Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Karen Owen Rowan Williams - ymateb cynhyrchydd
'Bwlch enfawr rhwng dau drafod'


Achos y ffrae a ddilynodd ddarlith Archesgob Caergaint y bwlch meddyliol enfawr rhwng Rowan Williams a'r cyfryngau torfol yn ôl cynhyrchydd rhaglenni crefyddol Ö÷²¥´óÐã Cymru, Karen Owen.

Ychwanegodd ei bod hefyd yn amlygu'r casineb ym Mhrydain "tuag at bobl sydd yn arddel ffydd Islam".

Yr oedd yn cael ei holi gan Nia Thomas ar Post Cyntaf fore Llun 11 Chwefror 2008:



Cyfreithwyr a Chyfryngau
Ef, meddai, yn siarad efo cyfreithwyr "a phobl oedd yn adnabod y pwnc ac yn adnabod cymhlethdodau ac yn adnabod manylion technegol y gyfraith a beth sy'n bosibl".

"Ac wedyn, mae gennych chi y bwlch anferth yma rhwng y trafod gofalus a myfyrgar hwnnw a'r peiriant cyfryngau . . . sy'n chwilio am stori glir, eglur, du a gwyn, a stori sy'n ffitio dan un pennawd bras ac mae'r gofod, mae'r bwlch, rhwng y ddau beth yna yn anferthol," meddai.

"Yr oedd o'n siarad gyda chynulleidfa gyfyng iawn ac mae trio apelio wedyn at ddarllenwyr papurau tabloid yn rhywbeth bron yn amhosib i'w wneud ar y ddau begwn yna," ychwanegodd.

"Yr hyn sy'n ddiddorol yw y ffordd y gwnaeth Eglwys Loegr ymateb . . . yn ysgrifenedig [ar ei] gwefan . Nawr ydi hynny yn ateb y bobl sydd yn darllen y penawdau bras yma, dydw i ddim yn meddwl ei fod o," meddai.

Gwireddu geiriau
Ychwanegodd i'r helynt hon godi ar yr union adeg y mae Eglwys Loegr yn un ranedig iawn ac am ei ymateb ef dywedodd:

"Tybed ydi o wedi dweud; Fe reidiwn ni y storm yma, yn y gobaith y bydd ei eiriau yn cael eu gwireddu ymhen blynyddoedd - neu yn y sicrwydd y byddan nhw'n cael eu gwireddu.

"Ond un peth arall sy'n sicr; mae cryfder teimladau pobl, casineb, rhagfarnau, ofnau a drwgdybiaeth pobl Prydain tuag at bobl sydd yn arddel ffydd Islam wedi cael ei fynegi yn glir iawn, iawn, a fedrwn ni ddim camu nôl o hynny," meddai.

  • Pwyso a mesur -

  • ymhen yr wythnos
    Lyn Lewis-Dafis fu'n edrych yn ôl dros yr helynt wythnos yn ddiweddarach.



    "Dwi'n credu fod y dyn wedi wynebu storom nad oedd raid iddo ei hwynebu pe byddai pobl wedi darllen beth oedd o wedi'i ddweud yn iawn ond wrth gwrs os ydych chi'n mynd i siarad am berthynas y gyfraith gyda chyfraith Islam rydych chi bownd o ddod a phobl mas sydd â rhywbeth i'w ddweud ar y mater ac fe wnaeth e annog pawb oedd â rhywbeth i'w ddweud i ddweud ei farn - y papurau, y gwleidyddion, y diwinyddion a dilynwyr Islam eu hunain," meddai.
    Er yn gwrthod derbyn i'r Archesgob fod yn "naïf" dywedodd ei fod o'r farn na chafodd Rowan Williams y cyngor y dylai fod wedi gael i ddisgwyl y math yma o ymateb.

    Ei gamgymeriad, ychwanegodd oedd peidio â chadw at ei araith a mynd ar y Ö÷²¥´óÐã a gwneud y peth yn "lot mwy cyhoeddus" .

    Ond yr oedd Rowan Williams yn gweld hyn fel rhan o'i waith fel arweinydd cymuned ffydd yn Lloegr i ymdrin â phethau yn ymwneud â ffydd a chyfraith. Er i Synod yr eglwys dderbyn ei ymddiheuriad neu eglurhad Lyn Lewis-Dafis nad felly y wasg a'r cyfryngau sy'n mynnu'n awr ei fod wedi colli ei awdurdod ac na fydd yn bosib iddo ei adfer ychwaith.

    "Dwi'n credu ei fod wedi ei wanychu," meddai.

    Bu'n trafod hefyd effaith hyn ar Gynhadledd Lambeth a'r rhwyg sydd yna eisoes a dim ond rhyw 600 allan o 800 o esgobion yn debyg o fod yn bresennol - sefyllfa sy'n awgrymu fod y syniad o gymuned bydeang yn cael ei golli a hynny'n tanseilio awdurdod unrhyw benderfyniad a wnaed yn y gynhadledd.

  • Ymateb Yr Arglwydd Elystan Morgan

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý