Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Gwen yn gweddio yn ystod y gwasanaeth Y Doethion
Gwasanaeth Nadolig Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru 2006
Y Doethion - parhad o gyflwyniad y gweinidog
  • I'r ddalen flaenorol

  • Y doethion yn bobl y cyrion

  • Sylwadau y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor



    neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:

    Pobol yn byw ar gyrion y gymdeithas oedd y prif gymeriadau yn stori'r Nadolig yn ôl Luc; Mair a Joseff a'r bugeiliaid.

    Pobol y cyrion, mewn ystyr arall, oedd y doethion, neu'r sêr-ddewiniaid, sy'n ymddangos yn fersiwn Mathew o'r stori hefyd.

    Diwylliant a chrefydd wahanol
    Pobol a berthynai i genedl, diwylliant a chrefydd gwahanol oedd y rhain. Y gair amdanynt yn y Roeg wreiddiol yw 'magoi'.

    Cwlt crefyddol a berthynai i grefydd traddodiadol y Persiaid, sef Soroastraeth, oedd y 'magoi'. Brodorion o naill ai Irac, Iran neu Affganistan oeddent. Ystyriwyd hwy gan y Rhufeiniaid a'r Iddewon, fel ei gilydd, fel estroniaid peryglus ac anwaraidd; gelynion oeddent ers canrifoedd maith.

    Pe byddai'r ymadrodd 'axis of evil' wedi cael ei fathu y pryd hwnnw, fe fyddai'r Rhufeiniaid wedi ei ddefnyddio i ddisgrifio'r bobol hyn a'u gwledydd. Onid yw'n rhyfedd fel mae pethau'n ail-adrodd eu hunain ar hyd yr oesoedd?

    Y Nadolig hwn y mae pobol y gorllewin, yn gyffredinol, yn ystyried disgynyddion y 'doethion' hyn fel gelynion anwaraidd o hyd.

    Grym mwyaf y byd
    Ar un adeg Soroastraeth, crefydd y magoi, oedd crefydd y grym mwyaf yn y byd. Hon oedd crefydd Cyrus a roes eu rhyddid i'r Iddewon i fynd yn ôl i'w gwlad o'r Gaethglud ym Mabilon; Darius a Xerxes (neu Ahasfferus yn ôl Llyfr Esther).

    Bu'r Iddewon yn is-wasanaethgar i'r brenhinoedd hyn a'u tebyg am ganrifoedd, a cawn hanesion rhai ohonynt, fel Daniel, yn yr Hen Destament. Yn awr, meddai Mathew, mae cynrychiolwyr yr hen 'superpower' yma yn dod bob cam i Fethlehem i addoli Iesu a'i gydnabod fel Gwaredwr yr holl genhedloedd.

    Trysorau drudfawr
    Yn ôl Mathew daeth y doethion â'u hanrhegion, aur a thus a myrr, trysorau drudfawr sy'n cynrychioli gwerthoedd eu diwylliant materol a chrefyddol (a gwerthoedd pob diwylliant gan gynnwys ein diwylliant ninnau) a'u cyflwyno i Iesu wrth iddynt blygu i'w addoli.

    Mae aur wedi cynrychioli cyfoeth a'r economi erioed drwy hanes gwareiddiad y gorllewin; a dwy fil o flynyddoedd yn ôl yr oedd thus a myrr yn nwyddau yr un mor werthfawr ag aur ac yn cynrychioli masnach ryngwladol pwysig.

    Roedd y tri pheth yn chwarae rhan bwysig iawn mewn addoliad, a hynny ym mhob crefydd.

    Wrth bwysleisio dyfodiad yr estroniaid hyn, y mae Mathew yn cadw mewn cof y proffwydoliaethau hynny, a darnau eraill o'r ysgrythurau, sy'n cyfeirio at roddion yn cael eu cyflwyno i'r Meseia, sydd o linach Dafydd.

    Edrych ymlaen
    Yn Salm 72: 13-15 mae'r Salmydd yn edrych ymlaen at ddyfodiad Waredwr Meseianaidd sy'n mynd i ddod a heddwch a chyfiawnder, sy'n mynd i ddyrchafu'r tlodion a'r anghenus a dryllio'r gorthrymwr.

    Mae ei weledigaeth yn hynod o debyg i'r hyn a fynegwyd gan Mair yn y Magnifficat.

    Geilw'r salmydd ar i bobol fawrygu'r person arbennig hwn, a dywed,
    "Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion. Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg. Hir oes fo iddo, a rhodder iddo aur o Sheba..."

    Caniad Solomon
    Ceir darn pwysig mewn llyfr annisgwyl, sef Caniad Solomon 3: 6-7; yn y gerdd garu hon y mae'r ferch yn edrych ymlaen at ddyfodiad ei chariad sy'n perthyn i linach Dafydd; mae'n gweld yr un a garai yn dod ati o'r dwyrain:

    "Beth yw hwn sy'n dod o'r anialwch, fel colofn o fwg yn llawn arogl o fyrr a thus, ac o bowdrau marsiandïwr? Dyma gerbyd Solomon..."

    I genedlaethau o Gristionogion, arwydd o'r bobl yn disgwyl dyfodiad y Crist, neu'r Meseia, oedd y darlun o'r gariadferch yn disgwyl yn eiddgar am ddyfodiad ei phriod. Delwedd a gafodd ddylanwad mawr ar emynwyr mawr Cymru, yn enwedig Ann Griiffiths oedd hon.

    Dod a thrysorau
    Arwydd o ddyfodiad trefn newydd Duw, yn ôl gweledigaeth Eseia (60: 5-6), yw'r ffaith fod estroniaid yn mynd i ddod â thrysorau i'w cyflwyno i'r Meseia:

    "...a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti. Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio, daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba; byddant i gyd yn cludo aur a thus, ac yn mynegi moliant yr Arglwydd."

    Gwasanaethu grym cariad
    Mae'r cyfan oll - yr holl genhedloedd a'u golud, hyd yn oed y gelynion, pobol sy'n perthyn i genhedloedd eraill, y rhai nad oeddent yn cael eu cydnabod gan y Sefydliadau grymus oedd mewn awdurdod, holl ddiwylliant a chrefydd, yr holl fyd a'r greadigaeth, yn cynnwys y sêr, o dan awdurdod y Gwaredwr hwn, oherwydd oddi wrth Greawdwr y cyfan y daw.

    Bwriad Duw yw trawsffurfio'r cyfan hyn a'u cael i blygu gerbron, addoli a gwasanaethu grym cariad, trugaredd, cyfiawnder a heddwch, sef y Duw a ymgnawdolodd yn y baban Iesu ym Methlehem.

  • Cliciwch
  • i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.

  • I'r ddalen nesaf

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý