Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Parchedig Hywel Wyn Richards Sefydlu'r Parchedig Hywel Wyn Richards
Mehefin 2004
Croesawyd tyrfa fawr i'r Tabernacl, Pen-y-bont, ddydd Sadwrn Mai'r 8fed ar gyfer Oedfa Sefydlu'r Parchg. Hywel Wyn Richards yn weinidog arnom.

Ym mhlith y dyrfa roedd tua phedwar ugain o gyfeillion o Ddolgellau lle bu'r Parchg. Hywel Richards yn weinidog am dros chwarter canrif ac hefyd llond bws o gyfeillion o ardal Llandysul, bro genedigol Mrs Richards. Braf oedd gweld y capel yn llawn.

Y Parchg. J Ronald Williams a fu'n weinidog ar y Tabernacl o 1976 hyd 1979 a agorodd yr oedfa gyda'r alwad i weddi. Darllenwyd rhannau pwrpasol o'r Ysgrythur gan y Parchg. Ifan Wynn Evans a fu'n weinidog arnom yn y Tabernacl o 1981 hyd 1989 a'r Parchg. Andrew Lenny a fu'n aelod selog ac yn ddiacon yn y Tabernacl cyn cael ei alw i'r weinidogaeth llawn amser yn 1987. Y Parchg. W.J. Edwards, Un o gyfeillion coleg y Parchg. Hywel Richards a offrymodd y weddi.

Rhoddwyd hanes yr alwad gan Mrs Gwerfyl Thomas, ysgrifennydd y Tabernacl, sefydlwyd y gweinidog newydd gan y Parchg. Robin Samuel, cyn-weinidog y capel ac offrymwyd gweddi'r sefydlu gan y Parchg. Gareth Morgan Jones, un arall o gyfeillion coleg y Parchg. Hywel Richards.

Cyflwynwyd y gweinidog i'w ofalaeth newydd gan Mr John Roberts ar ran Gofalaeth Dolgellau a gan y Parchg. A Wayne Hughes ar ran Cyfundeb Meirion.

Estynnwyd croeso iddo gan Mr D Hugh Thomas ar ran y Tabernacl, gan y Parchg. Ddr Alun Tudur ar ran Cyfundeb Morgannwg a gan y Parchg. Euros Miles ar ran eglwysi cylch Pen-y-bont.

Pregethwyd gan y Parchg. Ddr Noel A Davies, gŵr â chysylltiad agos â'r Tabernacl gan iddo bregethu ei bregeth gyntaf un yno pan yn llanc ifanc.

Yr organydd yn ystod yr oedfa oedd Mr Alwyn Samuel a llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchg. Robin Samuel, cyn-weinidog y Tabernacl.

Wedi'r oedfa darparwyd te ar gyfer y llu ymwelwyr a chyfeillion yn y Neuadd ac arbennig o braf oedd gweld pawb yn mwynhau'r bwyd a'r gwmnïaeth. Bu sawl cynnig gan eu gyn-aelodau i'r gweinidog a'i briod ddychwelyd ar y bws i Ddolgellau ond braf yw dweud na fanteisiwyd ar y cynigion hynny. Ein gobaith yw y byddant yn ymgartrefu' n hapus yn ein plith ym Mhen-y-bont ac edrychwn ymlaen at gyfnod llewyrchus a bendithiol yn y Tabernacl dan weinidogaeth y Parchg. Hywel Wyn Richards.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý