Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Tatws Tips tyfu tato
Ebrill 2007
Cyngor ar sut i dyfu tatws newydd a ffa yn yr ardd, gan y gŵr sy'n garddio ...

Tato newydd, ffa, bacwn ac ŵy wedi'i ffrio! Ie, dyna fy hoff bryd bwyd!! Does dim byd gwell na mynd allan i'r ardd ar noswaith fwyn ym Mehefin a thynnu gwrisgen o dato newydd. Yna, mynd i'r tŷ i'w crafu, eu berwi a'u bwyta gyda thamaid bach o fenyn Cymru. Dyma'r tato oedd yn tyfu'n braf yn eich gardd ond rhyw hanner awr yng nghynt a does dim byd tebyg i'r blas - mae e'n odidog ac yn annisgrifiadwy! Dyma ychydig o gyngor ar sut i fynd ati.

Tato cynnar
Dewiswch dato cynnar fel Arran Pilot neu Pentland Javelin a'u gosod mewn bocs bas, gyda'r llygaid yn pwyntio fyny, ar silff ffenest am rhai wythnosau. Cyn bo hir byddant yn dechrau egino a dyna'r amser i'w plannu.

Gan ddefnyddio eich cortyn a'r ddau beg, agorwch rych sydd tua 9 modfedd o ddyfnder. Rhowch dipyn o gompost neu dail ffarm yn y rhych gydag ychydig o flawd esgyrn [bonemeal]. [Gallwch hefyd ddefnyddio Mblood fish and bone sydd i'w gael mewn unrhyw ganolfan arddio] Cofiwch nodi ble mae pen pob rhych gyda darn o bren er mwyn eich atgoffa wedi i chi ei chau.

Gofalwch adael tua dwy droedfedd rhwng pob rhych. Plannwch y tato yn y rhych gan adael 8modfedd rhyngddynt- rydych am gael cnwd mor dda â phosib o'r ardd. Yna, defnyddiwch raca [cribyn] i daenu'r pridd yn ofalus dros y tato. Os nad oes gennych cloches i'w gorchuddio peidiwch â mentro dechrau plannu tan Ebrill rhag ofn i'r rhew ddinistrio'r cyfan a thorri eich calon. Pan fydd y tato yn dechrau pipo rhaid priddo. Defnyddiwch bal er mwyn taenu ychydig o bridd drostynt - mae priddo tato yn bwysig. Dylent fod yn barod i'w tynnu mewn rhyw 9 i 10 wythnos.

Ffa (Broad Beans)
Byddaf yn dechrau tyfu'r ffa mewn potiau plastig [un i bob pot] yn y tÅ· gwydr sydd gennyf. Defnyddiaf Exhibition Longpod sy'n tyfu yn dair troedfedd o daldra ac yn rhoi cnwd da. Gallwch dyfu rhai byrrach fel y Sutton sydd yn tyfu ond rhyw droedfedd o uchder. Agorwch y rhych tua diwedd Mis Mawrth/dechrau Ebrill ac ychwanegu compost fel y disgrifiwyd i'r tato.

Wedi cau'r rhych plannwch y ffa bychain allan o'r potiau -modfedd o ddyfnder a 6 modfedd rhyngddynt. Gallwch blannu yr hadau yn syth i'r pridd os mynnwch. Gallwch dyfu sawl rhes ym mhob rhych a phan fyddant rhyw droedfedd o uchder rhowch ddau bostyn - un pob pen¬ a chlymu cortyn o'u hamgylch. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y ffa yn cael eu torri gan y gwynt. Pan fyddant yn eu blodau torrwch eu blaenion er mwyn eu harbed rhag y black fly.

Mwynhewch eich pryd bwyd. Yn rhifyn y mis nesaf o Yr Hogwr cewch wybod sut i dyfu cidnabens [ffa dringo].

Y gŵr sy'n garddio


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý