Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Rhai o flwyddyn 11 yn edrych yn smart iawn Ffrogiau, ffôm a ffarwel
Gorffennaf 2005
Ie, ffarwel i Flwyddyn 11 Ysgol Morgan Llwyd! "O'r diwedd" mae'n siwr oedd geiriau'r athrawon ond roedd wythnos ein hymadawiad yn un fythgofiadwy i ni.

Ar ôl pum mlynedd o ddysgu a chwarae ac o chwerthin a chrio dywedwyd ffarwel mewn steil!

Eleni am y tro cyntaf daeth un o draddodiadau'r UDA i Forgan Llwyd.

Do, fe ddaeth y 'Prom'. Clwb Golff Clay's Farm oedd lleoliad prom gadael cyntaf Ysgol Morgan Llwyd ar nos Fercher, Mai 18fed.

Wrth i'r disgyblion gyrraedd llanwyd y dreif gyda 'limos' hir gwyn, un neu ddau binc ac ambell i Rolls Royce urddasol.

Ond nid 'Pringle' oedd gwisg y noson ond ffrog hir a tuxedo.

Allan o'r limos daeth gwledd i'r llygaid - merched hardd mewn ffrogiau hir o bob lliw, defnydd a steil a'r gwallt a'r colur yn berffaith.

Nid oedd y bechgyn wedi ein siomi chwaith yn eu siwtiau smart a'r bo teis.

Heb yn wybod i ni roed Mr Gareth Evans, Pennaeth Blwyddyn 11 wedi trefnu ein bod yn derbyn rhodd i gofio'r noson.

Derbyniodd y merched lwy garu a'r bechgyn par o gyfflincs a'r ddraig goch arnynt.

Diolchwyd i Mr Evans gan Kathryn Pearson a Rachel Davies, nid yn unig am ei waith yn trefnu'r noson ond hefyd am ei ofal diflino drosom yn sytod y ddwy flynedd diwethaf.

Fel gyda phob parti da gorffenwyd y noson gyda disgo a dywedasom ffarwel gyda dawns, sws ac ambell ddeigryn.

Ond roedd mwy o hwyl i ddod gan mai dydd Iau oedd ein diwrnod gadael go iawn, ac unwaith eto profwyd bod Ysgol Morgan Llwyd yn gwneud bob dim mewn steil.

Am unwaith anghofiwyd y rheolau gwisg ac am y clustlysau bondigrybwyll, diwrnod o hwyl ydoedd o'r dechrau i'r diwedd.

Ynghyd a'r ysgrifennu ar grysau traddodiadol cafwyd seremoni gwobrwyo disgyblion am eu cyfraniad 'answyddogol' i fywyd ysgol, karaoke, rownderi yn erbyn staff a gemau potes.

Ond uchafbwynt y dydd, os nad y pum mlynedd oedd y ffeit ffôm. 147 o bob ifanc heini cyffrous a disgwylgar wedi eu cloi yn y cyrtiau tenis gyda 300 can o ffôm! Dan chwifio breichiau a cholli dagrau yr aethom adre'r prynhawn hwnnw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý