Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Ifan yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd
Gorffennaf 2008
Llongyfarchiadau i blant y fro ar eu llwyddiant yng nghystadleuthau Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy.

Ar ddydd lau'r Eisteddfod fe gipiodd Ifan Jenkin y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd biano BI 7 i 9 ac yntau ond yn 12 oed. Ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon fe'i wobrwywyd hefyd a Thlws Siop Eifionydd am fod y pianydd mwyaf addawol yn yr Eisteddfod o dan 19 oed.

Mae Ifan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanhari yn chwarae'r piano ers yn 5 oed. Dewisodd Ifan gyfres o 3 darn gan Shostakovich - 'Three Fantastic Dances" fel ei ddarnau prawf ac yn ôl Teleri-Sian, y beirniad, roedd ei ddatganiad ohonynt "yn gwbl naturiol a cherddorol".

Cyfansoddwyd y darnau yn y 1920au pan oedd Shostakovich yn ei arddegau. Dehongliad cynnar ydynt o wahanol fathau o ddawnsfeydd traddodiadol o safbwynt cyfoes. Mae'r rhythmau bywiog a'r harmonïau anghyffredin yn nodweddiadol o gymeriad sawl cyfansoddiad hwyrach ganddo. Maent yn ddarnau anodd sy'n gofyn am dechneg cadarn a chanolbwyntio manwl ond mae Ifan yn hoffi sialens ac felly aeth ati i'w dysgu ar gof ar gyfer y gystadleuaeth.

Meddai Ifan: "O'n i ychydig yn nerfus yn cerdded at y piano ar y llwyfan ond yn edrych ymlaen at berfformio. Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill - roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn." Yn hwyrach yn y dydd fe gynhaliwyd dosbarth feistr piano i'r holl gystadleuwyr lle cafodd Ifan gyfle i berfformio i'r pianydd proffesiynol Iwan Llewelyn-Jones.

Llongyfarchiadau hefyd i Ifan Griffiths, Rhiwceiliog ar ennill y wobr gyntaf am gyfres o luniau du a gwyn i BI 5 a 6 ar y teitl "Cysylltiad". Penderfynodd Ifan dynnu pedwar llun yn dangos pedwar cam yn y broses o dyfu ei gennin. Mae Ifan yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Dolau ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn tynnu lluniau. Dymuniadau gorau iddo i'r dyfodol.

Tara Bethan

Ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod enillodd Gwennan, chwaer Ifan yr ail wobr yng nghystadleuaeth dawnsio disgo Blwyddyn 6 ac iau. Mae Gwennan, sy'n 10 oed ac yn mynd i Ysgol Bro Ogwr, wrth ei bodd yn dawnsio ac yn mynychu Ysgol Ddawns Sarah Burnell ym Mhencoed ers yn 6 oed.

Un o arwresau Gwennan yw'r berfformwraig Tara Bethan a welwyd yn ddiweddar ar y rhaglen deledu 'I'd Do Anything' ac felly nid oedd hi'n fawr o syndod taw i un o ganeuon y band pop Cymraeg 'Cic' - y bu Tara yn aelod ohono - y dewisodd Gwennan i ddawnsio iddi. Yn ôl y beirniaid roedd ei pherfformiad yn un "egniol iawn" ac yn llawn o "symudiadau amrywiol a defnydd da o bob lefel".

Dywedwyd hefyd ei bod yn gwisgo "gwisg addas iawn i'r gystadleuaeth hon" - gwisg melyn a phorffor disglair gyda rhuban porffor yn ei gwallt. Meddai Gwennan ar ôI dod o'r llwyfan ac ar ôl cael ei gwynt ati: "Wnes i wir fwynhau fy hunan. Roedd y llwyfan yn enfawr ac yn wych ar gyfer dawnsio."

Ysgol Cynwyd Sant

Cafwyd amser llwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Teithiodd nifer o blant, staff a rhieni yr ysgol i sir Conwy i gystadlu mewn 14 eitem ar y dydd Llun a dydd Mawrth. Ar y nos Lun bu'r ysgol yn rhan o gyngerdd y caneuon actol i ysgolion cynradd. Cynwyd Sant oedd y cyntaf i ymddangos ar y llwyfan (nid peth hawdd oedd dechrau'r noson!). Serch hynny gwnaeth y plant yn arbennig o dda a mwynhaodd pob un y profiad o gael ymddangos ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd!

Llongyfarchiadau i grŵp o blant o flwyddyn 6, sydd wedi derbyn y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Cyfansoddi Cerddoriaeth yr Urdd Llongyfarchiadau hefyd i Rhian Taylor, Ffion Peregrine-Davies a Sadie Nash ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth 'Creu DVD' yr Urdd. Cafodd y dair y cyfle i wylio'r DVD yn y babell Celf a Chrefft ar y maes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý