Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
David Evans ac Eifion Wyn Jones
Mehefin 2005
Cafwyd cam arall yn hanes adfer y Stiwt ddiwedd Mai pan osodwyd plac yng nghyntedd prif fynedfa'r Stiwt.
Mae'r plac yn coffau agoriad gwreiddiol y Stiwt ym 1926, ei gau ym 1977 a'i ailagor ym 1999.

David Evans fu'n gyfrifol am gael y plac a gafodd ei gyllwyno i'r Stiwt gan Gor Meibion Orffiws y Rhos. Mae David Evans yn gyn-gadeirydd y grwp a fu, oddi ar 1985, yn gyfrifol am ymgyrch codi arian ar gyfer adfer yr hen ogoniant i'r Stiwt.

Mae'r plac wedi'i lunio o lechen y Berwyn ac mae'n cofnodi pennod arall yn hanes yr adeilad unigryw hwn. Mae David Evans, un o aelodau gwreiddiol Cor Orffiws y Rhos, a'r Cyfarwyddwr Cerdd presennol, Eifion Wyn Jones, yn cofio fel y byddai Cor Orffiws y Rhos yn ymarfer yno pan gafodd y cor ei ffurfio ym 1957 ac mae' r cor yn un o nifer o gymdeithasau cerdd yr ardal sy'n dal i ymarfer yn y Stiwt a'u seiniau'n atseinio oddi ar waliau brics coch Rhiwabon yr adeilad a godwyd o.

Meddai David Evans, "Does gen i ddim cof bod 'ne unrhyw blac ar waliau'r Stiwt ers talwm. Roedd yn fwriad o' r dechrau cyntaf cael seremoni swyddogol arbennig i ailagor y Stiwt ond rywsut neu'i gilydd ac er mawr syndod, ni ddigwyddodd hyn. Yn dilyn sgrws wrth fynd heibio tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd dim byd yn yr adeiladyn cofnodi holl ddigwyddiadau cyffrous ei hanes.

Penderfynodd aelodau Cor Orffiws y Rhos yr hoffen nhw nodi eu cysylltiad maith a' r Stiwt trwy gyflwyno' r plac. Mae'r Cor yn hapus ac yn falch o gyfrannu fel hyn."

Ac meddai Eifion Wyn Jones, " Ddim neuadd goffa ydi'r Stiwt ond adeilad byw, cyffrous sy' n cael ei ddefnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau, ac mi rydw i' n falch o weld fod cymaint o wahanol fathau o gerddoiaeth yn dal i yn rhan annatod o gyfansoddiad yr adeilad. Mae'n ffantastig i weld pob cenhedlaeth yn defnyddio'r adeilad yn rheolaidd. Mae' r cor yn hynod o falch o' r cysylltiad a fu rhyngddo a' r Stiwt dros y blynyddoedd."

Parhaodd Cor yr Orffiws i noddi'r Stiwt pan gynhaliwyd cyngerdd yno nos Sadwrn Mai 14, gan rannu'r llwyfan efo Eleri Woolford y soprano ac enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hefyd yn ymddangos ar Iwyfan y Stiwt, am y tro cyntaf erioed, roedd Cor Meibion y Traeth, Sir Fon dan arweiniad Annette Bryn Parri a oedd hefyd yn cyfeilio i Eleri Woolford.

Marc Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý