Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Gynau Colofn Y Newyddion da
Chwefror 2003
Mae Robin Samuel yn trafod dwy ffilm ac erchyllterau'r diwylliant gynau yn ein byd ni heddiw.
Un o'r profiadau rwy'n ei drysori'n fawr iawn, o nhaith i Honduras ddwy flynedd yn ôl, yw bod mewn gwesty mewn tref fach or enw Sula, yn gwylio tîm pêl droed Honduras yn curo Brasil yng nghwpan America. Aeth y dathlu mlaen hyd oriau man y bore, gyda phob lori a basiodd heibio yn ystod y nos yn canu corn! Roedd yn ganlyniad mor annisgwyl, ac fe roddodd gymaint o bleser i bobl y wlad, nes gwneud i mi brynu crys y tîm 'cenedlaethol' i nodi'r achlysur, a chwarae teg mae'r mab yn dal i'w wisgo.

Daeth y profiad yn ôl yn fyw iawn yn ystod y dyddiau diwethaf wrth ddarllen yn y papur fod gôl-geidwad tîm Honduras, Milton Flores, neu "Chocolate" fel roedd yn cael ei alw, wedi ei saethu'n farw ar y stryd yn San Pedro Sula, taith hanner awr o'r lle roedden ni'n aros. A hynny gan aelodau o un o gangiau stryd y ddinas. Mae'n debyg fod yna gawod o fwledi wedi taro'r car, fel nad oedd gobaith ganddo.

Wnaeth hynny yn ei dro fy atgoffa i, fel chithau mae'n siwr, o ddigwyddiad trasig Birmingham ddechrau'r flwyddyn, gyda'r ddwy ferch ifanc yn cael eu dal yng nghanol brwydr gynau rhwng dau o gangiau'r ddinas.

Ydy, mae diwylliant y gwn yn fyw iawn yn ein byd, gyda'r gwn wedi mynd yn symbol o statws a phwer, hyd yn oed yn atodyn ffasiynol i lawer.

Dwy ffilm a diwylliant y gynau
Yn rhyfedd iawn, rwy wedi gweld dwy ffilm yn ddiweddar ar yr un thema. Cidade de Deus (Dinas Duw) yw un ohonynt. Ffilm o Brasil sydd wedi cael canmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid, ac mae'n ffilm hynod o bwerus, yn enwedig o ystyried nad oes actorion proffesiynol yn cymryd rhan.

Maen portreadu bywyd dros ddau ddegawd yn un o slymiau Rio de Janeiro, Dinas Duw y teitl. Mae'n ffilm gyffrous, doniol, brawychus, sy'n brin iawn o obaith. Yn wir, mae'n dangos yn fyw iawn yr anobaith sy'n gyrru ieuenctid i gyflawni gweithredoedd o drais, gyda thor-cyfraith yn ymddangos fel yr unig ddewis yn anialwch economaidd a moesol bywyd y dref sianti. Y gwn yw'r ffordd mas o dlodi, ond mae diweddglo erchyll y ffilm yn dangos yn glir beth yw pen draw'r ffordd mas honno.

Yr ail ffilm yw Bowling for Columbine gan Michael Moore. Ffilm yw hon am berchnogaeth gynau yn yr Unol Daleithau. Falle bod rhai ohonoch wedi darllen llyfr diweddar Moore, Stupid White Men. Bu ar restr y "bestsellers" ac mae yna ddarnau doniol iawn ynddo.

Ond gwneud ffilmiau yw cryfder Michael Moore, ac yn y ffilm hon y mae ar ei orau. Columbine oedd y dref fach lle'r aeth dau gyn-ddisgybl i fewn i'r ysgol gyda gynau, a dechrau saethu a lladd eu cyd-ddisgyblion ac athrawon, cyn lladd eu hunain. Dyna fan cychwyn "Bowling for Columbine ", digwyddiad sy'n arwain Michael Moore i geisio deall obsesiwn peryglu pobl ei wlad gyda gynau (y mae ef ei hun yn aelod o'r National Rifle Association.) Pam fod hyn wedi arwain at gymaint o drasiedi yn America? O gymharu â gwlad gyfagos, fel Canada, lle mae 10 miliwn o gartrefi yn meddu ar 7 miliwn o ynau, ond braidd dim o'r un lefelau o drais gynau â'r Unol Daleithau.

Mae gan Moore bethau pwysig iw dweud am rôl y cyfryngau; dylanwad yr NRA a gwneuthurwyr gynnau (mae'r cyfweliad olaf yn y ffilm gyda Chardon Heston, un o sêr Hollywood ac un o ladmeryddion mwyaf amlwg y "gun lobby " ar ei ben ei hun yn gwneud y ffilm yn werth ei gweld), effeithiau tlodi ac yn annisgwyl falle, yr alwad ar i bobl y wlad honedig Gristnogol hon i ddechrau byw yn un â'r gwerthoedd Cristnogol.

Os daw cyfle ewch i weld y ddwy ffilm, oherwydd mae'r ddwy yn eu ffyrdd eu hunain yn cynnig sylwebaeth bwysig ar bwnc arwyddocaol o fewn y bywyd cyfoes ac sy'n arwain at ganlyniadau mor erchyll o drist.

Robin Samuel


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý