Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Gwaith pren nifer o'r aelodau Dathlu'r ugeinfed pen-blwydd: Arddangosfa Celf a Chrefft
Mehefin 2009
Roedd Mai 6ed 1989 yn ddydd o lawen chwedl yn hanes y Tabernacl - dyna ddiwrnod agor yr adeilad newydd hir-ddisgwyliedig.

Eleni, ugain mlynedd yn ddiweddarach, penderfynwyd bod achos dathlu a bod angen nodi'r achlysur mewn ffordd ymarferol. Gan fod y grŵp Pwyth a Phaned yn cwrdd yn gyson bob yn ail wythnos a'r aelodau'n gweithio'n ddiwyd yn gwnio, gweu, gwneud cardiau a gwaith crefft o bob math penderfynwyd mai da o beth fyddai dangos peth o'u cynnyrch gan ehangu'r cyfan i ddangos gwaith creadigol aelodau'r capel yn gyffredinol.

Wedi llawer o drafod, cynllunio gofalus a pharatoi agorwyd yr arddangosfa grefftau brynhawn Gwener Ebrill 24ain a dydd Sadwrn Ebrill 25ain ar ei hyd.

Ac yn wir roedd y gwaith yn werth ei weld - cwiltiau clytwaith, siacedi gwlân, blancedi gwlân Tŷ Hafan, capiau a theganau wedi eu gweu, gwaith crosio, gwaith brodio, lluniau o bob math - dyfrliw, sialc, pensil, gwaith pren - llwyau, hambyrddau, ffyn gerdded, lluniau papur gludog o'r neuadd a'r capel (gwaith plant lleiaf yr ysgol Sul), trefniannau blodau, cardiau ar gyfer pob achlysur - a'r cyfan wedi eu harddangos yn gelfydd ac yn chwaethus.

Yn ychwanegol at hyn roedd fideo o rhai o bererindodau'r capel yn chwarae'n barhaus felly roedd digon ar gael i ddiddori ymwelwyr i'r arddangosfa. Yn ogystal darparwyd paneidiau a bisgedi yn y neuadd ar eu cyfer.

Daeth nifer yn ystod y ddau ddiwrnod a chwyddodd eu cyfraniadau gronfa Apêl De Affrica yr Annibynwyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý