Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Llyfrau Siampên a Llên yn un Llu
Rhagfyr 2003
Pe cynhelid y wobr hon yn y 1930au, yna, yn ddi-os, byddai Brenhines ein Llên, Kate Roberts, wedi tra-arglwyddiaethu.

Taliesin fyddai wedi camu i'r llwyfan yn y flwyddyn 586 OC gyda'i gyfrol waedlyd Y Gododdin, ac mi fyddai Daniel Owen yn hen law ar ei areithiau diolch ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Buasai dagrau o lawenydd wedi syrthio yn Sir Benfro o glywed taw Dail Pren gan Waldo Williams ddaeth i'r brig yn 1956, a blwyddyn yn ddiweddarach buasai Wythnos yng Nghymru Fydd wedi dod ag addurn bach i lenwi silff ben tân Islwyn Ffowc Elis.

Ond dyna'r Gymru a fu. Yn 2004, rhai o'r enwau mawr fydd yn cystadlu am wobr Llyfr y Flwyddyn fydd Iwan Llwyd, Eigra Lewis Roberts, Archesgob Caergaint, Bethan Gwanas, Myrddin ap Dafydd, Cefin Roberts, Jason Walford Davies, Dafydd Evans, Angharad Tomos, Bobi Jones a Caryl Lewis.

Gall y gyfrol fuddugol fod yn gofiant, bardd, prifardd, beirniad neu'n gyn-ganwr pop. Gall y gyfrol fuddugol fod yn gofiant, yn gasgliad, yn feirniadaeth arloesol neu'n nofel nwydus am wrachod. Y cyfan sy'n sicr yw y caiff y cyfrolau buddugol - un yn Gymraeg ac un yn Saesneg - eu darllen a'u mwynhau cymaint gan ddarllenwyr y dyfodol a gweddill clasuron ein llên.

Amserlen Digwyddiadau

4 Mawrth 2004
Diwrnod y Llyfr: Cyhoeddi'r rhestr-hir (20 o deitlau - 10 yr un yn y ddwy iaith) yn y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y bwcis Jack Brown yn cymryd bets ar y rhai fydd yn y ras.

Mawrth - Mai 2004
Taith genedlaethol gyda'r awduron; rhestr-hir - darlleniadau, arddangosfeydd, ymweliadau ysgolion, trafodaeth a chyfle i fynegi barn ar y teitlau.

Diwedd Mai 2004:
Cyhoeddi'r rhestr-fer (3 yn y ddwy laith) mewn digwyddiad arbennig yng Ngwyl y Gelli Gandryll.

17 Mehefin 2004
Gwledd wobrwyo fawreddog i gyhoeddi'r enillwyr yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd. Amlenni euraidd, sieciau mawrion a digon o siampên.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý