Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Drama'r geni Gwir Ystyr y Nadolig
Darllenais yn ddiweddar fod calon y ffydd Gristnogol i'w ddarganfod nid yn y gwyrthiau na'r seremonïau, nid mewn Eglwysi Cadeiriol nac mewn moesoldeb, ond yn hytrach yn y stori syml a phlaen y fam, y baban ar preseb.
Am ei bod yn stori sy'n rhoi sylw i elfennau tyner y byd, yn araf a thawel yn gweithio mewn cariad. A dyna pam y mae'n werth ail-ymweld â stori'r Nadolig o flwyddyn i flwyddyn.

O wneud hynny, un o'r pethau a welwn yw fod y stori yn digwydd ar ymylon cymdeithas. Teulu bach yn cael eu cau mas a heb le cysurus i orffwys. Ac yn hynny o beth mae stori'r Nadolig yn stori gyfarwydd i lawer o bobl heddiw sydd ar ymylon cymdeithas - stori o eithrio. Diffyg lle, diffyg derbyniad, diffyg diddordeb, diffyg croeso.

Yn ddiddorol, er nad yw Ioan, yn cyfeirio at stori'r Nadolig yn y prolog i'w efengyl, yr un yw ei neges ef, "Daeth i'w gartref ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono."

Pam fod Duw yn galw heibio, mae'r drws ar glo a neb yn ateb. Y mae gan y ddynoliaeth brysur bethau gwell i'w gwneud na sylwi ar ddigwyddiadau dibwys ar ymylon cymdeithas. .

Ond y mae'r efengyl yn mynd yn ei flaen i ddweud mai dyma'r esgeulustod mwyaf oll, oherwydd wrth fethu estyn trugaredd i'r blinedig a'r digartref, yr ydym hefyd yn eithrio yr Un sy'n cynnig i ni fywyd yn ei holl gyflawnder.

"Yn gymaint ag ichwi ei beidio a'i wneud i un or rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith."

Trwy stori syml y geni fe ddysgwn un o wirioneddau dyfnaf Cristnogaeth: fod Duw yn Dduw yr ymylon, wastad yn ceisio cael ei adnabod. Onid dyna'r gred a ysbrydolodd rhywun fel Y Fam Teresa?

Yng ngwynebau y trueiniaid, fe welai hi apêl ddyfnach Iesu am gysur a derbyniad, ac fe wnaeth yr hyn a allai hi i roi lloches iddo ef yn ogystal â'r dioddefwyr corfforol oedd o'i chwmpas.

Lloches a chroeso, dyma'r arwyddion syml o ddynoliaeth erioed. Ond onid yw'r parodrwydd i'w cynnig wedi mynd ar goll yn y Gymdeithas Orllewinol Gyfoes? Gwneud lle i bobl eraill yn ein bywydau. Cymaint ohonom sy'n pledio prysurdeb a blinder fel esgus dros beidio gwneud.

Mae'r dasg ddiddiwedd o ennill arian i gynnal ein hunain yn cymryd blaenoriaeth, ac mae'r ymdrech i gwrdd a'n "anghenion" cynyddol yn ein llethu, fel ein bod ni'n cael ein rhwystro rhag agor ein bywydau i bobl eraill.


Person digartref ar y stryd
Person digartref ar y stryd
Ydy, y mae cael eu heithrio yn brofiad byw i lawer un heddiw ffoaduriaid, ymfudwyr, pobl ac afiechydon meddyliol, rhai sy'n gaeth i gyffuriau neu alcohol, y digartref, y troseddwyr, dioddefwyr o AIDS. Pobl sy'n dal ar yr ymylon, heb fawr neb yn eu gweld nhw. Neu falle'n agosach at y gwir, neb lawer yn dymuno eu gweld nhw.

Ond mae'n mynd yn ddyfnach na hynny, oherwydd gyda'r parchuso cynyddol ar hunanoldeb, gan ei droi yn rhyw fath o rinwedd, y mae'n mynd yn anoddach rhoi lle hyd yn oed i rai roeddem yn arfer eu cofleidio, fel rhieni, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion.

Ac os mai dyna'r gwir, pa obaith gwneud lle i ddieithriad? Y mae'r byd newydd caled yn galw am roi'r hunain gyntaf, a gadael i bawb arall edrych mas am eu hunain.

Ond mae'r neges yn dal yn wir, wrth eithrio eraill o'n bywydau, yr ydym yn eithrio Duw. Ac o wneud hynny yr ydym yn lleihau y posibilrwydd o wir dyfiant, yn colli mas ar gyfoeth a gras a'r cyfle o brofi'r ymweliad dwyfol.

A'r eironi mwyaf yw, yn ein hawydd i gyfyngu ar ein hymrwymiad a'n cyfrifoldeb, yr ydym yn torri ein hunain i ffwrdd o'r gallu i ehangu bywyd a'i fwynhau mewn ffyrdd dyfnach a chyfoethocach.

Un o gredoau sylfaenol Cymorth Cristnogol yw fod creu cymdeithas a byd teg yn gorfod golygu newid yn y strwythurau sy'n cynnal ac yn hybu annhegwch ac anghyfiawnder, ond ar yr un pryd sylweddolwn mai ofer pob newid gwleidyddol, oni bai ei fod yn cael ei gefnogi gan galonnau agored, syn barod i wneud lle i eraill.

Byddwn yn siŵr yn canu unwaith eto, eleni, Dim lle yn y llety i Geidwad y byd.

Wrth wneud hynny, beth am aros am funud a gofyn, Faint o le sydd yn ein bywydau ni heddiw i eraill?

Oherwydd yn y lle y byddwn yn barod i roi i eraill, fe fydd lle iddo Ef hefyd. Ac wrth agor y drws fe ddaw cymaint o fendithion eraill i mewn i gyfoethogi ein bywydau.

Robin Samuel

O bapur bro Yr Hogwr, Rhagfyr 2002.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý