Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Tair o'r criw wrth gofeb Gwenllian Pererindod i Sempringham
Chwefror 2006
Hanes taith i Sempringham, Swydd Lincoln i weld cofeb y Dywysoges Gwenllian.
Cymerodd Llywleyn ap Gruffydd y teitl 'Tywysog Cymru' yn 1258. Digon tymhestlog fu ei hanes ac yn 1278 priododd Eleanor de Monfort, nith Harri III, yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Ganwyd merch fach, Gwenllian, iddynt ym Mehefin 1282 a bu Eleanor farw ar enedigaeth y plentyn bach. Cafodd Llywelyn ei hun ei ladd yng Nghilmeri yn Rhagfyr 1282. Wedi marwolaeth ei thad danfonwyd Gwenllian yn ddau fis ar bymtheg oed, i briordy yn Sempringham. Treuliodd ei hoes yn lleian yno a bu farw yn 56 mlwydd oed. Y Brenin Edward I oedd yn gyfrifol am ei charcharu yno i sicrhau diddymu llinach Tywysogion Cymru.

Cafodd rhai ohonom gyfle i ymuno â gwibdaith o ardal San Clêr i Sempringham, ddiwedd mis Hydref 2005. Ar fore braf ymunom â'r bws ar yr M4 yng Ngorllewin Caerdydd. Bu egwyl fyr i gael cinio yn Rhydychen a mwynhau ychydig o awyrgylch y dref. Yna cyrraedd gwesty Peterborough a threulio dwy noson yno.

Bore trannoeth gadawsom y gwesty yn fore ac ar ôl taith o awr, cyrraedd Sempringham ym mherfeddion Swydd Lincoln.

Ym 1996 sefydlwyd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllain ac yn 2001 codwyd cofeb o Wenithfaen Gwynedd ger hen Abaty Sempringham. Cawsom goreso mawr gan aelodau'r eglwys a chynhaliwyd gwasanaeth wrth y gofeb ac yn yr eglwys.

Roedd pryd o fwyd wedi ei drefnu ar ein cyfer mewn tafarn ym mhentref cyfagos Pointon. Yn y prynhawn cawsom gyfle i ymweld ag Eglwys Gadeiriol hardd Peterborough.

Drannoeth ar ôl taith gofiadwy, dychwelasom adref.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý