Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Y pafiliwn pinc Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011
Tachwedd 2009
Adroddiad gan Nene am baratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.

Daeth cynulleidfa niferus i Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, nos Fawrth Medi 29 am 7yh. Roedd neuadd yr ysgol yn llawn - gellid tybio fod tua 300 o gynulleidfa, yn Gymry Gymraeg a di-Gymraeg yr ardal (roedd offer cyfieithu ar y pryd ar gael). Yn fwy calonnog fyth, cyhoeddwyd fod y rhestr ymddiheuriadau yn rhy faith i'w darllen ar goedd.

Dosbarthwyd a chasglwyd ffurflenni yn gofyn am enwau a chyfeiriadau a pha bwyllgorau yr hoffai unigolion ymuno â nhw a phwy fyddai'n awyddus i ymuno â Chôr yr Eisteddfod.

Estynnwyd croeso i bawb gan Aled Rhys Roberts, Arweinydd Cyngor Sirol Wrecsam, ac yna cyflwynodd yr awenau i Dafydd Whittall, Llywydd Llys yr Eisteddfod. Yna eglurodd Hywel Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, y newidiadau yn y dull y byddai'r is-bwyllgorau'n gweithredu: cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr is-bwyllgorau yn Ysgol Morgan Llwyd am 6.30 nos Lun, 19 Hydref, ac yna bydd y pwyllgorau'n treulio diwrnod cyfan yn yr ysgol ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd 2009, i ddewis testunau'r cystadlaethau, cyn eu cyflwyno i dderbyn sel bendith pwyllgorau canolog pob adran ar 23 Ionawr 2009. Gobeithir y bydd y Rhestr Testunau, gan gynnwys enwau'r sawl sydd am noddi gwobrau, yn barod i'w argraffu erbyn y gwanwyn. Dywedodd fod y dull hwn o weithredu yn fwy hwylus na chynnal cyfresi o gyfarfodydd wythnosol.

Cafodd y gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau ac yna aethpwyd ymlaen i ddewis y prif swyddogion ar gyfer y Pwyllgor Gwaith. Etholwyd Aled Rh. Roberts yn Gadeirydd, y Dr J. Philip Davies yn Is-Gadeirydd a derbyniwyd enwebiad Gareth Thomas yn ysgrifennydd.

Daeth Prydwen Elfed-Owens, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, â'r cyfarfod i ben, gan ddiolch i bobl ardal sir Wrecsam am eu cefnogaeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý