein cadw ni'n gaeth, ein hymlyniad at y pethau sy'n ein llesteirio rhag sylweddoli fod arnom ni syched am Dduw a Theymas Nefoedd.

    Myfyrio ar gyfeiriad ein bywydau
    Yn ystod cyfnod y Grawys, rydym yn myfyrio ar gyfeiriad ein bywydau.

    Y gair Groeg am edifeirwch ydy metatonia, sy'n golygu troi o gwmpas, a cherdded i'r cyfeiriad arall.

    Llynedd, bum yn ddigon ffodus i fedru cerdded o Pamplona ar hyd y ffordd i Santiago yng ngogledd Sbaen, i gysegr Sant Iago.

    Wrth gerdded y pedwar cant a hanner o filltiroedd mi ddysgais i pa mor bwysig ydy cadw at y llwybr, a dilyn yr arwyddion os oeddwn i am gyrraedd fy nghyrchfan yn y diwedd.

    Roeddwn i'n berffaith rydd i gerdded lle y mynnwn, ond rhyddid ffug fyddai hynny os oeddwn am gyrraedd Santiago. Roedd yn wers dda am bwysigrwydd dilyn camau Iesu ar bererindod bywyd.

    Dim ond pan fyddwn yn ufuddhau i ysgogiadau dwysaf yr Ysbryd yn ystod ein taith trwy fywyd, yr ydym ni'n defnyddio ein hewyllys rhydd i'r diben y rhoddodd Duw hwnnw inni.

    Dim ond yng Nghrist y medrwn ni fod yn gwbl rydd: mae Iesu'n sychedu am ein rhyddhau o afael caethwasiaeth pechod amom.

    Mae ef yn gwbl rydd, a medrwn ninnau fod felly hefyd os safwn gydag ef.

    Yng ngeiriau Pennar Davies:
    "Efe yw'r dyn rhydd. Sylla arno, fy enaid. A oes ganddo gyfoeth, gallu bydol, safle dylanwadol yn nhrefniadaeth y wlad? Nac oes. Nid oes dim byd ganddo ond corff yn awr, ac mae'r milwyr yn trin y corff hwnnw fel y mynnant ...

    "Edrych arno, fy enaid. Dyn rhydd ydyw; yr unig ddyn rhydd yn Jerwsalem.
    Carchar yw ymerodraeth Peilot;
    Carchar yw crefydd Caiaffas;
    Carchar yw breuddwyd Jwdas;
    Carchar yw dryswch Pedr;
    Carchar yw uchelgais Herod.
    Carchar yw mudiad gwrthryfelgar Barabbas wedi'i rhyddhau o'i gell.
    Crist yn unig sydd yn rhydd.

    "Fy enaid, saf gydag ef. Y fan honno, wrth ei ochr, dan lach y milwyr, y mae rhyddid i'w gael (Cydymaith y Pererin', Gomer, td. 119)

    Gŵyl arall
    Heddiw, ar Fawrth 25 rydym ni hefyd yn dathlu Gŵyl Ryddid arall. Gŵyl y Cyfarchiad, pan roddodd Mair o Nasareth ei hun o'i gwirfodd i Ysbryd Duw, a thrwy hynny roddi gwaredwr i'r byd.

    Gweddiwn y byddwn ni yn sefyll gyda'i Mab.
    Gadewch inni adrodd gyda hi: "Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy ngwaredwr."

    Gweddi:
    O Dduw, sydd drwy dy air yn dod â'r hil ddynol i gymod rhyfeddol a Thi dy hun, dyro i'th ffyddloniaid y gras i frysio tua'r Ŵyl fawr sydd ar ddyfod, yn barod ein hymroddiad ac yn llawen ein ffydd.

    Dyro i ni y gras i ddiwallu dy syched di am ein cariad, er mwyn i ni ddangos i bawb y cariad tirion wyt ti wedi ei roi i ni.Trwy Grist ein Harglwydd.

    Emyn ) Y Fendith


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý