Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Sgwad 'Sgwennu Cymraeg Penybont Sgwad 'Sgwennu Cymraeg Penybont
Tachwedd 2009
Yn ystod y gwyliau haf sefydlwyd Sgwad 'Sgwennu Cymraeg Penybont a dyma adroddiad Anwen Dixon o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Daethon ni at ein gilydd fel grwp sy'n mwynhau ysgrifennu a chael hwyl gyda ffurfiau amrywiol o ysgrifennu. Aelodau'r sgwad ar hyn o bryd yw Teilo Evans, Tean Rudd, Anna Richards, Lowri Foster-Davies a Catrin Haf Jones a fi (Anwen Dixon) o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a leuan Dixon a Lewis Murray o Ysgol y Ferch o'r Sgêr.

Ar ddiwedd y gwyliau haf penderfynon ni gymryd rhan mewn cystadleuaeth oedd yn cael ei gynnal gan Academi i fynd i'r senedd ar gyfer diwrnod arbennig yn y Senedd i ddathlu deng mlynedd. Er mawr syndod i ni i gyd enillodd Sgwad `Sgwennu Penybont!

Taith i'r Senedd

Ar y 29ain o Fedi aeth Sgwad 'Sgwennu Penybont i ddathliad y Senedd Cymru yng Nghaerdydd. Roedd yn ddiwrnod bendigedig! Aethon ni ar fws mini o Sarn gyda Siân Stephens o Fenter Bro Ogwr a Llinos Swain i ddechrau ar antur yn ein gwisgoedd ysgol i gynrychioli ein hysgolion.

Pan gyrhaeddon ni'r Senedd roedd e fel bod mewn maes awyr wrth i ni gerdded drwy'r 'metal detectors' un person drwyddo, dim bip, yr all un, dim bip, fy nhro i i fynd drwyddo bip bip!!!

Ar ôl i bob sgwad a fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth gyrraedd roedd yn amser i ni fynd mewn i'r senedd i glywed am y senedd. Dysgon ni am bwy sydd yn gweithio yn y senedd a beth yw eu swyddi. Yna aethon ni draw i'r hen ystafell cyfarfodydd ac ymarfer bod yn aelodau o'r Cynulliad trwy rhoi ein barn ar fagiau plastig. A ddylen ni rhoi cost ar fagiau plastig neu a ddylen ni newid o fod yn blastig i ddefnydd arall.

Yna daeth uchafbwynt y dydd, cwrdd â'r bardd Ceri Wyn Jones ar gyfer gweithdy ysgrifennu cerddi. Dyna hwyl i chi! Roedd Ceri Wyn mor ddoniol, roedd wedi'n diddannu gyda'i storiau a'i jôcs, roedd yn fraint cael gweithio gyda fe.

Trafodon ni nifer o bethau a buon ni' n creu cerdd. Roedd Ceri Wyn am gasglu ein gwaith ni a gwaith y sgwadiau eraill ynghyd i greu un cerdd. `Rydyn ni'n aros i dderbyn copiau o'r gerdd gorffenedig.

Mae'r sgwad yn cwrdd yn achlysurol ar gyfer cyweithiau amrywiol megis ysgrifennu stori arswyd ar gyfer Calan Gaeaf neu ysgrifennu a recordio sgript. Os oes diddordeb gennych i fod yn aelod o'r sgwad cysylltwch a fi yn Ysgol Gyfun Llangynwyd neu leuan yn Ysgol y Ferch o'r Sger.

Anwen Dixon


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý