Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Clawr Y Caffi Aled Lewis Evans yn lansio ei gyfrol ddiweddara'
Mai 2002
Nid yw enw Aled Lewis Evans yn ddiarth i ddarllenwyr Nene, nac ychwaith i gyn-ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd, lle bu Aled ei hun yn ddisgybl ac wedyn yn athro.
Bu ei lais yn gyfarwydd i wrandawyr Sain y Gororau am flynyddoedd yn nyddiau cynnar yr orsaf radio honno ac wrth hel straeon ar gyfer ei raglenni gwelwyd Aled yn aml ar strydoedd ac aelwydydd ardal y Rhos.

Dyn ei filltir sgwâr yw Aled ac mae wedi seilio llawer o'i gerddi a'i nofelau yn ardaloedd Wrecsam a'r Rhos ac mae ei gyfrol newydd Y Caffi wedi'i seilio ar y cymeriadau sy'n mynd a dod yng nghaffi Llyfrgell Wrecsam.

Darn bach o fywyd
Ond er mai dyn ei filltir sgwâr yw Aled, mae gorwelion ei gyfrolau yn estyn llawer pellach na'r ardal hon, ac mae'r caffi yn ddarn bach o fywyd pobol yn y gymdeithas sydd ohoni ar ddechrau'r 21 ganrif.

Meddai Aled am ei nofel, "Mae'n damaid realistig o fywyd sy'n disgrifio'r cyfnod ôl -fodernaidd lle mae gan bob cymeriad ei realiti a'i safonau ei hunan. Mae rhai'n dod i'r caffi i chwilio am loches rhag holl newidiadau a helbulon y byd mawr o'u hamgylch. Yn y gyfrol ceir nifer o ymsonau sy'n rhoi cyfle i'r cymeriadau fyfyrio uwchben eu hunaniaeth arbennig eu hunain."

Mae Aled wedi bod yn gweithio ar y llyfr ers deng mlynedd bellach ac i raddau helaeth sail y gyfrol yw'r oriau a dreuliodd yntau yng Nghaffi'r Llyfrgell dros y blynyddoedd - lle a fu'n ysbrydoliaeth iddo ac sy'n agos iawn at ei galon.

Cymdeithas hynod
"Mae'ne gymdeithas hynod yno", meddai, "a dwi'n gobeithio na fydd yr holl newidiadau a'r cynlluniau newydd sydd ar y gweill ar gyfer y safle yn golygu bod y caffi am ddiflannu. Mae'n haeddu ei ddiogelu, gan ei fod yn ganolbwynt i fywydau pobol - mae'n fwy na chaffi, mae'n fan cyfarfod - mae'n Gaffi Bywyd lle rydyn ni'n gallu cymryd hoe, cael sgwrs neu ymlacio wrth y byrddau ar ôl ymweld â'r llyfrgell."

Mae nifer o gymeriadau yn y gyfrol y mae Aled wedi eu cyfarfod o bryd i'w gilydd dros y blynyddoedd - er enghraifft y cyn-athro oedrannus o'r Rhos, Dai Owen, sy'n gymeriad amlwg yn y gyfrol newydd ac ambell gymeriad digon diddorol a thra lliwgar o Wrecsam.

Rhannu eu pryderon a'u gobeithion
Mae'r rhai sy'n ymweld â'r caffi'n sgwrsio ymhlith ei gilydd ond mewn ambell ymson maen nhw'n cyfarch y darllenydd ac yn rhannu eu pryderon a'u gobeithion ag o.

Mae'r gyfrol yn gymysgedd o'r difyr a'r dwys a byddwch yn adnabod y dafodiaith ac yn ymateb i ffraethineb unigryw y fro. Bydd pynciau trafod yn ingol gyfarwydd i chi hefyd - effeithiau cau gwaith dur Brymbo ar deuluoedd ac unigolion, technoleg yn bygwth swyddi, a chymeriadau unig sydd ar goll yn hwrli-bwrli'r byd cyfoes.

Y Caffi yw Nofel y Mis ar gyfer mis Mai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý