Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Y Parchedig Rosan Saunders gyda Mr a Mrs Cecil Williams. Pererindod i Bantycelyn
Gorffennaf 2005
Bydd Dydd Sul y 12fed o Fehefin yn aros ar gof nifer fawr o aelodau a ffrindiau'r capel.
Bydd Dydd Sul y 12fed o Fehefin yn aros ar gof nifer fawr o aelodau a ffrindiau'r capel.

Dyna'r diwrnod i ni fynd ar ein pererindod. Wedi taith hwylus ar y bws a chinio hyfryd yng ngwesty'r Castell yn Llanymddyfri, ymlaen i dy Pantycelyn lle cawsom groeso arbennig gan Mr a Mrs Cecil Williams.

Ar ôl canu emyn o eiddo William Williams ar y clôs, ymlaen i gapel Pentre Ty Gwyn a chael oedfa hynod o afaelgar gan ein gweinidog pan roddodd i ni bregeth ar emyn Williams sydd a'r geiriau

"Gwaed dy groes sy'n codi i fyny
'r eiddil yn goncwerwr mawr:
Gwaed dy groes sydd yn darostwng
cewri cedyrn fyrdd i lawr :"

Oddi yno i Eglwys Llanfair ar y Bryn a chael braslun o hanes yr Eglwys cyn ymweld â bedd a chofgolofn yr emynydd, ac ymlaen i'r Capel Coffa i gael hanes y lle hwnnw.

Mwynhau cwpaned wedyn yn y gwesty cyn gadael am adre. Diwrnod a roddodd i nifer fawr ohonom y cyfle i ddod i wybod rhagor am yr emynydd, am ardal bro ei febyd, a throedio llwybrau y bu ef yn troedio arnynt.

Diolch o galon i bawb a fu wrthi yn trefnu a chyfrannu i lwyddiant y fenter newydd yma.

Tra bu'r oedolion ar bererindod, aeth aelodau yr Ysgol Sul ar daith gan ymgynnull ym Mhwll Nofio y Pîl ac yna i'r Le Raj am ginio. Braf fyddai medru mynd ar bererindod gyda'n gilydd. A oes gennych syniadau?
R Price


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý