Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
R. Williams Parry Cyfrinach llofft yn Afoneitha
Ebrill 2002
Bardd yr Haf neu Fardd y Gannwyll? Dyna'r cwestiwn gogleisiol sy'n cael ei ofyn gan ysgolheigion a beirniaid llenyddol Cymru yn dilyn darganfyddiad syfrdanol a wnaethpwyd yn ddiweddar mewn llofft yn Afoneitha!
Roedd Mrs Miriam Meddlesome, 63 oed, o Wavertree bellach, ond gynt o Ben- y-cae, yn gwacáu tŷ ei mam a fu farw ym mis Chwefror wedi gwaeledd hir a phoenus. Tra'n gwacáu cwpwrdd bach wrth ochr ei gwely fe ddarganfu bod hen gopi o Herald y Rhos wedi cael ei ddefnyddio gan ei mam i leinio'r drôr. 0 dan y copi hwn roedd dalen wedi melynu'n arw o lyfr ysgrifennu tebyg i'r rheini a ddefnyddid mewn ysgolion ers talwm.

Yn anffodus mae Mrs Meddlesome wedi colli ei Chymraeg er pan briododd â Sais a symud i ardal Lerpwl ond gallai weld mai darn o farddoniaeth o ryw fath ydoedd. Roedd yn amlwg ei fod yn hen ac felly fe'i dangosodd i gymdoges i'w mam ac fe awgrymodd honno y dylid ei anfon ar unwaith i'r Seler Win.

Cerdd gan Fardd yr Haf
Prin y gallai Dic Llwyd goelio ei lygaid pan welodd mai cerdd ydoedd gan neb llai na R. Williams Parry, Bardd yr Haf, ei hunan! Yn fwy na hynny yr oedd o'n siwr ei bod hi'n gerdd nad oedd neb arall yn gwybod am ei bodolaeth.

I fod yn hollol sicr fe'i hanfonodd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a derbyniodd y newyddion syfrdanol bod y gerdd yn ddilys ac yn ddarganfyddiad llenyddol o'r radd flaenaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell: "Wedi i ni ddefnyddio'r profion gwyddonol diweddaraf a mwyaf soffistigedig sydd ar gael i ddyddio'r papur a'r inc roeddem ni yn weddol ffyddiog ei fod yn perthyn i gyfnod pedwardegau cynnar y ganrif ddiwethaf - rhwng, dyweder 1942 a 1944.

"Bellach mae ein casgliadau ynglŷn â dilysrwydd y llawysgrifen hefyd wedi eu cadarnhau a'u hategu gan baleograffwyr mwyaf y Deyrnas Unedig yng Nghaergrawnt. O ganlyniad rydym ni'n berffaith hyderus bod y gerdd hon yn bendant yn waith dilys R. Williams Parry ar ei orau.

Neb yn gwybod am ei bodolaeth
"Yr hyn sydd fwyaf cyffrous amdani yw'r ffaith nad oedd neb yn gwybod am ei bodolaeth. Na chwaith sut y daeth hi i gael ei darganfod yn llofft hen wraig weddw yn ardal Rhosllannerchrugog.

"Mae'n deg cyfaddef bod y ffaith olaf hwn ynghyd â'r ffaith bod y bardd yn amlwg yn defnyddio rhai o eiriau tafodiaith gyfoethog y Rhos wedi gwneud rhai ohonom ni yn y Llyfrgell braidd yn amheus yn wreiddiol ynglŷn â'i dilysrwydd. Fodd bynnag, cofiwyd bod ei wraig annwyl, Myfanwy, yn 'ferch o fro Eglwyseg' a'i fod ef ei hun yn Cyffes y Bardd yn defnyddio'r union dafodiaith honno.

"Cofir hefyd i R.Williams Parry a'i gyfaill I.D.Hooson ysgrifennu cerdd bob un am y Band Un Dyn. Tybed - ac mae hwn yn dybed go fawr mae'n rhaid cyfaddef -ond tybed a oes cerdd gyfatebol nad oes neb yn gwybod amdani ar gael gan I.D.Hooson yn llechu rhywle yn llofftydd y Rhos neu'r Ponciau? Byddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl mae'n debyg.

"Wrth gwrs mae goblygiadau mwy materol yn codi o'r ychwanegiad hwn at ganon cerddi'r bardd. Er enghraifft, rai blynyddoedd yn ôl fe olygodd y Prifardd Alan Llwyd gyfrol gynhwysfawr yn dwyn y teitl Cerddi Cyflawn R. Williams Parry. Mae hi'n amlwg bellach y bydd yn rhaid cynnwys y gerdd hon mewn unrhyw ailargraffiad o'r gyfrol neu ei galw yn Gerddi Cyflawn R. Williams Parry Namyn Un.

"Ond pris bach fydd y gost ychwanegol hon o'i gymharu â'r trysor amhrisiadwy hwn a ddadorchuddiwyd! Mae dyled y genedl gyfan i'n cyfeillion yn y Rhos yn anfesuradwy."

Perthynas yn mynegi ei sicrwydd
Mae'r un sicrwydd ynglÅ·n ag awduraeth y gerdd yn cael ei adlewyrchu gan yr awdurdod pennaf ar farddoniaeth R. Williams Parry a pherthynas iddo o bell ar ochr ei daid, y Cyn-Athro Parry Thomas.

"Nid oes gennyf rithyn o amheuaeth nad gwaith Bob, fel y byddem ni yn ei alw, ydyw'r gerdd ysgytwol hon.

" Fel y mwyafrif o feirniaid llenyddol eraill yr wyf i wastad wedi bod o'r farn mai ei delyneg Tylluanod oedd un o'i gerddi gorau ac felly un o binaclau llenyddol yr ugeinfed ganrif.

" Ychydig a freuddwydiais nad oedd hi ond ymarfer ar gyfer y campwaith diweddarach hwn. Na chwaith cymaint mwy aeddfed a diamwys yw'r delyneg hon o'i chymharu â dim arall a ysgrifennodd Bob erioed.

"Nid wyf i'n credu dweud bod ei darllen a myfyrio drosti wedi newid fy meddwl amdano yn llwyr ac wedi cynyddu fy edmygedd ohono."

Darluniau mwy dynol
" Carwn dynnu sylw at ddwy elfen fach o gannoedd i geisio egluro hyn. Yn gyntaf, gymaint mwy dynol ac agos-atoch chi rywsut yw'r darluniau yn y gerdd hon rhagor y rhai braidd yn oeraidd a geir yn y gwreiddiol.

"Lle roedd y bont gynt a groesai'r dwr yn 'wag' ac yn annelwig y mae hi yn awr yn bont bendant - 'Pont y Gornel'. Ac O! mor gyfoethog ac ysbrydoledig yw cynodiadau 'pont' a 'chornel' gyda'i gynhesrwydd aelwydaidd! Pwy ond bardd a feddai ar 'galon wrendy beunydd, glust a glyw / Ei hen hyfrydwch yn y ddynol ryw' a fyddai erioed wedi breuddwydio am y fath gyfosodiad?

"Eithr mwy gwefreiddiol o lawer ydyw dwyster iasoer y pennill olaf. Roeddwn i'n argyhoeddedig, wrth reswm, fel un o'i gyfeillion pennaf, bod y myopia ofnadwy a'u poenodd fel bardd gydol ei oes neu o leiaf ers dyddiau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn fwy ingol i un o natur sylwgar nag ydoedd eu byddardod i Beethoven a Goya hyd yn oed. A na, nid wyf yn credu ei fod yn ormodiaith o fath yn y byd i gymharu Bob efo'r cewri hyn. I'r gwrthwyneb yn llwyr!

Cuddio'r baich rhag y byd
Yr hyn a'm synnodd i fel ei gydnabod i gyd oedd y modd stoicaidd y llwyddodd Bob yn ei gerddi, rhagor y ddau arall, i guddio'r baich annynol hwn rhag y byd - baich a fyddai wedi llethu unrhyw ddyn normal. Ychydig a wyddom ni ei fod ef wedi mynegi'r unigrwydd hwnnw mewn darlun mor ingol.

Mae'r darlun ohono ar ei ben ei hun yn ei lofft glawstroffobig gyda fflam y gannwyll wallgof olaf - y gannwyll a oleuodd ef ei hun mor ofalus a gobeithiol gynt - yn troi'r byd o'i gwmpas yn dduwch llwyr a diobaith, yn ddelwedd o boen pob artist gwrthodedig ymhob gwlad ac ymhob iaith ers dechrau'r byd.

"A'i ateb i'r boen a'r difaterwch hwn? Ei dderbyn! A hynny'n ddewr a dideimlad. Neu i ddyfynnu'r gerdd yn 'llon neu'n lleddf.'

Nid yw hi'n ormod i ddweud bod y gerdd hon wedi fy ysgwyd i fêr fy esgyrn. A lle gynt yr ystyriwn i Bob, y tyneraf o feibion dynion, yn un o feistri mawr barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yr wyf yn gwbl bendant nad ydyw hi yn heresi o fath yn y byd i honni ei fod ef bellach ymhlith y meddylwyr mwyaf creadigol a welodd diwylliant y Gorllewin ers dyddiau'r Dadeni Dysg!"

Mae hi'n anrhydedd felly i Nene gyhoeddi, a hynny am y tro cyntaf yn unman, gampwaith digamsyniol R. Williams Parry:

TWM-Y-RWM
Pan fyddai'r Rhos yn dywyll
O'r Sgwâr i Ben-y-stryd,
A'r Groes yn wag a chloc y Stiwt
Heb doc yn fiwt a mud,
Roedd Twm-y-rwm yr Afon Ddu
Yn crogi'i fam ar dop y ty.

Pan siglai hon wrth gortyn
0 dan y nos ddi-sêr,
Fe fyddai o yn llawn o dwyll
Yn gole cannwyll wêr;
Nysu'n ddidostur a wnâi o
I swn y gwynt o Stryt Y Go.

Pan lithrai Pont y Gornel
O'r golwg o'r fan hyn,
A nos o niwl a niwl y nos
Drosti yn lapio'n dynn,
Pan gaeai syrthni bigau'r brain,
Noswyliai Twm i bigo chwain.

A phan dywyllo'i gannwyll
Wedi'i wallgofnos graff,
A dyfod gosteg ddi-ystwr
Pob crogwr a phob rhaff,
Bydd Twm-y-rwm, yn ôl ei reddf,
Yn crafu'i din - yn llon neu'n lleddf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý