Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Mair Lovell Mrs Mair Lovell a gwasanaethau nyrsio Macmillan
Gorffennaf 04
Llongyfarchiadau cynnes iawn iddi.


Fore Sadwrn Mehefin 12fed torrodd y newyddion fod enw Mair Lovell yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines a'i bod i dderbyn yr MBE am ei gwaith dros y blynyddoedd gyda Gwasanaethau Nyrsio Macmillan.

Yn niwedd y saithdegau roedd Mair yn drefnydd ymwelyddion iechyd ym Mhen-y-bont ac yn un o'r rhai a ffurfiodd bwyllgor i ddechrau Gwasanaethau Nyrsio Macmillan yn yr ardal hon. Aed ati i godi arian trwy gynnal boreau coffi a gwerthu baneri ac yn nechrau'r nawdegau dyma fentro ar agor siop elusen.

Ym Mhen-y-bont oedd y siopau cyntaf, yn wir ar un adeg roedd mwy nag unn siop ond erbyn hyn mae dwy siop elusen yn codi arian at Wasanaethau Nyrsio Macmillan yn New Road, Porthcawl. Parheir i gynnal boreau coffi yn ogystal â chodi arian mewn ffyrdd eraill. Un o'r mentrau diweddaraf oedd bod gwirfoddolwyr, a Mair yn eu plith, yn derbyn nawdd i gerdded milltir ar hyd rhodfa'r môr ym Mhorthcawl.

Llwyddwyd, mewn partneriaeth â'r awdurdod iechyd lleol, i gael gwasanaeth dwy nyrs sy'n arbenigo yn y gwaith o ofalu am gleifion sy'n dioddef o gansar ac hefyd agor hen Ysbyty Pen-y-bont ar waelod Court Road yn ganolfan i ddioddefwyr. Y Bwthyn, oedd yr enw a ddewiswyd i'r ganolfan hon ac arian a godwyd gan y pwyllgor lleol a ddefnyddiwyd i osod trefn ar yr hen ysbyty fechan a'i dodrefnu.

Yn y pen draw aeth Y Bwthyn yn rhy fach i'r gofynion a llwyddwyd i sicrhau adeilad newydd ar dir Ysbyty Cymru Pen-y-Bont yn ganolfan i'r dioddefwyr. Y Bwthyn Newydd yw'r enw ar yr adeilad hwn ac, eto mewn partneriaeth â'r awdurdod iechyd lleol, llwyddwyd i'w ddodrefnu a'i redeg. Codwyd oddeutu £100,000 i'r £750,000 a gostiodd Y Bwthyn Newydd gan fudiad Gwasanaethau Nyrsio Macmillan yn lleol. Erbyn hyn mae trydydd nyrs Macmillan ar fin dod i weithio yn yr ardal.

Cyfrifoldeb yr elusen yw talu cyflog y nyrs am dair blynedd, wedi hynny fe'i chyflogir gan yr awdurdod iechyd. Serch y llwyddiant hyn nid oes modd llaesu dwylo gan fod y gwaith yn parhau a galw cyson am gymorth fwy fyth gan wirfoddolwyr. Bu Mair yn gadeirydd y pwyllgor lleol am flynyddoedd cyn cael ei dyrchafu'n Llywydd beth amser yn ôl ond mae'n dal i weithio yn y siopau a chodi arian ar bob cyfle i Wasanaeth Nyrsio Macmillan.

Cydnabyddiaeth yw'r MBE o'i gwaith cyson a diflino dros gyfnod maith. Llongyfarchiadau cynnes iawn eto Mair.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý