Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Mwyar duon Nodiadau Natur - o'r haf i'r hydref
Hydref 2005
Er bod yr haf yn troi'n Hydref yn swyddogol ar y 22 Medi gyda dyfodiad y gyhydnos, dydy'r newidiadau ym myd natur wrth gwrs byth mor sydyn â hyn.
Fe fydd gan ddarllenwyr syniadau eu hunain ynghylch pryd yn union y daw'r haf i ben; ond i mi nid yw dyddiau hir yr haf byth yr un fath heb y gwenoliaid duon a'u sgrechiadau gwefreiddiol uwchben toeau llechi ein trefi. Mae'r aderyn yma yn gadael am haul Affrica ym mis Awst.

Eisoes, mae gwyntoedd wedi chwythu dwsinau o afalau oddi ar y coed yn fy ngardd, ac maent bellach yn fwyd i'r mwyeilch; bydd rhai o'r adar hyn yn magu ail neu drydedd nythaid cyn hwyred a hyn yn y tymor. Bydd yr adar yma sydd heb ymfudo yn dechrau bwrw'u plu er mwyn paratoi ar gyfer misoedd hir y gaeaf; ond am y tro, beth bynnag, dydy pwysau'r byd o'u cwmpas ddim yn ddwys ac mae bywyd yn hawdd yn sgil cynhaeaf natur.

Daw ffrwythlondeb y tymor hwn â thoreth o fwyd. Mae aeron llwyni mwyar duon, ysgaw, criafol a chelyn yn aeddfedu yn y gwrychoedd, gan ddenu adar a mamaliaid bach i wledda arnynt. Mae gallu rhyfeddol y broses esblygu ym myd natur wedi gwneud i'r ffrwythau ymddangos mor flasus gan fod angen gwasgaru'r hadau yma a thraw, ac fe ddywed arbenigwyr hefyd bod hadau planhigion, fel mwyar duon, yn hadu'n well ar ôl pasio trwy system dreuliol anifeiliaid.

Gwelir bod planhigion eraill, fel y bedw arian sy'n amgylchynu fy ngardd wedi datblygu ffyrdd gwahanol o wasgaru eu hadau yn ddigon pell oddi wrth y rhiant. Tua diwedd yr haf. mae'r coed gosgeiddig yma'n cynhyrchu miliynau o hadau bach adeiniog, a chaiff y rhain eu chwythu i bobman gan y gwynt, gan ymgasglu'n lluwch dan ddrws y garej.

Mae gan goed masarn hadau adeiniog hefyd, ond mae'r rhain yn llawer mwy ac maent yn chwyrlio'n gyflym fel hofrenyddion gan hedfan ymhell oddi wrth y rhiant. Sylwais fod rhai coed masarn ifainc yn gwywo yn hwyr yn y tymor eleni ac meddai coedwigwr wrthyf mai gwiwerod sy'n gyfrifol, wrth iddyn nhw chwilio am y sudd melys a geir yn y rhisgl: effaith o'r haf sych efallai?

Mae newid y tymhorau'n amlwg ym mhobman o'n cwmpas ac mae i'w weld ar ei orau yn ein coetiroedd brodorol. Yn araf deg bydd myrdd o liwiau porffor, coch a melyn yn disodli lliwiau gwyrddail yr haf, a chyn bo hir fe fydd y dail yma'n fwyd i bryfed genwair a ffyngoedd y pridd, dan barhau cylchder ddiddiwedd ein cymunedau naturiol.

Nodiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý