主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Superman Returns (2006)
Unig fab yn waredwr y byd

12A

Pedair seren allan o bump

Y s锚r
Brandon Routh, Kate Bosworth, Kevin Spacey

Cyfarwyddo
Bryan Singer

Sgrifennu
Michael Dougherty, Dan Harris

Hyd
157 munud

Sut ffilm
Superman ydi Superman ydi Superman - ond mae gwedd dywyllach fwy myfiol nag arfer i'r ffilm hon.

Mwy o ddifrifoldeb, llai o hwyl.
Mwy o ddwys fyfyrio a llai o chwerthin rhwng yr effeithiau trawiadol wrth i'r Dyn o Ddur gydio mewn awyren sydd ar d芒n yn yr entrychion a'i gosod yn daclus mewn stadiwm p锚l f芒s neu godi darn o gyfandir uwch ei ben a'i hyrddio i bellafoedd y gofod.

Ond er gwaethaf pob gwrhydri cafodd un adolygydd ffilmiau ei berswadio i fedyddio'r Superman diweddaraf fel, Sufficientman.

Ac, yn wir, fe wnaiff o a'r ffilm yn iawn am y tro.

Mae hwn hefyd yn Superman gydag islais crefyddol iawn gyda phlethiad o gerddoriaeth nefolaidd a bostfawr bob yn ail!

Y stori
Wedi pum mlynedd yn chwilio'r gofod am weddillion ei hen blaned, Krypton, dychwel Superman (Brandon Routh) i Metropolis i ganfod fod sawl peth wedi newid.

Mae Lois Lane (Kate Bosworth), y newyddiadurwraig y mae persona dynol Superman, Clark Kent, yn gweithio 芒 hi, nid yn unig yn byw 芒 Richard white (James Marsden) nai golygydd y Daily Planet, Oerry White (Frank Langella) ond hefyd yn fam i fachgen pedair oed.

Ond erys rhai pethau yr un fath byth ac yn dragywydd - fel ei hen elyn Lex Luthor (Kevin Spacey) sy'n parhau yn ddrwg yng nghaws Metropolis.

Ei gynllun dieflig y tro hwn yw creu cyfandir newydd ar arfordir yr Unol Daleithiau o ble bydd ef yn rheoli'r byd ac gwneud ei ffortiwn wedi i'r America y gwyddom ni amdani ddiflannu dan y dyfroedd a achosir gan y diriogaeth newydd.

A chyda gwythiennau o Kryptonite yn rhedeg drwy ddaeareg y cyfandir newydd caiff wared 芒'i hen elyn y dyn anorchfygol mewn dillad glas a mantell goch hefyd - wel mantell fymryn yn llai coch nag yn y gorffennol erbyn hyn.

Ond mae ei drons yn dal dros ei drowsus.

Yr her i Superman yw adfer ei berthynas 芒 Lois, achub Metropolis ac America rhag Lex Luthor a gwneud y byd yn lle diogelach i fyw ynddo

Na dydi pethau ddim yn newid mewn gwirionedd. .

Yr unig ddrwg yw, fod gan Luthor y Kryptonite difaol yn ei feddiant - yr unig wendid yn arfogaeth y Dyn o Ddur.

Yn hynny o beth, hefyd, dydi rhai pethau ddim yn newid!

Y canlyniad
Cadwyn o olygfeydd cyffrous lle mae'r gwaredwr anorchfygol yn gwneud Metropolis a'r byd yn lleoedd saffach i fyw ynddynt.

Mae diddordeb hefyd yn y stori garu rhwng Lois a Superman ac yn nheimladau Clark Kent tuag at Lois.
A beth am blentyn Lois a Richard?
Yr epil salw sy'n dioddef o asthma ac fel pe byddai ofn ei gysgod.
Ai Richard yw ei dad?
Be? 'Da chi rioed wedi gweld ffilm o'r blaen? Acwedi anghofio y am noson a dreuliodd Lois ym mreichiau'r Dyn o Ddur dim ond i'r cyfan wedyn gael ei olchi o'i meddwl gan fab enwocaf Krypton.
Y d锚t r锚p eithaf fel petai!

Rhwng hyn a'r alegor茂au Cristnogol mae digon i fynd a meddwl rhywun yn Superman Returns.

Ond a ydym angen dwyawr a hanner i'w treulio sy'n gwestiwn arall.
Go brin.

Ambell i farn
Mae cryn amrywiaeth barn - o 'super stupid' i gwych.

  • Cyfeirwyd yn barod at adolygydd y New Staesman yn disgrifio'r Superman newydd fel Sufficientman ond dydi honno ddim yn farn sy'n gyffredin i bawb.
  • Yn 么l gwefan saesneg y 主播大秀 mae Superman Returns yn well nag oedd neb wedi meiddio gobeithio gyda'r cyfarwyddwr, Bryan Singer (X-Men) , yn cael ei ganmol am drin yr arwr gyda pharch a hynny'n ei alluogi i atgyfodi'r hanes "gyda steil, didwylledd a hiwmor".
  • Ffilm Gristnogol yn ei hanfod meddai'r Observer ac alegori o fywyd Crist ond mae'r adolygydd, Philip French, yn gweld eisiau y ffraethineb a'r gyriant stor茂ol a roddodd Christopher Nolan i Batman Begins yn ddiweddar.
  • "Epig. Epig iawn, iawn," meddai'r Telegraph
  • Ond tra dywed yr Independent on Sunday ei fod "yn un o'r ffilmiau arch-arwr mwyaf boddhaol a wnaed erioed" cwyna'r Independent dyddiol nad yw'n peri unrhyw ryfeddod ('wonder') - "hyd yn oed yn yr oes anarwrol hon".
  • Disgrifia adolygydd y Spectator ei hun yn gwylio'n geg agored gydag edmygedd o'r golygfeydd cyffrous - "open-mouthed, slack-jawed andotherwise agape" gan ychanegu na fu amser gwell i wneud y math yma o ffilm oherwydd yr holl dechnoleg ffilm sydd ar gael ac na fu neb gwell na Bryan singer i gyfarwyddo.
  • Tybed nad y Guardian sy'n taro decaf yr hoelan ar ei phen trwy ddweud i'r ffilm ennill y frwydr - ond dim ond o drwch blewyn. "The battle is won: but only just."

    Perfformiadau
  • Disgwylir dau beth gan y sawl sy'n chwarae Superman.
    Yr arwriaeth Roegaidd honno sy'n gwneud ichi gredu y gall achub bydoedd rhag dinistr ar 么l dinistr bydded y rheini yn rhai naturiol neu o law dyn.
    A phob yn ail a hynny rhaid wrth ddiniweidrwydd ymddangosiadol loiaidd Clark Kent, gohebydd trwsgwl y Daily Planet sy'n cuddio'r gyfrinach fawr rhag Lois a'r byd y tu 么l i sbectol.

    Ac yn hynny o beth mae Brandon Routh yn llwyddo'n rhyfeddol.

    Yr un mor rhyfeddol yw ei debygrwydd i'r diweddar Christopher Reeve y mae'n ei olynu yn y rhan ac fel Reeve, pan welwyd yntau gyntaf yn y rhan, mae Routh hefyd yn anadnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom. Ond os bydd dilyniant i'r ffilm hon does dim rheswm o gwbl dros beidio 芒'i alw yn 么l.

    Yn wir, mae Routh yn llawer iawn gwell Superman/Kent nag yw Kate Bosworth o Lois Lane ac mae rhywbeth mawr yn eisiau yn y berthynas actio rhwng y ddau.

  • Yr oedd yr her a wynebai Kevion Spacey cyn gymaint bob tamaid 芒'r un a wynebai Routh. Nid ar chwarae bach y dilynid Gene Hackman fel Lex Luthor ac oherwydd diffygion yn y sgrifennu dim ond yn rhannol y llwydda Spacey er cystled actor yw e.

    Dim ond mewn rhai golygfeydd y mae'n rhagori - fel yr un a ddefnyddir yn y trelar sy'n hyrwyddo'r ffilm.

    Dywedodd ef mai ei fwriad oedd chwarae ei Luthor ei hun yn hytrach nag efelychu Hackman ond mae cysgod hwnnw mor drwm dros y cymeriad pwy all ei anghofio?

  • Heb os yr hoff 'ran fach' ym mhob un o'r ddilmiau Superman yw un cwbl ystrydebol Perry White, golygydd y Daily Planet ac mae Frank Langella yn fendigedig.
    vTri pheth, meddai, sy'n gwerthu papurau newydd; "Trychineb, Rhyw a Superman" a'r mwyaf o'r rhai hyn i Perry ar y funud ydi . . .

    Darnau gorau
  • Y dychweliad i'r ddaear trwy lygaid Superman o bellafoedd eithaf y gofod yn yr olygfa agoriadol. Mae'n wych - trueni am yr enwau sy'n tarfu ar y golygfeydd!
  • Cerddoriaeth Lex Luthor a Lex ar y piano.
  • Y graig yn codi drwy'r llong wrth i'r cyfandir newydd gael ei greu.
  • Y colofnau t芒n..

    Rhai geiriau
  • "Mae'r mab yn dod yn dada'r tad yn dod yn fab. . ." Y?
  • "Gobeithio nad yw hyn wedi eich troi yn erbyn hedfan. Mae'n parhau y ffordd ddiogelaf o deithio."
  • "Tri pheth sy'n gwerthu papurau newydd - trychinebau, rhyw a Superman."
  • "Anfonais ti atyn nhw, fy unig anedig fab."
  • "Fe ddywedais ti nadyw'r byd angen gwaredwr ond bob dydd yr wyf yn clywed pobl yn erfyn am un."
  • "Mae Superman yn farw - mae Superman yn fyw" - dau bennawd 'rhag ofn' Perry White ar gyfer dalen flaen y Daily Planet.

    Gwerth ei gweld?Er yn hir, mae'n haws i'w gwylio na sawl blocbystar diweddar.
    Ac mae digon i'w drafod; o gymharu actorion newydd mewn hen rannau i'r thema grefyddol gref.

    Ond peidiwch a disgwyl cystal datblygiad ac a gafwyd yn Batman Begins nac yn yr ail SpiderMan na'r un faint o hiwmor ac a gafwyd yn y tri Superman blaenorol.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Y Superman crefyddol - gweler ein gwefan crefydd


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy