Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Alun Guy yn llongyfarch Mair Davies Gwobrau Eisteddfod Genedlaethol y Bala
Medi 2009
Hyfryd o beth oedd gweld rhywun o ardal yr Hogwr yn cerdded i lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol i dderbyn cymeradwyaeth y genedl.

Cafodd Mair Davies, Island Farm Road y profiad gwefreiddiol yma wrth iddi ennill Cystadleuaeth Cyfansoddi Emyn Dôn i eiriau Tecwyn Owen. Gwnaed y cyhoeddiad gan Alun Guy yn ystod Cymanfa Ganu yr Eisteddfod, a braf oedd clywed ei bod wedi dod i'r brig gyda pedwar ar ddeg wedi cynnig.

Enw'r dôn yw Cwmeithin ac mae arwyddocad arbennig i'r enw gan ei fod yn gyfuniad o Cwm sef talfyriad o Cwmdwyfran bro magwraeth Mair, a Eithin talfyriad o Cefneithin bro Gwynhaf ei gŵr ac wrth gwrs ardal ei thad yng nghyfraith Jac (Jac a Wil). Roedd tad Mair yn ddiacon yn y capel yn Cwmdwyfran, a Jac yntau yn ddiacon yn y capel yng Nghefneithin. Mae Mair yn mynnu bod ei magwraeth ym mro Cwmdwyfran wedi bod yn ddylanwad mawr arni.

Fel y gwyr llawer o'n darllenwyr mae Mair a Gwynhaf yn aelodau yng nghapel y Tabernacl Pen-y-bont o dan weinidogaeth y Parchg Hywel Wyn Richards a hyfryd oedd clywed fod Tecwyn Owen, awdur y geiriau yn ddiacon yn y capel yn Nolgellau lle bu y Parchg Hywel Wyn Richards yn weinidog.

Llongyfarchiadau gwresog i Mair ac edrychwn ymlaen i glywed y dôn yn cael ei chanu ar draws ein hardal ni ac ar draws Cymru gyfan.

Llongyfarchiadau i Richard Howe o'r Drenewydd Porthcawl enillydd Tlws Rhyddiaith 2009 Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffniau, Adran y Dysgwyr.

Llongyfyrchiadau hefyd i Rhydian, mab Mike a Menna Jenkins, Turberville Street, Garth, Maesteg ar ennill y wobr gyntaf ar yr unawd i fechgyn rhwng 12 ac 16 mlwydd oed. Mae Rhydian newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol Gyfun Gymraeg, Llangynwyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý