Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Parc Stryt Las Harddu Parc Stryt Las
Mai 2009
Mae plant Johnstown wedi bod yn brysur yn tacluso a chlirio sbwriel o Barc Stryt Las...

Gyda diolch am nawdd ariannol gan Mersey Waste Holdings Cyf., Sefydliad Ailgylchu Gwastraff Amgylcheddol (WREN), mae Prosiect Bywyd Gwyllt Cymunedol Johnstown dan gyfarwyddyd Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru, wedi bod wrthi'n datblygu Parc Stryt Las yn Johnstown. Bydd y gwelliannau y maen nhw'n ei wneud yn cyfrannu tuag at Wrecsam yn ei Blodau pan fydd yr ardal yn cystadlu yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau a drefnir gan y Gymdeithas Arddio Brenhinol. Mae nifer fawr o wirfoddolwyr lleol wedi bod yn helpu ar Brosiect Stryt Las a fydd o fantais i fywyd gwyllt y safle, i ymwelwyr ac i'r gymuned leol.

Meddai Remani Jones (Swyddog Bywyd Gwyllt Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru): "Mae Parc Stryt Las yn ardal bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig amffibiaid sy'n cynnwys y Fadfall Grib Aur, yn wir mae Stryt Las yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n rhan o Safle Cadwraeth Arbenning Johnstown - a hynny am ei bod yn un o ardaloedd pwysicaf Ewrop ar gyfer magu amffibiaid."

Mae'r amffibiaid hyn, fodd bynnag, mewn perygl am fod datblygiadau adeiladu ac yn y blaen yn cymryd darnau helaeth o'u cynefin; mae cyflwyno rhywogaethau o blanhigion estron i'r llyn, fel ewinedd y gath ('stonecrop') o Awstralia a hefyd bysgod sy'n bwyta madfall, yn fygythiad i boblogaeth y fadfall grib aur ar y safle. Mae'r Adran Bywyd Gwyllt ym Mharc Stryt Las yn gofalu am y llyn a'r llynnoedd bach ar y safle, yn gwneud arolwg o'r amffibiaid, yn achub y madfall, llyffaint a broga o'r ffos wrth ymyl y ffordd gydol misoedd y gwanwyn a'r haf.

Meddai Remani Jones, "Mae ymateb pobl leol i harddu Parc Stryt Las wedi bod yn wych, gan gynnwys gwaith anhygoel plant yr ysgolion leol. Maen nhw i gyd wedi gwella amgylchedd yr ardal a chynyddu gwerth addysgol a bywyd gwyllt y parc. Bu plant Ysgol y Babanod, Johnstown, yn helpu i lunio Bwrdd Egluro newydd, plant Ysgol Gynradd Johnstown yn adeiladu llochesi gaeafu i'r amffibiaid i'w gwneud hi'n haws iddyn nhw fridio, a phlant Ysgol Maes y Mynydd yn symud y sbwriel oddi ar y safle. Mae eu gwaith caled wedi bod o fantais i'r amgylchedd ac ymwelwyr fel ei gilydd.

"Mae taflu sbwriel wedi bod yn broblem fawr ym Mharc Stryt Las yn ddiweddar a rydyn ni'n gobeithio y bydd gwaith y plant yn glanhau'r safle yn codi cywilydd ar y rhai sy'n taflu sbwriel yno ac yn helpu i ennyn balchder yn y safle yn hytrach na'i ddefnyddio fel twll sbwriel a gwastraff tŷ. Mae biniau sbwriel wedi eu gosod ar y safle a gobeithio y byddan nhw'n eu defnyddio ac y bydd pobl sy'n cerdded eu cŵn ar hyd lwybrau'r Parc yn codi baw eu cŵn yn lle ei adael ar y llwybrau, gan beryglu iechyd plant a phobol."

Bydd beirniad Cystadleuaeth y Gymdeithas Arddio Frenhinol 'Cymru yn ei Blodau' yn ymweld â Pharc Stryt Las a mannau eraill yn yr ardal yn ystod Gorffennaf a byddan nhw'n cyfarfod â'r plant a fu'n gweithio i harddu amgylchedd y Parc ac yn plannu planhigion yno.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý