Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Ffion yn darllen y Magnifficat Y Magnifficat
Gwasanaeth Nadolig Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru 2006
Y Magnifficat - cyflwyniad gan y gweinidog
  • I'r ddalen flaenorol

    Y Magnifficat - nid cân neis-neis!
    Sylwadau y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor

    Yn dilyn darlleniad o emyn mawl Mair a adnabyddir fel Y Magnifficat traddodwyd y sylwadau hyn gan y gweinidog:


    neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:


    Nid cân neis-neis yw [Y Magnifficat] sy'n sôn pa mor hyfryd yw hi i fod yn fam i blentyn diniwed.

    Nid mynegi gobaith y bydd y plentyn yn tyfu i fod yn hapus a gwneud yn dda iddo'i hunan a wna Mair.

    Na, datganiad chwyldroadol ydyw a phwysleisia'r Dr Vivian Jones yn ei lyfr pwysig Y Nadolig Cyntaf fod yr emyn hwn fel datganiad tebyg i un o ganeuon protest Joan Baez.

    Offerynnau yn llaw Duw
    Mae Mair yn mynegi ei chydnabyddiaeth y dylem dderbyn taw offerynnau ydym ni i'w defnyddio gan Awdur Bywyd i gyflawni ei bwrpas ef. Dyma'r agwedd at fywyd sydd bron wedi diflannu o'n plith wrth inni fynd i gredu taw pwrpas bywyd yw i ni wneud y gorau i'n hunain.

    Mae ystyr llawer mwy i'n bodolaeth na hynny! O ddarllen y Magnifficatar ar ei ben ei hun mae'n swnio'n debyg i ddarn o waith y proffwydi gyda'i sôn am dynnu tywysogion oddi ar eu gorseddau a dyrchafu'r distadl.

    Ac wrth gwrs, yr oedd Mair, fel Iddewes dda, yn gyfarwydd iawn â gwaith y proffwydi ac y mae'n eu hefelychu.

    Genedigaeth wyrthiol arall
    Nid y proffwydi yn unig fu'n ddylanwad arni. Un a ganodd emyn o fawl i Dduw oherwydd iddi gael gwybod ei bod yn mynd i esgor ar blentyn a fyddai'n newid hanes ei genedl oedd Hanna, mam Samuel.

    Yr oedd yr enedigaeth hon yn un wyrthiol hefyd, oherwydd yr oedd Hanna yn methu a chael plant ac wedi rhoi genedigaeth canodd Hanna gân sy'n cyfleu llawer o'r hyn sy'n cael ei adleisio yn y Magnifficat:

    "Y mae'n codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen ... canys nid trwy rym y mae trechu" meddai.

    Mae'r hanes hwn wedi dylanwadu ar y traddodiad anysgruthurol sy'n honni taw Hanna - Anna neu Ann yw'r ffurfiau diweddarach ar yr enw - yw enw mam Mair. Y gwir yw nad oes gennym syniad am ei henw.

    Cerdd yw'r Magnifficat sy'n pwysleisio'r gwirionedd sylfaenol a berthyn i'r Nadolig: mae'r Meseia yn mynd i gael ei eni gyda'r bwriad o newid y ddynoliaeth a'r byd. Mewn gair, i achub y byd.

    Dyna pam y defnyddir geiriau fel Ceidwad a Gwaredwr i'w ddisgrifio, ac fe glywn y rhain yn aml yn yr oedfa hon. Ni ellir mo'u hosgoi hyd yn oed pe dymunem hynny.

    Geiriau sy'n cario syniadau pwerus ydynt, yn hanu o iaith wleidyddol y cyfnod hwnnw.

    Mwy nag unrhyw dywysog
    Cesar oedd yr un oedd yn cael ei gyfarch â'r teitlau hyn fel arfer ond dywed Mair ei bod yn mynd i esgor ar un sy'n fwy nag unrhyw dywysog, mwy na Chesar hyd yn oed.

    Dibynna awdurdod a grym Cesar ar y bygythiad o drais sy'n peri ofn ac arswyd ar y bobol yn gyffredinol; ond dibynna awdurdod a grym y Gwaredwr ar gariad a thrugaredd sydd yn ennyn ymateb gorfoleddus mewn pobol.

    Gorfoda ffordd Cesar o feddwl, a'i weision gwasaidd megis Herod, y bobol i blygu a derbyn trefn faterol ac anhrugarog y byd - grym yr economi a grym milwrol.

    Ond y mae ffordd Gwaredwr y byd yn ein harwain i blygu gerbron awdur yr hollfyd ac yn ein dwyn i berthynas â'r Meddwl - y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, a'r Gallu sydd yn hanfod i'r cyfan.

    Ffordd trugaredd, gair sy'n cael ei ddefnyddio droeon yn y Magnifficat, yw'r ffordd hon; y ffordd a ddangoswyd gan Iesu.

    Geiriau'r proffwydi
    [Yn y gwasanaeth darllenwyd darnau o weithiau'r proffwydi yn rhagweld diad y Meseia.

    "Daw'r darnau o lyfr y proffwyd Eseia ac fe'u datganwyd am y tro cyntaf yng nghanol cyfnod anodd iawn yn hanes y genedl Iddewig.

    Yr oedd wedi ei choncro a'i gormesu gan un o superpowers yr oes, Babilonia, a rhagweld gwaredigaeth o'r cyflwr enbyd a wna Eseia; oherwydd cariad Duw at ddyn ni all adael i bobl ddioddef heb ymyrryd drwy ysbrydoli rhai i gymryd at yr awenau i'w harwain i ryddid a heddwch.

    Un a wnai hynny oedd y Meseia - y Gwaredwr."]
  • Cliciwch
  • i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.

  • I'r ddalen nesaf

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý