主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Brian Hughes Anrhydedd arall i Brian Hughes
Ebrill 1007
Ein llongyfarchiadau i Brian Hughes, Gresford (gynt o Aberderfyn, Ponciau) ar gael ei anrhydeddu gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Mae'r Urdd yn dewis cymdeithas neu unigolyn i'w anrhydeddu bob blwyddyn ac eleni cafodd cyfraniad Brian fel cyfansoddwr, arweinydd, cyfeilydd ac hyfforddwr llais ei gydnabod.

Wedi graddio o Goleg Prifysgol Cymru a Caerdydd, lle bu'n astudio piano gyda Patrick Piggot ac yn cyfeilio mewn Dosbarthiadau Meistr gyda Joan Hammond, Joan Sutherland a Sherill Milnes, daeth yn 么l i'r ardal yn athro yn Ysgol yr Alun, Yr Wyddgrug

Ei g么r cyntaf oedd Cantorion Ysgol Alun, ac mae disgleirdeb eu canu wedi'i gadw ar ddwy record.

Yn fuan wedyn sefydlodd G么r Genethod y Rhos cyn ffurfio c么r arall, Cantorion Cynwrig (1966 - 1981), c么r a fu'n perfformio ledled gwledydd Cymru, a fu'n darlledu ar Radio 3 a 4 ac ar deledu 主播大秀 a HTV.

Enillodd y c么r gystadleuaeth madrigal a hefyd gystadlaethau corau cymysg deirgwaith yn olynol (1971-73) yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan roi heibio cystadlu pan ddechreuodd Brian ar gyfnod maith o feirniadu yn y Genedlaethol.

Perfformiodd y c么r weithiau estynedig gan Mozart, Handel, Bach, Liszt, Schubert a Vivaldi a hefyd weithiau arloesol cyfansoddwyr fel Ives, Messiaen, Folke Rabe, Toch ac wrth gwrs weithiau gan Brian Hughes ei hunan.

Ar 么l cael ei benodi ar staff Coleg Cerdd Brenhinol Manceinion a'i wneud yn Gorfeistr Adran Opera'r Coleg , bu'n gweithio gyda chantorion proffesiynol gan arwain nifer o berfformiadau gyda ch么r a cherddorfa'r coleg gan gynnwys Spring Symphony (Britten).

Perfformiwyd ei opera Stars and Shadows gan y coleg ym Manceinion, Llundain a Birmingham.

Mae hefyd wedi arwain gweithydd sy'n amrywio o St John's Passion a Christmas Oratorio (Bach) i weithiau cyfoes fel The Waiter's Revenge (Stephen Oliver), The Two Fiddlers (Peter Maxwell Davis) a The Little Sweep (Britten)

Ym 1993 cafodd wahoddiad i weithio dros gyfnod o dri mis yn Awstralia fel Cyfarwyddwr Cerdd perfformiad cyntaf Billy Budd (Britten) yn y Conservatorium of Music Queensland.

Mae hefyd wedi arwain sawl corws proffesiynol fel Gothenburg Opera, Corau Buxton International, Chehenham Festival a The Britten Singers.

Fel hyfforddwr lleisiol mae wedi gweithio gyda chantorion rhyngwladol ac mae nifer o enillwyr y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn hael eu gwerthfawrogiad o'r hyfforddiant a gawsant ganddo.

Mae rhestr ei gyfansoddiadau i gorau'n faith - 17 o ddarnau i gorau meibion, 10 i gorau merched, 13 i gorau plant. rhai ohonyn nhw'n 25 munud o hyd, unawdau i denor, soprano (perfformiwyd ei Three Shakespearean Songs i soprano a phiano gyntaf 011 yn y Purcell Room ym 1992), a c mae ganddo 8 o ddarnau i fariton.

Perfformiodd y bariton Jeremy Hugh Williams ei gylch o ganeuon ar gerddi Dylan Thomas, Darkness comes psalming, yng Ng诺yl Gerdd Abertawe eleni.

Mae hefyd wedi cyfansoddi chwe darn i offerynnau a phedwar gwaith i gerddorfa (perfformiwyd Tanau, ei waith i gerddorfa, a band pres gan Gerddorfa Ffilharmonig Lerpwl a Band Pres Cory yn y Proms Cymreig yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ym 2004).

Mae dau o'i weithiau estynedig i G么r a cherddorfa wedi'u perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef. Salm i'r Creaduriaid (SATB a cherddorfa: 25 munud) a Pren Planedig (TTBB, soprano a cherddorfa :55 munud) .

Perfformiwyd ei Te Deum (SATB, soprano, bariton a ch么r plant:55 munud) yn Eglwys Ripon gan gymdeithas Gorawl Harrogate a' i Requiem John Roberts ( SATB, TTBB, tenor ac offerynnau: 58 munud) yn Nhrawsfynydd, Cadeirlan Llanelwy yng Ng诺yl Gerdd Gogledd Cymru ac yn Ne Cymru.

Mae ei gyfraniad i gerddoriaeth eisoes wedi ei gydnabod gan golegau. Mae'n Gymrawd Coleg Cerdd Manceinion a hefyd Goleg Cerdd a Drama ac rydyn yn ei longyfarch ar dderbyn ei anrhydedd diweddaraf gan Urdd Cerddoriaeth Cymru.

Gyda lIaw, os hoffech gael mwy o wybodaeth am Brian Hughes ewch i'w wefan ar www.brianhughes.uk.com


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy